Ar ddydd Gwener 17eg o Dachwedd bydd ymgyrch Archwilio eich Archif yn cael ei lansio yn swyddogol yn Archifau Morgannwg gan y gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug.
Nod ymgyrch Archwilio eich Archif yw agor y casgliadau ac archifau gwych sy’n cael eu gwarchod gan sefydliadau – cyhoeddus a phreifat – ar draws y DU ac Iwerddon, beth bynnag fo’u maint, a ble bynnag y maent.
Mae’r ymgyrch yn eiddo i’r sector ei hun ac yn cael ei arwain gan ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys The National Archives (UK) a’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion (y DU ac Iwerddon), ac yn cael ei gefnogi yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Archifau ledled Cymru yn dathlu ac yn arddangos y gorau o archifau a gwasanaethau archifol rhwng y 18fed o Dachwedd a 26ain o Dachwedd 2017.
Meddai’r gyflwynwraig ar ddarlledwraig Mari Grug:
“Mae ymweld â archifdy yn gallu mynd â chi ar antur ac efallai y byddwch chi’n dod o hyd i lawer mwy nag yr oeddech chi’n ei ddychmygu. Mae Archifau’n galluogi pob un ohonom i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd ein cymunedau ”
Meddai Rhian Diggins, Uwch Archifydd Archifau Morgannwg:
“Mae Casgliad Archifau Morgannwg yn cynnig ffenestr i’r gorffennol, yn helpu ni i ddarganfod sut bu pobol fel ni yn byw eu bywydau yn yr oes a fu, ac yn adlewyrchu trawsnewidiad Morgannwg o gymuned wledig i gadarnle diwydiannol bu’n pweru’r byd.”
Mae archifau yn llawn cynnwys diddorol i ddarllen, cyffwrdd ac archwilio, ac nid yw’r rhan fwyaf ohono ar gael ar y wê. Cymerwch amser i archwilio archifau – byddwch chi’n rhyfeddu at beth sydd i’w ddarganfod. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ffasiwn, chwaraeon, bwyd neu UFOs, bydd rhywbeth i’ch ysbrydoli mewn archifau. I ddarganfod mwy am archifau, a sut y gallwch chi ddechrau eich antur eich hun, ewch i http://www.exploreyourarchive.org.
Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i ymuno yn yr ymgyrch Archwilio eich Archif ar Twitter gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eu storïau a’u lluniau gan ddefnyddio’r hashtag #ArchwilioArchifau.
Bydd hashtags dyddiol hefyd yn cael ei ddefnyddio:
Dydd Llun 20 Tachwedd: #FfasiwnArchifau
Dydd Mawrth 21ain Tachwedd: #ArchifauBlasus
Dydd Mercher 22 Tachwedd: #ArchifauBlewog
Dydd Iau 23ain Tachwedd: #DarganfodArchifau
Dydd Gwener 24 Tachwedd: #CaruArchifau
Dydd Sadwrn 25 Tachwedd: #ArchwilioArchifau