Gan ddefnyddio un o’r trysorau yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, fe gafodd haneswyr gyfle i deithio’n ôl mewn amser a gweld sut oedd Abertawe yn arfer bod 150 mlynedd yn ôl. Mae aelodau staff yn yr archifau wedi digideiddio map manwl dros ben o’r dref a’i ddarparu fel crynoddisg rhyngweithiol i gynorthwyo i ddod â’r gorffennol yn ôl yn fyw.
Cafodd Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe ei ffurfio yn 1850 i reoleiddio glanweithdra mewn tref oedd yn tyfu’n gyflym. I gynorthwyo gyda’r gwaith cynllunio, fe benodwyd Samuel Gant, syrfëwr o Lundain, i fapio’r dref. Cymerwyd dwy flynedd i gwblhau’r gwaith, ond pan ymddangosodd ei fap ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd y canlyniadau yn werth disgwyl amdanynt. O beipiau dŵr i gytiau cŵn, o stablau i ddeialau haul a phympiau i gytiau moch, mae’n dangos strydoedd Abertawe mewn ffordd unigryw. Mae rhif ar bob tŷ, hyd yn oed yr hofel mwyaf di-nod. Yn yr adeiladau cyhoeddus mawr, fel Neuadd y dref ac eglwys y plwyf, fe rodwyd cynllun y seddau hyd yn oed. Nid oedd Abertawe erioed wedi’i harchwilio mor fanwl, ac mae’n rhoi cipolwg ar fywyd y dref a’n galluogi i archwilio pob twll a chornel anghofiedig yn y dref.
Er enghraifft, mae Bennet Court yn swnio’n lle eithaf mawreddog, ond wrth astudio’r map fe felwn nad yw hyn yn wir: trwy agoriad cul oddi ar York Street roedd rhes o dai bach iawn gydag un stafell i fyny ac un i lawr, y drysau ffrynt yn agor ar stryd gefn gul lle’r oedd yn anodd i ddau berson gerdded heibio heb fwrw yn erbyn ei gilydd. O ran carthffosiaeth, roedd y pedwar tŷ yn rhannu un toiled. Ugain llath i ffwrdd roedd sŵn a phrysurdeb gweithdy’r gwneuthurwr coetshis, ac yn y pen draw y tu ôl i hyn roedd gardd dawel tŷ gŵr bonheddig. Heddiw bydd pobl yn mynd i fyny grisiau symudol Vue Cinema heb sylweddoli eu bod newydd symud trwy do’r hen lys.
Mae’r crynoddisg ar gael oddi wrth yr Archifau am £14.95. Fe fydd yn gweithio gyda phorwr gwe gan adael i chi symud o amgylch y map. Gallwch chwyddo’r map i weld pob eiddo’n fanwl. Ymhlith y nodweddion ychwanegol y mae mynegai o’r strydoedd i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i strydoedd ac adeiladau sy’n cael eu henwi ar y map, ffotograffau ac engrafiadau o rai o’r lleoedd a ddangosir ar y map sydd wedi diflannu erbyn hyn, a thrawsgrifiad o arolwg George Thomas Clark o strydoedd Abertawe a wnaed yn 1849. Rhoddir disgrifiad llawn hefyd o gefndir llunio’r map a’r hyn y mae’n ei ddweud wrthym am Abertawe yn Oes Fictoria.
I gael gwybod mwy ewch i www.swansea.gov.uk/westglamorganarchives neu ffoniwch the Archives on 01792 636589.