Site icon Archifau Cymru

Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru yn derbyn Grant gan Yr Archifau Cenedlaethol

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru wedi derbyn Grant o £50,000 trwy Gronfa Archifau Covid-19 gan Yr Archifau Cenedlaethol. Bydd y dyfarniad hael hwn yn caniatáu inni ddatblygu strategaeth genedlaethol i nodi cofnodion sydd mewn perygl oherwydd pandemig Covid-19, a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae gan bandemig Covid-19 nifer o oblygiadau o ran galluogi mynediad cynaliadwy i archifau ledled Cymru. Mae’r effaith economaidd wedi arwain at fygythiadau i weithrediad parhaus busnesau, elusennau a sefydliadau cymunedol eraill, gyda llawer yn cau heb fawr o rybudd. Nod ein prosiect yw sicrhau bod y cofnodion hynny sydd fwyaf mewn perygl yn cael eu nodi a’u blaenoriaethu, gan gymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu hadneuo gyda gwasanaeth archif sefydledig.

Dywedodd Hayden Burns, Cadeirydd ARCW “Diolch i’r dyfarniad grant hael hwn bydd ARCW yn gallu arwain ar ddatblygu strategaeth genedlaethol i nodi cofnodion mewn perygl ledled Cymru a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Darllenwch fwy yma:

Exit mobile version