Dim ond unwaith bob 4 blynedd mae Blwyddyn Naid, ac mae’n dal yn draddodiad i ferched ofyn i ddynion eu priodi ar 29 Chwefror. Yn hanesyddol, dyma unig ddiwrnod y flwyddyn pan oedd yn dderbyniol i ddynes ofyn i ddyn ei phriodi. Pe bai’r dyn yn gwrthod y cais, roedd disgwyl iddo brynu pâr o fenig i’r ddynes (neu 12 pâr mewn rhai llefydd!). Mae’n bosib bod y traddodiad hwn wedi ymddangos fel y gallai’r merched wisgo’r menig i guddio eu cywilydd nad oeddynt wedi cael modrwy ddyweddïo.
Yn Archifdy Sir y Fflint, mae gennym enghraifft o gais i briodi gan ddynes ar ffurf cerdd, a gafwyd wedi ei chuddio mewn llyfr ryseitiau a chyngor am y cartref. Cafodd y llyfr ei gyflwyno i’r Swyddfa Cofnodion fel rhan o gofnodion Ysgol Gynradd Wirfoddol Owrtyn, a chredwyd ei fod yn eiddo i Caroline Hughes o Stottesdon, Swydd Amwythig (bu farw 1901).
Anfonwyd y gerdd gan Edith Armstrong at R.R. Bowen, adeiladwr, The Springs, Henley, Cressage, Amwythig, fel cais i briodi ac yn amlinellu pam y byddai’n gwneud gwraig dda iddo, ar 29 Medi 1897 (cyf: E/X/46/3). Yn anffodus dydyn ni ddim yn gwybod os cafodd y cais ei dderbyn, fodd bynnag nid yw cofrestri plwyf ar-lein ar Find My Past yn dangos priodas rhwng Edith Armstrong ac unrhyw Mr Bowen o amgylch y dyddiad hwnnw. Yn ddiddorol, doedd 1879 ddim yn Flwyddyn Naid, felly efallai bod Mr Bowen yn teimlo ei bod yn rhy hy, gan wrthod ei chais – heb brynu unrhyw fenig iddi!
Gellir gweld y ddogfen hon yn Archifdy Sir y Fflint. Mae angen archebu o flaen llaw: e-bost: archives@flintshire.gov.uk; ffộn. 01244 532364