Site icon Archifau Cymru

Datgelu tystiolaethau o Wrthryfel Casnewydd 1839 fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif

Mae trawsgrifiadau pwysig o dystiolaethau yn Nhreialon y Siartwyr, a oedd yn sôn am Wrthryfel Casnewydd 1839, sef y brotest arfog fawr olaf ym Mhrydain, wedi cael eu rhannu gan Archifau Cymru fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif (dydd Sadwrn 20 – dydd Sul 28 Tachwedd 2021).

Cafodd y datganiadau tystion o’r frwydr eu defnyddio fel tystiolaeth yn y gwrandawiadau llys a than yn ddiweddar, roedd y datganiadau yma wedi’u harchifo yn eu ffurf gwreiddiol, annarllenadwy rhwng Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd ac Archifau Gwent. Erbyn hyn, mae gwirfoddolwyr ymroddedig o Archifau Gwent wedi bod yn trawsgrifio’r tystiolaethau fel rhan o brosiect gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r datganiadau’n cyfeirio at y frwydr a ddigwyddodd ar 4 Tachwedd 1839, pan orymdeithiodd miloedd o ddynion o gymoedd Sir Fynwy i Westy’r Westgate yng Nghasnewydd, mewn ymgais i geisio rhyddhau pump ohonyn nhw a oedd wedi cael eu harestio a’u dal yn y gwesty.

Mae cofnodion yn dangos bod yr orymdaith wedi’i harwain gan John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a phan gyrhaeddodd y Siartwyr Westy’r Westgate, roedd 500 o gwnstabliaid arbennig a milwyr o’r 45ain Gatrawd ar droed. Dechreuodd brwydr waedlyd fer lle lladdwyd 22 o ddynion a chafod dros 50 eu hanafu. Cafwyd y tri dyn a enwyd fel arweinwyr yr orymdaith yn euog o uchel frad a’u dedfrydu i gael eu crogi, eu diberfeddu a’u chwarteru.

Mae datganiadau’r tystion sydd wedi’u digideiddio, sy’n rhan o Gasgliad y Werin ar-lein ac ar gael i bawb eu gweld, yn cynnig blas unigryw ar gymunedau cymoedd y De ac ymgyrch y Siartwyr dros ddiwygio democrataidd.

Cafodd y tystiolaethau am Wrthryfel Casnewydd eu rhannu fel rhan o wythnos Archwilio Eich Archif, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Mae’r ymgyrch flynyddol wythnos o hyd yn annog pobl ledled Cymru i ddarganfod rhywbeth newydd a chyffrous yn archifau’r genedl, boed hynny’n bori drwy hanes eu teulu eu hunain neu ddarganfod straeon am bobl a lleoliadau sydd wrth galon ein cymunedau.

Meddai Rhiannon Phillips, sy’n gweithio yn Archifau Gwent: “Mae Wythnos Archwilio Eich Archif yn rhywbeth rydyn ni’n edrych ymlaen ato bob blwyddyn gan ei fod yn gyfle gwych i rannu rhai o’n casgliadau gyda’r cyhoedd. Eleni, byddwn ni’n tynnu sylw at y tystiolaethau helaeth yma o Wrthryfel y Siartwyr yn 1839 – sydd bellach ar gael ar wefan Casgliad y Werin. Dyma gyfle gwych i bobl ddysgu mwy am stori ein cenedl. Ymhlith yr eitemau eraill a fydd i’w gweld eleni mae Arolwg o Farwniaeth y Fenni o 1821 a neges mewn potel a ddarganfuwyd yn sylfeini Cofeb Ryfel Pen-allt.”

Detholion o’r tystiolaethau sydd ar gael ar wefan Casgliad y Werin:

https://www.casgliadywerin.cymru/items/1713431

Thomas Hawkins Yswain, gwneuthurwr Platiau Tun o blwyf Bassaleg:Yn fy marn i, roedd tua 1500 o bobl yn sefyll ar Ffordd y Tram ger fy nhŷ – roedden nhw ar eu ffordd tuag at Gasnewydd – roedd nifer fawr o’r rhai ar Ffordd y Tram yn cario arfau – yn galw eu hunain yn Siartwyr. Fe es i dref Casnewydd y diwrnod hwnnw a gweld bod gwesty’r Westgate Inn yn y dref wedi dioddef ymosodiad. Fe welais effaith yr ymosodiad ar y Westgate Inn, fe welais i naw corff yn gorwedd yn stablau gwesty’r Westgate Inn cyfagos – gwelais y Maer ar wely yn y Westgate Inn, roedd wedi’i glwyfo, a phan welais ef roedd ei grys yn llawn gwaed. 

Archifau Gwent: http://www.gwentarchives.gov.uk/

Casgliad y Werin Cymru: https://www.casgliadywerin.cymru/

Exit mobile version