Ers 2009, mae Gweithgor Cadwedigaeth Ddigidol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â’r gofynion ar gyfer cadw a rheoli cofnodion digidol ledled Cymru. Yr amcan yw cefnogi cadwedigaeth ddigidol mewn modd cydweithredol, gan roi ystyriaeth i orchmynion sefydliadol unigol.

Mae’r prosiect eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at y nod hwn trwy i datblygu llif gwaith sy’n rheoli cynnwys digidol. Y cam nesaf yw trosglwyddo i gynnig gwasanaeth cynaliadwy tymor hwy. Mae’r gwaith datblygu yn cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a gefnogir y prosiect gan arian wrth Lywodraeth Cymru.

Mae’r Gweithgor Cadwedigaeth Ddigidol hefyd wedi cynhyrchu Polisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru, a lansiwyd hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cadwedigaeth Ddigidol ym mis Tachwedd 2017