Mae Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych wedi ei ddyfarnu â £130,000 gan Wellcome i restru a chadw cofnodion hanesyddol Ysbyty Gogledd Cymru – y prif sefydliad yng Ngogledd Cymru ar gyfer gofalu am y rhai oedd yn dioddef o salwch meddwl. Hwn oedd y cyflogwr mwyaf o bell ffordd yn yr ardal ac mae’r gweithgareddau a gofnodir yn ei archifau swmpus yn adlewyrchu ei bwysigrwydd ym mywyd cymdeithasol ac economaidd yr ardal, gyda’i fferm, gweithgareddau chwaraeon, digwyddiadau cymunedol a gwyliau diwylliannol.
Mae Lyndsey Sutton, Archifydd y Prosiect, yn ysgrifennu am y prosiect ar blog Archifau Sir Ddinbych. Dyma ei erthygl ar Barlys Cyffredinol y Gorffwyll yn Ysbyty Gogledd Cymru.
Ar 31 Awst 1917, cafodd Samuel Morris ei dderbyn i Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd yn gyn-filwr a ryddhawyd o’r fyddin ar 9 Chwefror 1917 ar y sail nad oedd mwyach yn gorfforol gymwys i wasanaethu. Mae cofnodion yr ysbyty amdano’n dweud fod ganddo “no idea of time or place, incoherent speech, tremor of tongue, face and limbs” pan gafodd ei dderbyn. Bu farw ar 29 Ionawr 1918 yn 41 mlwydd oed, gan adael gwraig a phump o blant ar ei ôl.
Wrth gael ei dderbyn, cafodd Samuel ddiagnosis o barlys cyffredinol y gorffwyll (general paralysis of the insane), sef anhwylder niwroiseiciatrig sy’n achosi newidiadau dirywiol yn yr ymennydd. Erbyn 1917, roedd yn hysbys bod y math hwn o barlys yn deillio o siffilis heb ei drin a’i fod fel arfer yn digwydd o fewn deng mlynedd i’r haint siffilis yn y lle cyntaf. Mae cofnodion Samuel o’r fyddin yn dangos ei fod wedi’i ddiagnosio â siffilis yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu yn Ne Affrica.
Bu cynnydd yn nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn y degawd ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod y dynion yn dal siffilis yn ystod eu gwasanaeth milwrol. Yn ei adroddiad ym 1928, dywedodd Frank G. Jones, yr Uwch-arolygydd Meddygol:
“Cases of general paralysis is being now definitely regarded as due to venereal disease and also that it sets about 10 years after primary infection and it is now ten years since the war ceased, it is of course natural that we can now expect the annual increase to abate and hope that the figures become less again”.
Adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol, 1928. (Cyfeirnod HD/1/10).
Ni fu cymaint o gynnydd yn y niferoedd a dderbyniwyd gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll i Ysbyty Gogledd Cymru o gymharu â rhai ysbytai, gan fod poblogaeth yr ardal yn gymharol ddisymud. Yn wir, roedd y broblem yn llawer gwaeth mewn dinasoedd, yn enwedig mewn rhai â phorthladdoedd. Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol o 1931 yn dal i ddangos y cynnydd a fu yn niferoedd y rhai a dderbyniwyd gyda’r parlys yn y ddeng mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, cyn gostwng eto ar ôl 1928.
Nifer yr achosion o barlys cyffredinol y gorffwyll a dderbyniwyd | |
1924 | 3 |
1925 | 3 |
1926 | 6 |
1927 | 8 |
1928 | 12 |
1929 | 7 |
1930 | 8 |
1931 | 2 |
O adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol, 1931. (Cyfeirnod HD/1/10).
Roedd dulliau o drin y clefyd yn cael eu datblygu yn y 1910au ac ym 1922, Ysbyty Meddwl Whittingham yn Swydd Gaerhirfryn oedd y cyntaf ym Mhrydain i drin cleifion gan ddefnyddio therapi malarïaidd a oedd yn cynnwys heintio’r cleifion â malaria i achosi clefyd gwres, a oedd yn aml yn atal parlys cyffredinol y gorffwyll rhag datblygu. Gan fod diffyg cyfleusterau ar gyfer y math hwn o driniaeth yn Ysbyty Gogledd Cymru, roedd cleifion yn cael eu hanfon i Ysbyty Meddwl Caer o 1926 ymlaen.
“On January 19th1926, I transferred a male patient to Chester Mental Hospital. He received inoculations, and has been discharged recovered to his home. It is my opinion that in early and suitable cases of G.P.I. the disease can be arrested by this malarial treatment”.
Adroddiad blynyddol yr Uwch-arolygydd Meddygol, 1926. (Cyfeirnod HD/1/9).
Ymhen amser, cyflwynwyd dulliau newydd o drin yr anhwylder, gan gynnwys pigiadau sylffwr y gellid eu rhoi yn Ysbyty Gogledd Cymru. Yn y 1940au, roedd dyfodiad penisilin i bob pwrpas yn ddiwedd ar y problemau a oedd yn gysylltiedig â siffilis ac fe ostyngodd niferoedd y rhai a dderbyniwyd i ysbytai meddwl gyda pharlys cyffredinol y gorffwyll yn sylweddol.
Lindsey Sutton
Archifydd y Prosiect (Datgloi’r Seilam)
(Mae cofnod Samuel Morris o’r fyddin yn cael ei gadw yn yr Archifau Gwladol, cyfeirnod WO 363, a gallwch eu gweld ar https://www.findmypast.co.uk/).