Roedd prinder bwyd yn beth cyffredin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda cheidwaid siopau’n rhwym wrth nifer o reoliadau a’r boblogaeth gyfan yn gorfod dechrau dod i delerau â dogni.  Gwnaed yr ymgais gyntaf i ddogni gyda gorchymyn yn cyfyngu ar brydau bwyd mewn gwestai a bwytai ym mis Rhagfyr 1916, ac erbyn 1917 roedd prisiau bwyd wedi dyblu, gyda dim ond digon o fwyd am ddau neu dri mis yn y wlad gyfan. Ym mis Ionawr y flwyddyn honno, rhoddwyd pwerau newydd i’r Arglwydd Rhondda, y Rheolwr Bwyd, a ddechreuodd drwy apelio at wladgarwch gan ofyn i bobl ddogni bara, cig a siwgr o’u gwirfodd.

glamphoto

Daeth dogni llym i rym yn araf deg, ac ym mis Medi 1917 ysgrifennodd yr Arglwydd Rhondda yn rhifyn cyntaf y Dyddlyfr Bwyd Cenedlaethol, a ryddhawyd bob pythefnos, y byddai’r “Weinyddiaeth Fwyd yn rhoi gwybodaeth fanwl a swyddogol am y camau i’w cymryd”

Mae sawl tudalen yn llawn rheolau a rheoliadau statudol, gweithdrefnau seneddol a rhestrau o’r prisiau uchaf swyddogol, ond mae hefyd yn rhoi cipolwg ar yr anawsterau a brofodd cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.

Gwnaeth y bwytai eu gorau i osgoi’r Gorchymyn Cacennau a Phasteiod, a oedd yn gwahardd defnyddio siwgr mewn sgons. Roedd hyn i atal cwsmeriaid mewn siopau te rhag casglu cacennau o’r siop gacennau, a oedd yn aml yn gysylltiedig â’r siopau te hyn.  Cymerwyd camau i erlyn yn sgîl hyn.

Roedd cyfyngiadau ar fwydydd anifeiliaid hefyd. Dyma ddyfyniad o’r Dyddlyfr Bwyd Cenedlaethol ar Ddognau Ceffylau:

Horses allowed hunting rations will in reality be part of the Army Remount Establishment, kept and fed at the expense of the present owners but liable to be called up at any time.

Er syndod, ymysg yr holl wybodaeth swyddogol mae nifer o ryseitiau, gan gynnwys rhai ar gyfer caws barlys, pwdin India corn, marmalêd moron, bara cartref gyda thatws a bisgedi tatws siocled (wedi’u gwneud gyda menyn coco).  Roedd rhestr o giniawau Nadolig yn ystod y rhyfel yn cynnwys:

  1. Potage Parmentier, ysgwydd cig dafad wedi’i stwffio, seleri wedi’i frwysio, tatws pob, pei ffrwythau a chwstard. Cost 4s 5d.
  2. Sŵp hufen seleri, cig eidion wedi’i frwysio a la bourgeoise, sbrowts, tatws y dduges, pwdin oren. Cost 5s 9¾d.
  3. Penwaig a la juive, ffowlyn wedi’i frwysio mewn caserol, tomatos wedi’u stwffio, mins peis oren ac afal. Cost 9s 3¾d.

Gorchmynnwyd i bartïon Nadolig osgoi bwyd lle y bo’n bosibl, a lle mai’r nod oedd cynnig ‘pryd da o fwyd i’r tlawd’ dylid rhoi bwydydd anhanfodol lle y bo’n bosibl.

Mae’r Dyddlyfr hefyd yn cynnwys rhestr o erlyniadau, ac yn y rhifyn cyntaf:

Henry Cowleyselling potatoes

At Cardiff, Henry Cowley, greengrocer, 36 Union Street, was fined £100 for selling potatoes at a price above the fixed maximum, and £5 for using an unjust scale

Roedd erlyniadau diweddarach yn cynnwys:

Merthyr Tydfil – Fines amounting to £175 were imposed on grocers and their assistants for overcharging on jam, butter, tea and other commodities.  The magistrate threatened drastic measures against future offenders.

