Y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd oedd siaradwr gwadd Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y 4ydd o Dachwedd 2016.

Rt-Hon-Ann-Clwyd--768x1024

 

Prif themâu y ddarlith oedd Streic y Glowyr a Glofa’r Tŵr. Gellir darllen y ddarlith yn ei chyfanrwydd yma

 

 

 

Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig:

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu Y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol. Rydym yn falch hefyd fod ei phapurau sy’n adlewyrchu ei gyrfa ddisglair bellach yn rhan o gasgliad yr Archif Wleidyddol Gymreig”

Archif Wleidyddol Gymreig:
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 ac fe ddechreuodd y gyfres o ddarlithoedd blynyddol yn 1987. Nôd yr Archif Wleidyddol yw i gydlynu’r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru. Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; gwefannau a thapiau rhaglenni radio a theledu.  Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.

Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf 01970 632471 or post@llgc.org.uk

Leave a Reply