Site icon Archifau Cymru

Gwasanaeth Archifau Sir Ddinbych ac Archifdy Sir y Fflint yn uno i greu Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ar 1af Ebrill 2020, er gwaethaf ein bod ni mewn cyfnod clo cenedlaethol oherwydd yr pandemig coronafeirws, roedd Archifdy Sir y Fflint ac Archifdy Sir Ddinbych yn gweithio y tu ôl i’r llenni i greu gwasanaeth ar y cyd. Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, neu AGDdC, yw enw’r gwasanaeth newydd yma, ac rydym yn cynrychioli Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Nod AGDdC yw creu gwasanaeth archifau cryf a chynaliadwy i’r rhanbarth.  Mae’n gyfle i’r gwasanaeth i ddenu ymwelwyr newydd, cynyddu nifer ei wirfoddolwyr, cynyddu gweithgareddau digideiddio ac allgymorth, a thrwy hynny cynllunio ar gyfer dyfodol y gwasanaeth gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol nawr ac i’r dyfodol.

Bydd y gwasanaeth newydd yn parhau i weithredu yn ôl yr arfer ar draws y ddwy swyddfa – Rhuthun a Phenarlâg, ond y cynllun hirdymor yw symud i adeilad newydd ecogyfeillgar a phwrpasol yn yr Wyddgrug, ger Theatr Clwyd. Mae’r adeilad newydd a’r cynllun gweithgareddau yn ddibynnol ar lwyddiant ein cais am gyllid grant, ac edrychwn ymlaen at glywed newyddion am ein cais yn 2021. Pe baem yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio symud i’r ganolfan archifau newydd yn 2025.

Ers creu’r gwasanaeth ar y cyd, rydym wedi ail-frandio ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r dudalen Facebook newydd Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (North East Wales Archives) yn amlygu beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud, yn hyrwyddo ein casgliadau a’n gwasanaethau, ac yn diddanu ein dilynwyr gyda straeon a lluniau o’r Archifau.

Dilynwch ni er mwyn gweld a rhannu ein negeseuon, ac i fwynhau’r cyfoeth o wybodaeth y byddwn yn ei rhannu â chi. Dyma’r cyfrifon newydd:

Facebook  https://www.facebook.com/archifaugogleddddwyraincymru/

Trydar  https://twitter.com/ArchifauGDCymru

Neu Instagram https://www.instagram.com/archifaugogleddddwyraincymru/

Er bod y ddwy swyddfa wedi cau i’r cyhoedd ers mis Mawrth, rydym wedi bod yn cynnal gwasanaeth cyfyngedig i alluogi cwsmeriaid i gael mynediad o bell at rai o’n casgliadau er mwyn barhau i ymchwilio i hanes eu teulu, hanes eu cartref a phrosiectau ymchwil eraill. Rydym yn bwriadu dechrau gwahodd ymchwilwyr yn ôl i’r adeilad ym mis Medi, pan fyddwn yn ail-agor gyda mesurau newydd yn eu lle er mwyn ddiogelu ein cwsmeriaid a staff. Gallwch ddarllen mwy am yr hyn rydym wedi bod yn gweithio arno yn rhifyn cyntaf ein Cylchlythyr Gwasanaeth ar y Cyd: Cylchlythyr AGDdC

Stephanie Hines, Archifydd
Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg)

Exit mobile version