Mae Colin Sheady yn un o’n Llysgenhadon Archifau i Gymru 2019. Yn yr erthygl yma, mae Colin yn esbonio sut y dechreuodd ymddiddori mewn archifau, a sut arweiniodd hyn at rôl wirfoddoli yn Archifdy Sir y Fflint.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o gofnodion a gwefannau ar-lein, roeddwn i’n dechrau gweld y darnau o’n hachau yn dod at ei gilydd, ond gyda nifer o fylchau yn y wybodaeth. Es i at yr Archifdy lleol yn Hawarden am gymorth i ddod o hyd i’r darnau coll o’r pos. Roeddwn wrth fy modd gyda’r lefel y sgil a’r proffesiynoldeb y staff, a helpodd fi i ddarganfod enwau, cyfeiriadau a gwybodaeth arall a fyddai fel arall wedi eu colli i amser wrth i mi chwilio.
Gadawodd y gwaith a’r ymchwil – ac yn sicr canlyniad prosiect fy wyres – argraff barhaol arnaf. Pan ddaeth yn amser imi ymddeol roeddwn yn gwybod fy mod eisiau cysylltu gyda Archifdy Sir y Fflint i gynnig fy amser fel gwirfoddolwr.
Cefais wahoddiad i gymryd rhan mewn prosiect gyda Mark Allen, Cadwraethwr Archifdy Sir y Fflint, i amddiffyn cyflwr miloedd o ddogfennau a chofnodion sy’n ymdrin â chanrifoedd o hanes lleol Sir y Fflint trwy wneud blychau pwrpasol.
Unwaith y daeth y tasg yma i ben, cefais cynnig gan Steve Davies, un o’r Archifwyr, i barhau â’m gwaith yn yr Archifdy trwy nodi manylion ceisiadau cynllunio Sir y Fflint sydd wedi’u storio yn yr archifau. Roedd y cofnodion yn dyddio’n ôl cyn belled â chanol y 19eg Ganrif ac yn cwmpasu’r rhan fwyaf o drefi yn y sir, gan gynnwys rhai sydd bellach yn cael eu hystyried yn rhan o Sir Ddinbych.
Mae’r cofnodion hyn yn hynod o ddiddorol. Maent yn croniclo’r hanes trefi’r ardal, wrth iddynt dyfu o fwrdeistrefi bach i gymunedau mwy ac adnabyddus, wedi’u llenwi â gwasanaethau a chyfleusterau a helpodd i gynnal y cynnydd yn y boblogaeth.
Mae’r gwaith rwy’n ei wneud fel gwirfoddolwr yn hynod o werth chweil i mi. Rwy’n cael darganfod enwau teuluoedd a fyddai fel arall wedi cael eu hanghofio, mae manylion digwyddiadau sylweddol a helpodd i siapio’r dirwedd ar gael yn rhwydd ar flaenau fy mysedd, ac mae cynnydd a chwymp diwydiannau yn digwydd o flaen fy llygaid.
Rwy’n ei chael hi’n anrhydedd mawr gweithio gyda’r cofnodion hyn a helpu i groniclo hanes fy ngwlad, ac wrth wneud hynny, dod yn rhan sylweddol o’r union beth rydw i wedi dod i garu cymaint.
Os hoffech wirfoddoli yn eich archifdy lleol, gallech ddod o hyd i’r manylion cyswllt yma: Cysylltwch â Ni