Site icon Archifau Cymru

Adnoddau Cofnodion mewn Perygl

CANLLAWIAU CACC: MONITRO ANSOLFEDD AC ACHUB COFNODION BUSNES 

Yn y canllawiau isod, a’r cyflwyniad cysylltiedig, ceir trosolwg o’r broses sut i achub cofnodion busnes sydd mewn perygl oherwydd problemau ariannol y cwmni, ac mae’n sôn am y camau gweithredu o’r ymchwilio a’r monitro hyd at gaffael cofnodion gan gwmni ansolfent. Ymhlith gwybodaeth arall, mae’n cynnwys siart llif sy’n amlinellu prif gamau’r broses, canllawiau ar derminoleg ansolfedd corfforaethol, a gwybodaeth ynghylch cysylltu ag ymarferwyr ansolfedd. Bwriadwyd y canllawiau ar gyfer archifyddion a gwasanaethau archifau yng Nghymru yn bennaf ond gallant fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn achub cofnodion gan gwmnïau ansolfent. 

Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho’r canllawiau fel dogfen pdf. 

Mae tiwtorial fideo ategol ar gael yma.

CANLLAWIAU GAN Y TÎM RHEOLI ARGYFWNG 

Mae’r Tîm Rheoli Argyfwng yn cydlynu ymdrechion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i achub cofnodion busnesau sydd mewn perygl oherwydd ymddatod (liquidation), mynd i ddwylo’r gweinyddwyr (administration), cwmni/sefydliad arall yn eu cymryd drosodd ac amgylchiadau eraill lle gallai cofnodion busnes fod mewn perygl. Ymysg adnoddau eraill, mae’r tîm wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar gyfer archifyddion ac ymarferwyr ansolfedd sy’n amlinellu’r broses ar gyfer achub cofnodion. Mae’r canllawiau ar gael yn Saesneg ar y wefan ‘Managing Business Archives’ ac maent wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, gyda chaniatâd y Tîm Rheoli Argyfwng, ac ar gael ar ein gwefan ni yma. 

ADNODDAU YCHWANEGOL AR GYFER MONITRO RISG 

Mae adnoddau pellach, sy’n cynnwys templed ar gyfer nodi cofnodion mewn perygl a chanllawiau gan gyrff proffesiynol ar gael yma

Exit mobile version