Mae staff y Comisiwn Brenhinol wedi meddwl am thema wahanol iawn ar gyfer ymgyrch Archwiliwch Eich Archifau eleni, ac wedi rhoi’r enw Archifau sy’n Ysbrydoli arni. Maen nhw wedi cynllunio diwrnod agored i’r cyhoedd, gan eu gwahodd i ddod i’r Comisiwn a darganfod y casgliadau unigryw niferus sydd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, a thrwy hynny gael eu hysbrydoli i greu rhywbeth ystyrlon eu hunain.

Ar Ddydd Mercher, 18 Tachwedd, mae’r Comisiwn Brenhinol yn cynnig diwrnod o weithdai creadigol ac arddangosiadau ar fodelu 3D, lluniadau ail-greu, animeiddiadau, ffotograffiaeth, adnoddau digidol (LiDAR, GIS), a llawer mwy. Yn ogystal, fe fydd sgyrsiau cyffrous gan ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, Dr Toby Driver, ar Batrymau o’r Gorffennol: Rhyfeddodau’r Archif Awyrluniau a chan ein ffotograffydd, Iain Wright, ar Drwy Lens y Ffotograffydd. Bydd detholiad o waith y Mad Mountain Stitchers, grŵp o artistiaid tecstil hynod o greadigol sydd wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, hefyd yn cael ei arddangos, gan gynnwys eu croglun anhygoel pum troedfedd o uchder o’r Big Pit, Blaenafon. Bydd yr artistiaid wrth law i siarad am eu crefft, ac am y defnyddiau a thechnegau a ddefnyddiant i greu eu gweithiau tecstil.

Drwy gydol y prynhawn a gyda’r nos, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i archwilio’r amrywiaeth helaeth o gasgliadau o ffotograffau, mapiau, cynlluniau, lluniadau, testunau, a deunydd arall yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Bydd croeso i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithdai, gan weithio gyda myfyrwyr o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth i feddwl yn greadigol am ddefnyddio’r archifau i gynhyrchu cerddi, straeon byrion, gweithiau celf, tecstilau, modelau, cerflunwaith, gwaith gweu, teisennau – neu unrhyw beth arall y cewch eich ysbrydoli i’w gynhyrchu.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ, ffôn: 01970 621200, e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk.

Old-Colleage-Aberystwyth-300x181
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

Un o fwy na miliwn o gofnodion ffotograffig sydd i’w cael yn archifau’r Comisiwn Brenhinol: ffotograff cynnar, c. 1870, o’r Hen Goleg, Aberystwyth, a oedd bryd hynny’n cynnwys Castle House (dymchwelwyd ym 1897), fila arfordirol a gynlluniwyd gan John Nash ac a gwblhawyd ym 1794. Hwn oedd y tŷ bwriadol Bictiwrésg cyntaf i gael ei godi ym Mhrydain

Leave a Reply