Conwy Archive Service ConservatorMae gwaith yn mynd rhagddo yng Ngwasanaeth Archifau Conwy i gadw a digideiddio mwy na 400 o ddarluniau pensaernïol o gasgliad Sidney Colwyn Foulkes (1884-1971) diolch i grant o £12,898 a ddyfarnwyd ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadw Llawysgrifau Cenedlaethol a MALD.

Pensaer Arloesol o Fae Colwyn oedd Colwyn Foulkes a sefydlodd bracdis llwyddiannus yn ei dref enedigol.  Chwaraeodd ran bwysig wrth ail-lunio’r safon ar gyfer tai cymdeithasol yn yr 1950au gyda chartrefi ymarferol ac atyniadol wedi eu dylunio yn dda ac a dderbyniodd ganmoliaeth gan Clough Williams Ellis a Frank Lloyd Wright.  Ef oedd un o’r penseiri tirlun diwydiannol cyntaf, yn goruchwylio datblygiadau mawr mewn amgylcheddau gweledol sensitif; sylfaenydd Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ac yn weithredol o fewn Cyngor Gwarchod Cymru Wledig.

Mae’r darluniau a ddewiswyd yn cynrychioli’r math o adeiladau sydd wedi bod yn ddiamddiffyn o safbwynt newidiadau mewn anghenion cymdeithasol neu fusnes, neu sydd wedi para yn hirach na’r cyfnod y buont yn ddefnyddiol; banciau, cartref plant, mannau addoli a sinemâu. Mewn sawl achos, y darluniau o bosib yw’r unig dystiolaeth bod yr adeiladau hyn a fu unwaith o bwysigrwydd dinesig erioed wedi bodoli.

Nid oes yr un banc gweithredol bellach yng Nghonwy, pwnc llosg lleol i dref sirol a chyrchfan i ymwelwyr o bedwar ban byd. Mae’r casgliad yn cynnwys cynlluniau ar gyfer 3 banc o ddechrau’r ugeinfed Ganrif yng Nghonwy a Deganwy sydd wedi eu hail gynllunio fel bwytai neu fusnesau eraill i dwristiaid.

Sefydliad elusennol i blant sâl o Fanceinion oedd Cartref Coffa Dr Garrett i Blant, a gaeodd ddeg mlynedd ar hugain yn ôl.  Ar y safle roedd cabanau troadwy anarferol a oedd yn golygu bod plant oedd yn gwella yn cael manteision awyr y môr a heulwen.  Mae llawer o gyn-drigolion wedi dod i’r archif i hel atgofion dros y casgliad o luniau ac i ymweld â’r safle, lle mae ystâd o dai digon digyffro bellach.

Adeiladwyd Eglwys Crist Llandudno yn yr 1880au fel Capel Presbyteraidd Saesneg.  Cafodd ei addasu gan Colwyn Foulkes at bwrpas crefyddol parhaol yn yr 1980au ond bellach mae’n fenter chwarae plant o’r enw ‘Bonkerz’.  Mae hyn yn arferol ar gyfer eglwysi a chapeli plwyfi, sydd yn ddiamddiffyn wrth i enwadau ei chael hi’n anodd lleihau eu portffolio adeiladau.

Roedd sinemâu yn arbenigaeth gan y pensaer, a derbyniodd Wobr Sinema’r Flwyddyn yn 1936. Roedd Y Palas yng Nghonwy yn heriol iawn.  Llwyddodd i greu adeilad modern oedd yn gweddu’n dda i’w leoliad o fewn tref gaerog Edwardaidd. Doedd y tu allan fodd bynnag, ddim yn datgelu cyfrinach ei du mewn cyfoes gyda’i awditoriwm ysgubol a’i lwyfan gyda cholofnau arian bob ochr.  Goleuadau holophane arddangosiadol oedd yno yn llenwi’r tu mewn â golau.  Mae’r adeilad yn bodoli hyd heddiw ond yn anffodus mae wedi dirywio ac ond yn cael ei ddefnyddio fel Neuadd Bingo.  Comisiynwyd Colwyn Foulkes i ddylunio llawer o sinemâu eraill yn yr 1930au yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr, ond does yr un ohonynt wedi goroesi yn eu ffurf wreiddiol (neu o gwbl).

Meddai’r Archifydd Susan Ellis: “Mae darluniau pensaernïol yn cynrychioli adnodd sylweddol ar gyfer ymchwil. Gyda’r grant hwn gallwn sicrhau bod cofnod o’r adeiladau hyn fu’n bwysig ar un tro yn goroesi ac ar gael yn ddigidol.”  Bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn hydref 2018.

Leave a Reply