Site icon Archifau Cymru

O honiadau o fod yn ddisgynyddion Cymreig i Elizabeth I i dystiolaeth o octopws ym Môr Hafren: hanesion cudd yn cael eu datgelu ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archif

Mae toreth o ddogfennau hanesyddol, pob un â stori unigryw o’r gorffennol, yn cael eu rhannu fel rhan o Wythnos Archwilio Eich Archif (dydd Sadwrn 20 – dydd Sul 28 Tachwedd 2021).

Ymhlith yr eitemau a amlygwyd fel rhan o’r wythnos mae coeden deulu 12 metr o hyd o’r 1500au sy’n honni bod Cymro yn ddisgynnydd i’r Frenhines Wyryf, Brenhines Elizabeth I; adroddiad papur newydd o ddechrau’r ganrif ddiwethaf am y tŷ lleiaf ym Mhrydain; tystiolaethau o Wrthryfel Casnewydd 1839; cudyn o wallt, dannedd a chrafangau o ffynhonnell anhysbys; ac adroddiad am weld octopws ym Môr Hafren.


Cafodd y dogfennau, y delweddau a’r cofnodion diddorol yma eu rhannu gan wasanaethau Archifau ledled Cymru fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Mae’r ymgyrch flynyddol wythnos o hyd yn annog pobl i ddarganfod rhywbeth newydd a chyffrous yn archifau’r genedl, boed hynny’n bori drwy hanes eu teulu eu hunain, dod o hyd i’r papur newydd o ddiwrnod eu geni, neu ddarganfod pwy oedd yn berchen ar y tir lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd.

Mae Archifau Cymru yn hyrwyddo gwaith Gwasanaethau Archifau Cymru a threftadaeth ddogfennol gyfoethog y wlad. Mae’r rhan fwyaf o Wasanaethau Archifau Cymru bellach wedi ailagor i’r cyhoedd ac ar gael i ymweld â nhw ar ôl archebu ymlaen llaw. I gael gwybodaeth am eich gwasanaeth archifau lleol yn ystod Wythnos Archwilio Eich Archif, ewch i https://archifau.cymru/cysylltwch-a-ni/.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: “Mae archifau’n chwarae rhan hanfodol wrth lunio ein cymunedau a’n helpu i ddeall ein hanesion cenedlaethol, lleol a phersonol amrywiol. Maen nhw’n gofnodion unigryw a gwreiddiol o bobl, teuluoedd, busnesau a sefydliadau lleol, yn aml yn eu geiriau eu hunain. Mae ein gwasanaethau archifau lleol bellach ar agor i bobl archwilio’r hyn sydd yno, ac mae llwyth o wybodaeth ar gael ar-lein hefyd.  Mae rhywbeth sydd o ddiddordeb i bawb, a byddwn yn annog pobl i achub ar y cyfle i ddarganfod mwy ac i archwilio eu harchifau.”

Meddai Hayden Burns, Cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn i gefnogi ymgyrch Archwilio Eich Archif unwaith eto eleni. Mae’r casgliadau hanesyddol sydd gan wasanaethau archifau Cymru yn drysorfa o ddeunydd unigryw y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pob math o weithgareddau cymdeithasol, addysgol a lles. Er enghraifft, mae ein harchifau yn ein galluogi i adeiladu dealltwriaeth a gwybodaeth o’r bobl, digwyddiadau a lleoedd yn y gorffennol ac yn ein helpu i greu gwybodaeth newydd a dealltwriaeth ddyfnach o’n hunain a’n hanes diwylliannol a chymdeithasol.”

Er mwyn dechrau pori, ewch i weld eich gwasanaeth archifau lleol ar-lein – https://archifau.cymru/cysylltwch-a-ni/

Pum ffordd syml i gymryd rhan yn Wythnos Archwilio Eich Archif

Exit mobile version