Yn ystod Cyngres 2016 y Cyngor Rhyngwladol ar Archifau (ICA) yn Seoul, Corea, mae Adran Cymdeithasau Proffesiynol yr ICA (SPA) yn cynnal Gŵyl Ffilm ar Archifau a Rheoli Cofnodion.

Enwebwyd naw ffilm o fewn tri dosbarth.  Archifau Morgannwg yw’r unig wasanaeth archifau o’r DU i’w gael ei chynnwys o fewn yr enwebiadau!

Gofynnwyd i ddefnyddwyr archifau Cymru gyflwyno stori am eu profiadau a phethau roedden nhw wedi’u darganfod wrth ddefnyddio archifau. Troswyd rhai o’r straeon yma i ffilm.  Mae’r ffilm o Archifau Morgannwg yn dangos sut datblygwyd prosiect gan grŵp hunan-eiriolaeth Cardiff People First i helpu eu haelodau adrodd eu straeon am Ysbyty Trelái yng Nghaerdydd. Bu Archifau Morgannwg yn chwarae rhan allweddol yn eu gwaith ymchwil, gan ddangos hen ddogfennau am Ysbyty Trelái a’r ardal a’u helpu i ddeall eu harwyddocâd.

Nawr mae gennych chi y cyfle unigryw i benderfynu pa un o’r naw ffilm ar archifau a enwebwyd sy’n haeddu derbyn Gwobr y Bobol 2016!

Gallwch fwrw eich pleidlais ar-lein yma: www.arkivrad.no/the-spa-film-festival-peoples-award

[Ceir fersiwn Cymraeg o’r ffilm yma: https://www.youtube.com/watch?v=YS1PickyLEk]

Bydd pleidleisio yn cau am 2yh Dydd Iau 8 Medi (10yh yng Nghorea).

Bydd enillydd Gwobr y Bobol, ynghyd ag enillwyr y tair gwobr ffilm SPA arall, yn cael ei chyhoeddi yn ystod Sesiwn Llawn Derfynol yr ICA yn Seoul ar Ddydd Gwener 9 Medi 2016.

Ewch i wylio’r ffilmiau, bwrw eich pleidlais a chael eich ysbrydoli!  A lledaenwch y newyddion i’ch teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr bod modd iddyn nhw hefyd cymryd rhan yn y pleidleisio!

Mwy am Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn gwasanaethu awdurdodau lleol Caerdydd, Penybont-ar-Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.  Mae’n casglu, cadw ac yn ddarparu i’r cyhoedd dogfennau o’r ardal sy’n dyddio o’r 12fed ganrif hyd at y presennol.  Mae gan Archifau Morgannwg dros 12km o ddogfennau yn ei ystafelloedd sicr a wnaed i’r pwrpas ac a agorwyd yn Ionawr 2010.

Ceir mwy o wybodaeth am Archifau Morgannwg yma: www.archifaumorgannwg.gov.uk

Mwy am Cardiff People First

Mae Cardiff People First yn sefydliad hunan-eiriolaeth a redwyd gan ac ar gyfer pobol ac anabledd dysgu yng Nghaerdydd.  Rydym yn helpu ein gilydd i wneud yn siŵr bod yn lleisiau yn cael eu clywed, i ddysgu am fywyd ac i wneud pethau newydd.  Rydym yn mynnu ein hawliau ac yn ymgyrchu i newid agweddau, gwella gwasanaethau a mwynhau ystod fwy eang o gyfleoedd .  Rydym yn ymladd dros gydraddoldeb, dealltwriaeth, parch a derbyniad.

Ceir mwy o wybodaeth am Cardiff People First yma: http://home.btconnect.com/cardiffpeople1st/

Am fanylion pellach cysylltwch â:

Rhian Diggins, Uwch Archifydd
Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Lecwydd, Caerdydd CF11 8AW
Ebost: glamro@cardiff.gov.uk  Ffôn.: 029 2087 2299
Twitter: @GlamArchives
www.archifaumorgannwg.gov.uk

Leave a Reply