Ernest Jenkins, grocer, Crwys Road, was fined £10 for refusing to sell a tin of condensed milk ‘by itself’.

Cardiff – Joseph Edward Townsend, Corporation Road, 40s or 1 months imprisonment for selling bread less than 12 hours old.

Cardiff – Domingos Gavincho, master of a Brazilian steamer, was fined £100 and Virgilio dos Santos, steward, £50, while a donkeyman and fireman, Antonio dos Santos and Joas de Campos, were sentenced to six months hard labour.  Too much bread being supplied to the crew, 28 loaves had been thrown into the furnaces.

Roedd y rhan fwyaf o’r erlyniadau yng Nghymru yn rhai eithaf bach, ac nid oedd diffyg gwybodaeth yn cael ei dderbyn fel esgus.

Nid oedd y Dyddlyfr yn hollol fewnblyg – roedd yn cynnwys erthyglau ar bropaganda yn yr Eidal, cyfyngiadau bwyd yn Ffrainc, rheoliadau bwyd Canada, dogni gorfodol yn yr Almaen a’r dulliau a ddefnyddiwyd yng ngwledydd y cynghreiriaid a gwledydd niwtral.

Nid oedd hynt y rhyfel yn mynd yn angof chwaith. Mae erthygl ar ‘Y Dinesydd a’r Llong Danfor’ yn nodi:

It is long since Germany gave up the idea of winning the war….the most that the Germans are now asked to do is to ‘hold on’… The powers now build their hopes not upon the army but upon two new services.

Yna mae’n cynnwys manylion am y llu awyr, ac yn nodi’r canlynol am longau tanfor:

People are to be starved and the nation reduced to conditions of famine by indiscriminate murder at sea and the sinking of valuable cargoes of food.

Mae’r erthygl yn mynd ‘mlaen i amlinellu anawsterau o ran y cyflenwad bwyd a dosbarthu.  Tynnwyd sylw at y prinderau difrifol yn yr Almaen ac, er bod Prydain yn dioddef, nodwyd bod yr Almaenwyr yn newynu:

What greedy grousers in this country speak of as famine the hungry German would look upon as luxury.

Aeth dirprwyaeth o Lowyr De Cymru i weld yr Arglwydd Rhondda am y sefyllfa fwyd ac ym mis Chwefror 1918 gofynnwyd cwestiwn seneddol – a oedd yr Ysgrifennydd Seneddol yn ymwybodol o’r newyn yn ardaloedd pyllau glo De Cymru, neu’r ffaith nad oedd bwyd ar gael i’r glowyr a gweithwyr eraill yn ystod eu horiau gwaith, ac a ellid rhoi system ddogni well ar waith ar unwaith? Yn yr ymateb nodwyd bod y Rheolwr Bwyd yn ymwybodol o’r prinder diweddar difrifol o fwydydd penodol yn ardaloedd pyllau glo De Cymru.  Roedd y manylion llawn wedi’u cyflwyno iddo gan ddirprwyaeth o Ffederasiwn Glowyr De Cymru, ac roedd yn cymryd camau i gyflymu cyflwyniad cynllun dogni lleol gyda’r gobaith y byddai’n datrys yr anawsterau dan sylw.

Ymddangosodd Ceginau Cenedlaethol erbyn 1918 ac awgrymwyd tai coginio ‘pen pwll’:

…where the meal or ‘tommy’ boxes of the men could be filled with good substantial food, prepared by expert cooks and suited to the conditions under which miners have to work.  These boxes of could be easily handed out to the workmen when they go down the pit as are the safety lamps.

Byddai’r bwyd yn cael ei brynu mewn swmp a byddai’r gost yn debyg i goginio yn y cartref.

Parhaodd y Dyddlyfr i mewn i’r 1920au, gan gofnodi’r broses araf o ddileu cyfyngiadau, ond parhaodd erlyniadau am brisiau uchel, a daeth yn drosedd ddiannod i wastraffu unrhyw fwyd. Mae problemau gwastraff yn parhau hyd heddiw.

Ann Konsbruck, Gwirfoddolydd Archifau Morgannwg

Leave a Reply