Wythnos Archwilio Eich Archif yn cael ei lansio gan Lysgenhadon Archif arbennig
Mae archifau ledled Cymru yn paratoi at ddathlu ac arddangos eu gwasanaethau a chasgliadau ar gyfer wythnos Archwilio Eich Archif, sydd eleni’n cael ei gynnal rhwng 23 o Dachwedd – 1 o Ragfyr.
Mae’r ymgyrch wythnos yn annog pobl i ddarganfod y storïau, ffeithiau, lleoedd a’r bobl sydd wrth wraidd cymunedau yng Nghymru. Fel rhan o’r dathliadau, bydd llawer o archifdai yn cynnal gweithgareddau arbennig ac yn croesawu’r cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ganddynt.
Bydd Llysgenhadon Archif arbennig, sydd wedi gwneud defnydd personol a phroffesiynol o gasgliadau a gwasanaethau mewn archifdai, yn lansio’r wŷl ym Mandstand Aberystwyth ar nos Lun 25 Tachwedd.
Bydd y noson yn cynnwys cyflwyniadau gan rai o’r Llysgenhadon, gan gynnwys – David Loyn, cyn gohebydd tramor gyda’r BBC; Richard Ireland, Hanesydd Cyfreithiol ac Uwch Ddarlithydd Emeritws yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth; Lleucu Gruffydd, Cynhyrchydd rhaglen deledu ‘Cynefin’ ar S4C i Rondo Media; ac Ioan Lord, Hanesydd a Myfyriwr Ôl-raddedig. Yn ogystal, bydd y cerddor o fri, Gwilym Bowen Rhys, yn perfformio darnau wedi’i hysbrydoli gan hen faledi a sgoriau o’r Archif Gerddorol Gymreig.
Pan ofynnwyd iddo am ei ddefnydd o archifau dywedodd David Loyn, Llysgennad Archif:
“Fel newyddiadurwr, es ati am flynyddoedd lawer i ysgrifennu’r hyn a ystyrir gan rai yn weithiau drafft cyntaf hanes. Erbyn hyn, fel awdur a hanesydd, rwyf yn gyson ddiolchgar i’r bobl hynny a gadwodd ei ‘drafftiau cyntaf’ ei hunain yn y gorffennol ar ffurf archifau; yn ddyddiaduron, lluniau, telegramau, nodiadau, llythyrau a mapiau. Mae canfod nodiadau mewn archifau sy’n taflu goleuni newydd ar benderfyniadau a wnaed gan bobl nad oeddent yn gwybod ei hunain beth fyddai’n digwydd nesaf, yn gwbl amhrisiadwy.
“Y darganfyddiadau annisgwyl yn aml yw’r rhai gorau – y cymeriadau sy’n dod yn fyw mewn nodiadau, cyfeiriadau cysylltiedig nad oeddent yn hysbys cynt, a’r cofnod dyddiadur sy’n arwain at lif newydd i’r ymchwil. Straeon am bobl yw hanes, ac archifau yw’r deunydd crai ar gyfer adrodd y straeon hynny.”
Fel rhan o Archwilio Eich Archif, bydd nifer o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal mewn archifau ledled Cymru – o sgyrsiau a helfeydd trysor, i arddangosiadau ffilm a gweithdai creadigol.
Mae archifdai Cymru yn gwarchod ystod eang o eitemau, yn amrywio o flew dynol i ryseitiau teuluol, llythyrau caru i hanesion llafar. Bydd llawer o’r gwrthrychau rhyfeddol yma yn cael eu hamlygu yn ystod wythnos Archwilio Eich Archif mewn ymgyrch ddigidol fywiog.
Dywedodd Vicky Jones, Rheolwr Prosiect a Hyfforddiant Archifau a Chofnodion Cymru:
“Nod Archwilio Eich Archif yw ysbrydoli pobl i ddysgu mwy am rai o’r storïau treftadaeth anhygoel sydd ar eu trothwy, a hynny drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau. Byddwn yn eich annog i ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd yn eich ardal leol er mwyn i chi ddechrau archwilio a darganfod!”
Dilynwch y linc yma i ddargafod eich gwasanaeth archifau lleol.