Mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2016, cafodd gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru eu gwobrwyo am eu gwaith.

volunteer-1020x1024
Mae ‘Ein Helpu i Gyflawni’, cynllun Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ehangu mynediad i archifau cenedlaethol Cymru trwy ddatblygu cnewyllyn o wirfoddolwyr medrus, wedi ennill y Wobr Gwirfoddoli Archif genedlaethol fawreddog ar gyfer 2016. Mae’r wobr flynyddol, a noddir gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon) a phartneriaid yn y sector, yn cydnabod y gwaith rhagorol wrth gynnwys gwirfoddolwyr o fewn gwasanaeth archifau sefydliadol.

Dywedodd y beirniaid: “Ein Helpu i Gyflawni” oedd yr enwebiad a oedd sefyll allan mewn cystadleuaeth gref iawn. Yn 2015-16 yn unig, cymerodd 65 o wirfoddolwyr prosiect ran yn y cynllun, gan wirfoddoli cyfwerth â dros 1,000 o ddiwrnodau o’u hamser. Cwblhawyd 10 o brosiectau a thasgau; ac mae 10 arall yn dal i fod ar y gweill. Cymerodd 769 o wirfoddolwyr ar-lein hefyd ran yn “Cynefin”, prosiect arloesol i geo-gyfeirio Mapiau Degwm Cymru. Mae “Ein Helpu i Gyflawni” wedi golygu cydweithio a chefnogi cymunedol ar y cyd, ystod eang o wirfoddolwyr, ac wedi elwa o gefnogaeth staff archifau proffesiynol yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ogystal â chefnogaeth rheolwyr. Mae’r cynllun hefyd wedi cyflawni ar lefel unigol: mae tua 20% o’r gwirfoddolwyr wedi symud ymlaen i waith cyflogedig’.

Dywedodd un gwirfoddolwr ar y cynllun ‘Ein Helpu i Gyflawni’: ‘Trwy’r profiad hwn, rwyf wedi gwneud ffrindiau gyda phobl hyfryd ac o’r un anian. Mae hyn wedi rhoi llawer o hyder i mi – nid wyf yn teimlo wedi fy nychryn gan y gweithle – rwy’n teimlo fy mod yn perthyn’

Dywedodd un arall: ‘Rwyf wedi cwblhau bron i 3 blynedd a hanner o wirfoddoli. Yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wir wedi mwynhau y profiad. Rwy’n hoffi’r awyrgylch cyffredinol dawel a llonydd. Mae hyn yn bwysig i mi oherwydd fy epilepsi sy’n bennaf gysylltiedig â straen. Nid wyf yn siŵr os yw fy hyder newydd yn helpu fy epilepsi (ond) mae’r gwelliant bach yn fy iechyd yn gwella fy hyder.’

Ychwanegodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru: ‘Rydym wrth ein bodd ac wedi ein hanrhydeddu i dderbyn y wobr bwysig hon. Rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth gref rhwng ein gwirfoddolwyr, staff a’n partneriaid cefnogi i wneud ein harchifau cenedlaethol yn fwy hygyrch wedi cael ei gydnabod fel patrwm enghreifftiol. Mae LlGC wedi ymrwymo i ddatblygu’r dull arloesol hwn sydd yn mynd ati i helpu pobl i wella ansawdd eu bywydau a chael sgiliau yn y gweithle yn ogystal â dysgu mwy am ein diwylliant a’n treftadaeth.’

Gwybodaeth bellach: Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Leave a Reply