Site icon Archifau Cymru

Archwiliwch Eich Archif: Lleisiau tawel yn cael eu clywed

Ysgrifennwyd gan Emma Towner, Archifydd Cynorthywol, Llyfrgell Genedlaethol CYmru

Ar hyn o bryd dwi’n archifo’r archif Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Ranbarth Gogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1925, cam mlynedd yn ôl. Ers dechrau gweithio ar y casgliad hwn, rwy’n meddwl llawer am sut y byddai fy mywyd wedi bod 100 mlynedd yn ôl. Gan dyfu i fyny mewn teulu’r dosbarth gweithiol, bydd yna lawer o gyfleoedd na fydd ar gael i rywun fel fi. Mae’n annhebygol y byddwn wedi cael addysg dda, ac roedd siawns gryf y byddwn wedi gweithio mewn gwasanaethau domestig, ac yn bendant ni fyddwn wedi gallu pleidleisio.

Cyn Deddf Diwygio 1832, yr unig bobl a oedd â’r hawl i bleidleisio oedd nifer fach o ddynion cyfoethog, perchnogion eiddo a’r rhai wnaeth dalu drethi penodol. Ar ôl y Ddeddf, ehangodd i gynnwys dynion a oedd yn rhentu eiddo am £10 y flwyddyn neu fwy, tirfeddianwyr a ffermwyr tenant, ond roedd menywod a dynion y dosbarth gweithiol wedi’u heithrio. Dros y 52 mlynedd nesaf, roedd newidiadau yn y Ddeddf yn golygu y gallai mwy o ddynion bleidleisio, ond roedd angen iddynt fodloni gofynion eiddo o hyd, ac oedd hyn dal i eithrio mwyafrif dynion y dosbarth gweithiol, a phob menyw.

Daeth newid mawr gyda Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 – gallai pob dyn 21 oed a throsodd bleidleisio, dim gofyniad eiddo. Gallai menywod bleidleisio am y tro cyntaf, fodd bynnag, roedd yn rhaid iddynt fod yn 30 oed neu’n hŷn, ac roedd e’n dro nhw i fodloni rhai gofynion eiddo. Roedd yn gam mawr i’r dosbarth gweithiol, ond nid i fenywod y dosbarth gweithiol fel fi. Nid oedd gen i’r yr hawl i bleidleisio o hyd. Byddai’n ddegawd arall cyn y gallwn farcio fy mlwch pan ymestynnodd Deddf Etholfraint Gyfartal 1928 y bleidlais i bob menyw dros 21 oed ym 1928.

Er y byddai’r dosbarth gweithiol wedi cael ei dawelu o ran pleidleisio, byddent wedi gallu ychwanegu eu lleisiau at achosion trwy lofnodi deiseb.

Dyma gopi o ddeiseb a anfonwyd at Iarll Penfro, mae’n anghydfod ynghylch pwy fydd yn talu am atgyweiriadau pont Caerdydd, y trigolion Gaerdydd neu Sir Forgannwg. Mae’n bosib bod yr enwau’n cynnwys rhai o’r dosbarth gweithiol, na allent bleidleisio ym 1578, ond a allent lofnodi deisebau.

Copi o ddeiseb wedi’i chyfeirio at Iarll Penfro.
(Penrice & Margham 2770:- 1578)

Llofnodwyd y ddeiseb nesaf gan ddynion y dosbarth gweithiol. Mae ganddi ychydig mwy o wybodaeth, oedran, cymeriad a theulu’r a lofnododd. Nodir pwy oedd yn berchen dir. Er na fyddent wedi gallu pleidleisio o gwmpas 1810, mae’n bosibl erbyn 1867, y gallai’r rhai a oedd yn berchen ar dir fod wedi bodloni’r gofyniad eiddo i allu pleidleisio.

Rhestr o Chwarelwyr sydd wedi llofnodi’r ddeiseb.
(Penrice & Margham 4131:- 1810×1813)

Mae gan y ddeiseb nesaf enwau menywod ynghyd ag enwau’r dynion. Er bod yr ‘x’ achlysurol yn nodi nad oedd rhai o drigolion plwyf Aberriw yn gallu llofnodi eu henw. Cyfeiriwyd y ddeiseb at Dŷ’r Cyffredin gan ddangos eu teimladau tuag at y Mesur Ataliol, a’u dymuniad i Dŷ’r Cyffredin ei wrthod.

Deiseb wedi’i llofnodi gan drigolion plwyf Aberriw wedi’i chyfeirio at Dŷ’r Cyffredin yn gweddïo ar y Tŷ i wrthod y Mesur Ataliol.
(Glansevern 13337:- 1893)

Un ddeiseb rwy’n gobeithio y byddwn wedi’i llofnodi yw Deiseb Heddwch Menywod. Mae’n ddeiseb enwog sydd bellach ag arddangosfa barhaol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Fe’i llofnodwyd gan 390,296 o fenywod a oedd yn dymuno dim mwy o ryfel. Ymhlith y llofnodion, mae llofnod fy Hen Famgu.

Rwy’n eithaf siŵr wnaeth hi ei henw ei hun, gan fod ei llawysgrifen yn debyg iawn i lawysgrifen fy mam. P’un a fyddwn wedi gallu ysgrifennu fy enw ar y ddeiseb ai peidio, neu a oedd rhaid i mi farcio ag ‘x’ yw mater hollol wahanol, a blog ar gyfer y dyfodol. Beth bynnag, rwy’n gobeithio na fyddai fy llais wedi’i dawelu.

https://www.llyfrgell.cymru

Exit mobile version