Site icon Archifau Cymru

Esgidiau, Brics a Phowdwr Gwn: Llyfr Teithrestr o’r 19eg Ganrif yn adlewyrchu bywyd yn Nyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych

Ar ddiwrnod cyntaf wythnos Archwilio Eich Archif, rydym yn tynnu sylw at y gwaith sy’n mynd i mewn i gadwraeth archifau a llawysgrifau. Yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru rydym ni wedi cael grant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau i gadw cyfrol unigryw yn ein casgliadau: Llyfr Teithrestr o Dramffordd Dyffryn Ceiriog (1881-1883). Mae’r llyfr yn ymwneud â’r dramffordd a adeiladwyd ym 1873, i gysylltu chwareli llechi yng Nglyn Ceiriog â Chamlas Ellesmere. Dechreuodd o Orsaf Pontfaen ar ochr ddeheuol Afon Ceiriog.

Cerdyn post o Dramffordd Dyffryn Ceiriog ac Injan ‘Syr Theodore’, tua’r 1900au
diolch i https://picryl.com/media

Yma, cofnodwyd a phwyswyd yr holl draffig a oedd yn mynd i fyny i Ddyffryn Ceiriog o Lanfa’r Galedryd ar Gamlas Ellesmere a Gorsaf Reilffordd Preesgweene cyn parhau â’i siwrnai i Glyn Ceiriog.  Cwblhawyd teithrestr ar gyfer pob llwyth, ac mae’r llyfr hwn yn gofnod unigryw o’r hyn a gafodd trigolion y Dyffryn ddiwedd y 19eg ganrif o’r byd ehangach: o esgidiau a brics i bowdwr gwn ac offer chwarelu. Ni wyddys a oes unrhyw lyfrau eraill, y mae’n rhaid eu bod wedi bodoli yn ystod oes y dramffordd (1873-1935), yn dal i fodoli. Yn wir, mae llyfrau teithrestr yn gyffredinol yn eithaf prin, felly mae hon yn ddogfen bwysig iawn. Mae’r wybodaeth sydd ynddo o ddiddordeb mawr i haneswyr yr ardal leol, cludiant, diwydiant neu amodau cymdeithasol yn gyffredinol.

Mae’r llyfr teithrestr yn cynnig cofnod unigryw o’r hyn a gafodd trigolion y Dyffryn ddiwedd y 19eg ganrif o’r byd ehangach.

Fodd bynnag, pan roddwyd y llyfr i’r Archifau, yr oedd mewn cyflwr gwael iawn ac yr oedd angen gwaith atgyweirio sylweddol arno.  Byddai’n amhosibl i ymchwilwyr ymgynghori yn ei gyflwr bregus presennol.

Y tu allan i’r Llyfr Teithrestr pan gyrhaeddodd yr Archifau

Mae’r gyfrol ei hun yn fawr iawn, mae’n cynnwys dros 150 o dudalennau, ac mae’r teithrestrau wedi’u gludo ynddi. Mae’r rhwymiadau mewn cyflwr gwael iawn ac mae’r clawr brethyn wedi dod yn rhydd. Mae’r gwaith gwnïo yn ei le o hyd, ond mae’r cloriau wedi torri ac yn cael eu dal at ei gilydd gan dâp. Mae’r tudalennau wedi rhwygo mewn sawl man ac mae llygod wedi bod yn eu cnoi. Maen nhw wrth eu bodd yn cnoi papur! Mae’r papur mewn cyflwr gwael ac mae’n wan ac yn fregus; mae tystiolaeth o ddifrod gan lwydni ac mae’r llyfr wedi bod mewn rhywle llaith sydd wedi gadael nifer o olion. 

Papur bregus, nifer o rwygiadau a difrod gan lygod ar dudalen fewnol a chornel y Llyfr Teithrestr.

Gan mai dim ond un Cadwraethwr sydd gan AGDdC yn gweithio ar draws y ddau safle, ni fyddai’n bosibl neilltuo amser sylweddol i’r dasg hir a manwl hon, yn ogystal â’r holl ddogfennau eraill sydd angen eu hatgyweirio a’u cadw yng nghanghennau Penarlâg a Rhuthun. Yn ddiweddar, gwnaeth AGDdC gais am grant gan yr NMCT ac yr oedden nhw’n falch iawn o gael digon o gyllid i dalu am y deunyddiau cadwraeth yn ogystal â Chadwraethwr Prosiect i weithio ar y Llyfr Teithrestr am gyfnod o 6 mis.  Yr ymgeisydd llwyddiannus oedd Jiwon Jeong, cadwraethwr sydd newydd gymhwyso o Brifysgol Caerdydd.

Jiwon yn dechrau gweithio ar y Llyfr Teithlyfr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Penarlâg

Bydd Jiwon yn gweithio yng nghangen Penarlâg tan fis Ebrill 2026 a’i thasg gyntaf yw datgymalu’r gyfrol, glanhau ac atgyweirio’r tudalennau. Bydd y teithrestrau unigol yn cael eu hatgyweirio yn ôl yr angen, yn enwedig y rhai sydd wedi’u difrodi gan lygod ac yn sgil lleithder.

Mae’r teithrestrau wedi’u glynu at ei gilydd a bydd angen eu gwahanu

Wrth i bob tudalen gael ei thynnu o’r llyfr, bydd yn cael ei sganio gan dîm bach o wirfoddolwyr, a fydd wedi’u hyfforddi i drin dogfennau gan ein cadwraethwr ac i sganio gan ein staff profiadol. Yna bydd y copïau digidol ar gael yn yr ystafell ymchwilio i gwsmeriaid eu gweld, a fydd yn gwneud y llyfr yn llawer mwy hygyrch.

Yna bydd rhwymiad y gyfrol yn cael ei gadw, bydd gwaith atgyweirio’n cael ei wneud i’r cloriau, a’r brethyn yn cael ei ailosod. Bydd y teithrestrau yn cael eu hailosod yn y gyfrol trwy ddefnyddio colfachau, yn hytrach na’u gludo. Pan fydd y gwaith atgyweirio ac adfer wedi’i gwblhau, bydd blwch pwrpasol yn cael ei greu i amddiffyn y llyfr.

Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wneud y cofnod unigryw a diddorol hwn o Dramffordd Dyffryn Ceiriog ar gael i gwsmeriaid. Mae hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i Gadwraethwr sydd newydd ei hyfforddi ennill sgiliau gwerthfawr iawn. Rydym ni hefyd yn falch o allu cynnig cyfleoedd i dîm o wirfoddolwyr gael hyfforddiant mewn digideiddio, ymdrin â dogfennau gwreiddiol bregus, a gweithio â deunydd archif unigryw.

Gallwch ddarllen mwy am y llyfr cludo nwyddau a’i gynnwys yn y blog diweddaraf:
https://archifausirddinbych.wordpress.com/

Byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd wrth i’r Prosiect fynd rhagddo, felly gwiriwch ein cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth hon!

Liz Newman, Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru
https://www.agddc.cymru/

Exit mobile version