Wrth i ganmlwyddiant Rhyfel Mawr 1914-1918 ddod i ben, mae Archifdy Ceredigion yn parhau i gyhoeddi’r blog wythnosol ‘Cofnodi’r Rhyfel Mawr’  am brofiad Sir Aberteifi yn ystod y rhyfel.

Ers mis Awst 2014 mae Margaret Jones o Archifdy Ceredigion wedi cynhyrchu arddangosfa wythnosol, a arddangosir yn Llyfrgell y Sir, swyddfeydd cyngor Aberystwyth, ac mewn mannau eraill, ac sydd wedyn yn cael ei gyhoeddi ar y blog yma: https://ww1ceredigion.wordpress.com/

Mae Margaret wedi cynhyrchu, hyd yma, 220 o arddangosfeydd ar wahân sy’n adlewyrchu’r hyn y mae pobl Sir Aberteifi yn ei ddysgu, ac yn gwybod, ac yn teimlo am brofiad y rhyfel. Mae’r broses wedi bod yn un diddorol ac emosiynol. Mae adlewyrchu cynnydd y gwrthdaro dros y cyfnod wedi ein helpu ni i ddeall sut wnaeth ein sir ymateb i’r rhyfel. A hyd yn oed can mlynedd ar ôl y digwyddiad rydym yn teimlo’n drist wrth ddysgu am farwolaethau bobl yr ydym bron yn teimlo ein bod yn adnabod.

Bu’r prosiect yma yn ymgymeriad anhygoel (diolch i Margaret!), ac un arwyddocaol o ran ein perthynas gyda’n cofnodion a’n darllenwyr.

This slideshow requires JavaScript.

Wythnos yma, sef wythnos 221 y rhyfel, nodwyd Margaret:

Colledion trwm mwy fyth. Newyddion trist i Aberteifi yn y Roll of Honour ynghylch marwolaethau’r Uwchgapten W. E. Thomas a’r Is-lefftenant. Gwilym Phillips, ac mae’r Preifat David Lloyd o Landysul hefyd wedi cael ei ladd ar faes y gad.

Sonnir am farwolaethau pellach yng ngholofn Aberystwyth;-mae’r Preifatiaid George Vearey a John R. Edwards wedi cael eu lladd fel y mae tri chyn-fyfyriwr o Brifysgol Cymru.

Mae’r Preifatiaid C.R. Morris a Jack Theophilus wedi cael eu hanafu tra bod y Lefftenant H.T. Edwards yn ysgrifennu adref mai’r teimlad ym Macedonia yw bod y rhyfel yn dod i ben.

Cyhoeddir llun o’r Preifat Daniel Evans Jones o Fferm Glanrafon, Llanbadarn (fel y crybwyllwyd yn yr wythnosau blaenorol) sydd wedi marw o’i glwyfau yn yr ysbyty yn Ffrainc.

Ym Meulah, cynhelir gwasanaeth er cof am y Preifat Lewis Jones sydd wedi syrthio ar ffrynt Salonika.

Ysgrifennir cerdd ‘Er Serchog Goffadwriaeth’ gan ‘Hen Volunteer’ er cof am yr Uwchgapten R.W. Picton Evans a fu farw, fel y crybwyllwyd yn yr wythnosau blaenorol, yn yr ysbyty ym Mhalestina ar 13 Medi.

Cerdd yw ‘Y Carcharor Rhyfel’ gan Glanceri yn son am hiraeth y carcharor rhyfel, tra bod ‘Mae’r Ceisar wedi methu’ yn gerdd gan Cynfelyn o Ffostrasol am fethiant y Caiser i feddiannu tir a môr.

Mae llawer o achosion o flliw yn Llanbedr Pont Steffan ac mae sawl carcharor o’r Almaen yn dioddef o’r clefyd. Yn anffodus, mae Mr Evan Williams a gafodd ei ryddhau o’r fyddin ychydig fisoedd yn ôl wedi marw o’r ffliw yng Nghaerdydd ar ôl cael swydd fel cynorthwywr mewn ysbyty yng Nghaerdydd.

Mae’r Capten Gwilym James yn parhau i ysgrifennu yn ei ddyddiadur gan gofnodi ei fod ef a Nan wedi gadael Aber am Paddington am 12.30p.m. ar 28 Hydref. Mae Nan yn ffarwelio ag ef yn Victoria ar fore’r 29ain ac mae’n cyrraedd Boulogne am 12.a.m. lle mae’n aros yng Nghlwb y Swyddogion. Ar y 30ain mae’n sôn am deithio ar drên ambiwlans ac ambiwlans modur. Ar y 31ain mae’n croesi’r ‘llinell Hindenburg’, ac ar 1 Tachwedd mae’n derbyn gorchmynion ynghylch y batmyn. Ar y 3ydd mae’n ysgrifennu am 30 dihangwr o Awstralia wedi troi’n ysbeilwyr.

Digwyddiad hapus yn Aberteifi wrth i Mr J. Williams briodi Miss Evans. Mae dau ymwelydd o Seland Newydd sy’n gwasanaethu yn Ffrainc ond sydd wedi cyrraedd Aberteifi am ychydig ddiwrnodau o seibiant yn llofnodi’r gofrestr fel tystion. Mae priodas arall yn digwydd yn Llanbedr Pont Steffan pan mae Miss Hannah Maria Evans o Home Farm, Glyn Hebog yn priodi’r Preifat William Harold Davies, Tonypandy.

Bydd D.L. Jones a’i Feibion yn arwerthu nifer fawr o Esgidiau’r Fyddin ym Mrynawel, Tregaron am 2p.m. ar ddydd Mawrth, Tachwedd 5.

Leave a Reply