Mae Tachwedd 7fed yn Ddiwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd. Ymgyrch fyd-eang yw hon, a gydlynir gan y Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol, i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â chadw gwybodaeth ddigidol. Thema ymgyrch eleni yw Deunyddiau Digidol mewn Perygl, ond byddwn i’n dadlau bod yr holl ddeunydd digidol mewn perygl, gan fod newid cyflym technoleg, breuder y cod deuaidd, darfodiad caledwedd a meddalwedd, i gyd yn cyflwyno heriau cadwedigaeth. Mae yna heriau hefyd o ran darparu mynediad at y deunydd hwn, oherwydd gall fod yn anodd sefydlu tarddiad a threfn wreiddiol, sef y ffordd y mae deunydd archifol yn cael ei gatalogio yn draddodiadol, wrth ddelio ag olyniaeth o drydariadau a bostiwyd ar gyfryngau cymdeithasol.
Yng Nghymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n gilydd i liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â chadw deunydd digidol. Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cynhyrchu polisi cadwedigaeth ddigidol genedlaethol ac wedi datblygu datrysiad technolegol i warchod a darparu mynediad at y deunydd digidol a gaffaelwyd gan ei bartneriaid. Mae’r datrysiad yn cadw’r cynnwys mewn ystorfa ganolog a gedwir yn y Llyfrgell, a darperir mynediad trwy gatalogau’r partneriaid.
Mae atgofion teulu hefyd mewn perygl oddi wrth dechnolegau digidol, gan fod e-byst, ffotograffau a fideos i gyd yn cael eu creu ar ffurf ddigidol. Mae cadw’r atgofion digidol hyn yn dibynnu ar y crewyr yn gweithredu nawr i sicrhau eu bod ar gael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Neges Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd yw codi ymwybyddiaeth o’r angen i weithredu er mwyn cadw, fel bod cynnwys digidol yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
Sally McInnes,
Cadeirydd, Grwp Cadwedigaeth Ddigidol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru