Cardiau Nadolig yn ystod y Rhyfel  

Er gwaethaf realiti erchyll rhyfel, mae gan y Nadolig bŵer unigryw i godi ysbrydion. 

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd parhaodd cyfnewid cardiau Nadolig, er gwaethaf y gwrthdaro, gan ddangos ychydig o wytnwch yr ysbryd dynol.  

Dyma ddetholiad o gardiau Nadolig adeg y rhyfel o archifau Cymru: 

© Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Derbynnydd y Cerdyn Nadolig hwn o 1916 oedd y Prif W.P. Wheldon a wasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc Rhagfyr 1914-1918. Harold Williams o’r Llu Alldeithiol Prydeinig (BEF) yw’r anfonwr. Dioddefodd Bataliwn Mawr Wheldon anafiadau difrifol ym mis Gorffennaf 1916 yng Nghoedwig Mametz ar y Somme ac yn 3ydd brwydr Ypres ym 1917. 

Wedi’r rhyfel daeth Wheldon yn Ysgrifennydd a Chofrestrydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) tan 1933 pan benodwyd ef yn Ysgrifennydd Parhaol Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg. Rhoddodd Wheldon gasgliad yn cynnwys dyddiaduron rhyfel 1916-1918 gan roi diweddariad dyddiol o weithgareddau maes y gad ar Ffrynt y Gorllewin i Brifysgol Bangor ym 1948. Mae’r cerdyn hwn (BMSS/39635(i)) ac mae’r casgliad ar gael yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor (BMSS/7059-7060). 

Mae’r un yma o wedi’r rhyfel yn enghraifft o’r math o gerdyn a anfonwyd gan filwyr oedd yn dal yn Ffrainc ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben ac fe’i hanfonwyd yn 1918 gan Pat Wainwright o Fae Colwyn at Norman Tucker (1894-1972) a aeth ymlaen i fod yn hanesydd lleol adnabyddus yn ardal Conwy. Mae Archifau Prifysgol Bangor yn cadw ei bapurau, gan gynnwys y cerdyn hwn (CP149/1/7). 

Dyma ychydig o enghreifftiau o gardiau Nadolig adeg y rhyfel, a gedwir gan Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys un sy’n dangos un o rolau menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

Mae’r enghreifftiau hyn o Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn enghraifft o gerdyn Nadolig a anfonir yn ôl adref, gyda dim ond llinell doredig i’w phersonoli (a’r 8 x ychwanegol oddi tanynt).  

Tybed, beth am y Nadolig a gadwodd y traddodiad hwn o gardiau i fynd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, efallai mai’r hwb morâl y mae anfon a derbyn cardiau yn ei roi, y cysylltiad y mae’r cardiau hyn yn ei roi i filwyr adref. 

James Southerby 
Cyngor Archifau a Chofnodio Cymru

Eich Archif – Sut i wneud eich papurau yn haws i’w Archifo

Mae’n ddiwedd wythnos Archwilio Eich Archif, a’r thema olaf yw #EichArchif. Felly, byddwn yn edrych ar heriau cadw eitemau’n ddiogel ar gyfer y dyfodol, ac yn rhannu rhai awgrymiadau ar sut i sicrhau hirhoedledd eich papurau gartref a’i gwneud yn haws i archifwyr os ydynt byth yn dod yn rhan o archif. 

Er mwyn diogelu archif eich cartref yn well ac i wneud bywyd yn haws i archifwyr y dyfodol, mae rhai arferion allweddol i’w hystyried. 

Yn gyntaf, mae’n bryd ffarwelio â chlipiau papur safonol, wrth iddynt rydu a difrodi eitemau dros amser. Dewiswch glipiau papur pres neu ystyriwch ddulliau amgen o gysylltu’r eitemau yn lle. Diolch byth cafodd y clipiau papur hyn eu tynnu allan o gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd cyn iddynt allu rhydu ymhellach.

 

Osgoi defnyddio tâp gludiog. Mae’n aml yn achosi difrod a gall fod yn her ei symud yn ofalus heb achosi niwed pellach, fel y dangosir yn y ddelwedd hon o gadwraethwr yn Archifau Morgannwg.

Nesaf, labelwch eich eitemau. Yn aml bydd archifwyr yn dod o hyd i bapurau heb unrhyw gyd-destun ar gyfer beth yw’r eitem. Gall y weithred fach hon wneud y broses archifo yn llyfnach ac yn fwy effeithlon. (Os ydych chi wir eisiau bod yn garedig i archifyddion y dyfodol, gadewch ychydig o fwlch ar y brig iddyn nhw ysgrifennu rhif yr archif!)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu’r dyddiad ar eitemau. Mae’r stampiau amser hyn yn darparu cyd-destun gwerthfawr a chyfeirnod hanesyddol ar gyfer eich casgliad. 

Mae llawer o’r papur safonol rydyn ni’n ei ddefnyddio ychydig yn asidig felly bydd yn diddymu’n araf dros amser. Yn lle hynny, defnyddiwch bapur o ansawdd uchel neu ddi-asid.

Ar gyfer gwrthrychau corfforol, cofiwch gynnwys unrhyw fanylion pwysig. Fel y gwelwch o ddwylo’r doliau hyn o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, heb ddisgrifiad cysylltiedig o ryw fath, gallai’r cwestiwn o sut roedd yr eitemau hyn yn rhan o archif (neu hyd yn oed beth yw’r eitem!), barhau i fod yn ddirgelwch. 

 

© Prifysgol Caerdydd, Casgliadau Arbennig ac Archifau

Dylech osgoi plygu papur os yn bosibl, wrth i bapur fynd yn hŷn gall y plygiau hyn ddod yn frau a chracio.

Gyda’r awgrymiadau hyn mewn golwg, gallwch gadw eich archif bersonol am genedlaethau i ddod i wneud gwaith archifydd (boed hynny’n archif neu un o’ch disgynyddion sy’n gwneud hanes teuluol) yn llawer haws.

Os ydych wedi mwynhau’r blog hwn neu os ydych wedi gweld y wybodaeth yn ddefnyddiol, edrychwch ar y dolenni hyn i ddysgu mwy am weithgareddau cadwraeth a chadwraeth yn: Cadwraeth ataliol – Llyfrgell Genedlaethol Cymru , Gweithgareddau cadwraeth – Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

Ochr yn ochr ag eitemau corfforol, y dyddiau hyn wrth gwrs mae gennym hefyd archifau electronig i ofalu amdanynt. Gallwch ddysgu mwy am y gwaith y mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru wedi’i wneud i gefnogi Cadwraeth Ddigidol yma: Cadwraeth Ddigidol – Archifau Cymru 

Diwrnod Archifau Rhyngwladol: Dathlu Gwaith Gwasanaethau Archifau yng Nghymru.

Diwrnod Rhyngwladol Archifau Hapus! Heddiw rydym yn dathlu cyfoeth casgliadau archifol, a phwysigrwydd gwaith archifwyr a sefydliadau archifol ledled y byd.

Mae’n bleser gennyf eich cyflwyno i ail rifyn “Agor yr Archifau,” llyfryn dathlu a gynhyrchir gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) sy’n tynnu sylw at y gwaith gwych a wneir gan wasanaethau archifau yng Nghymru.

Ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2016, mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn greiddiol i  bopeth yr ydym yn ei wneud, meithrin cysylltiadau ar draws ffiniau sefydliadol er mwyn i’n partneriaid allu cydweithio i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o dreftadaeth archifol unigryw Cymru.

Amlinella’r llyfryn hwn sut y mae CACC wedi cefnogi gwaith gwasanaethau archif ar draws Cymru wrth gaffael, diogelu, a sicrhau bod dogfennau gwerthfawr ar gael sy’n cynrychioli ein hanes ni, a hanes ein cenedl ar y cyd. Mewn cyfnod wedi’i ddominyddu gan heriau niferus, gan gynnwys cyfyngiadau COVID-19, a chyfnodau clo, rydym yn hynod falch o bopeth y mae ein cydweithwyr ar draws Cymru wedi’i gyflawni.

Gallwch lawr-lwytho a darllen y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r llyfryn isod.

Laura Cotton, Cadeirydd ARCW, 2022-24

#CrowdCymru: Diweddariad

Wel, mae hi wedi bod yn gyfnod prysur iawn ers i mi ysgrifennu’r blog rhagarweiniol nôl ym mis Awst! [gallwch ei ddarllen yma] Yn gyntaf, rydw i wedi bod yn gweithio’n galed i hybu’r prosiect. Erbyn nawr, mae gwybodaeth amdani ar wefannau Wythnos Addysg Oedolion Cymru, Mis Hanes Pobl Dduon Cymru a’r Digital Preservation Coalition. Rydym hefyd wedi cael sylw ar-lein trwy Newyddion S4C, a bydd gwybodaeth am y prosiect yn ymddangos yn rhifyn mis Ionawr o gylchgrawn Who Do You Think You Are?

Ar y 7fed o Dachwedd, rhoddais gyflwyniad yn Fforwm Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a chefais adborth cadarnhaol iawn, a thipyn o ddiddordeb yn #CrowdCymru. Treuliais i’r diwrnod cyfan yno i wrando ar y cyflwyniadau eraill, gan gynnwys rhai hynod o ysbrydoledig gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Byddaf yn rhoi cyflwyniadau ar-lein i Gymunedau Digidol Cymru, myfyrwyr y cyrsiau Rheoli Archifau a Chofnodion ac Achyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, a chyfres sgyrsiau ar-lein Archifau Gwent. Byddaf hefyd yn teithio tipyn yn ystod y dyddiau nesaf ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archif; mi wnes i fynychu digwyddiad yn Archifau Morgannwg ar 30ain o Dachwedd, a byddaf yn Archifdy Sir Gaerfyrddin ar 6ed o Ragfyr. Efallai y gwelaf i chi yno!

Erbyn nawr mae gyda ni gyfrif Twitter, sef @CrowdCymru, i hyrwyddo ein gweithgareddau, amlygu casgliadau, ac i roi cefnogaeth ar gyfer archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, a chyfrifon treftadaeth eraill. Hyd yn hyn, rydym wedi trydar am Fis Hanes Pobl Dduon, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, Wythnos Addysg Oedolion, Diwrnod Cadwraeth Ddigidol y Byd, Diwrnod y Cofio, a diwrnod #ILoveToWrite. Mi roedd un postiad gyda delwedd o Gasgliad Cymunedol Ardal Doc Caerdydd yn boblogaidd iawn. Roedd yn bortread o ŵr ifanc o’r enw Samuel Sawyer a oedd wedi’i gwisgo’n arbennig o smart, a chafodd y llun ei hoffi gan 169 o bobl, ei ail-drydar 95 weithiau, a hynny wedi creu 116K o argraffiadau.

Samuel Sawyer, Casgliad Ffotograffau Cymunedol Doc Caerdydd, Archifau Morgannwg

Mae partneriaid y prosiect wedi penderfynu lansio’r platfform digidol ym mis Ionawr 2023. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn brysur amser hyn o’r flwyddyn, ac mae’n debygol byddent yn fwy awyddus i ddechrau rhywbeth newydd ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd, yn hytrach nag ar ddiwedd yr un yma.

Felly, pa gasgliadau digidol fydd ein gwirfoddolwyr yn gweithio arnynt ym mis Ionawr? Bydd hyn rhywfaint o wledd symudol; Wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen, gall rhai casgliadau ymddangos am ychydig ac yna cael eu dileu os nad oes diddordeb ynddynt, a’i ddisodli gyda rhywbeth newydd.

Daw’r tri chasgliad cyntaf i weithio arnynt fydd o Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd.  Yn gyntaf, Archif Edward Thomas, un o’r beirdd rhyfel llai adnabyddus a laddwyd wrth ymladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, a sonnir amdano yn y blog cyntaf. Mae’r ail gasgliad yn cynnwys dyddiaduron amser rhyfel yr Anrhydeddus Priscilla Scott-Ellis (1916-1983); merch o’r 8fed Arglwydd Howard de Walden. Magwyd Priscilla yn Sgwâr Belgrave ac yng Nghastell y Waun. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, cefnogodd Fyddin y Cenedlaetholwyr a oedd yn ymladd llywodraeth y Ffrynt Poblogaidd fel nyrs wirfoddol.

Llythyr o Archif Edward Thomas,
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd

Mae ei dyddiaduron yn adrodd ar y cyfnod o 1934 hyd at 1941 ac mae’r cofnodion hefyd yn ymdrin â byw yn Llundain yn ystod y Blitz. Bydd y ddau gasgliad ar gael i’w drawsgrifio, tra bydd y trydydd casgliad ar gael i’w tagio a’i adnabod. Hwn yw Archif Sefydliadol Prifysgol Caerdydd, sef cof gweledol o fyfyrwyr a staff gyda chofnodion sy’n mynd mor bell yn ôl ag 1883, ac sy’n gynnwys bron i 1000 o ffotograffau yn siartio bywyd prifysgol. Mae’r casgliad yn cynnwys adrannau ar staff, myfyrwyr, ysgolion academaidd, a’r tu mewn a’r tu allan i adeiladau.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1970au
Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn gyda’r gwirfoddolwyr yn y Flwyddyn Newydd, byddaf yn anfon ffurflenni cofrestru yn gyntaf ac yna trefnu rhai sesiynau hyfforddiant ar gyfer grwpiau bach, lle gallaf dangos y platfform ac egluro tasgau gam wrth gam.

Yn y cyfamser, dymunaf dymor Nadolig hapus iawn i chi!

Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol       
Trydar: @CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450
E-bost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn gan Jennifer Evans dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International License.

Barfau yn yr Archifau

Tyfu barf neu beidio…mae’n gwestiwn mawr.

Ym 1969, edrychodd fy nhad yn y drych a phenderfynu nad oedd ei ên moel yn cyfleu’r ddelwedd gywir.  Roedd yn ddyn ifanc o hyd, yr unig athro gwrywaidd mewn Ysgol Ramadeg fawr i Ferched, ac roedd angen iddo gyfleu difrifoldeb ac awdurdod.  Tyfodd farf trwchus hynod.  Roedd yn caniatáu amrediad cyfyngedig o edrychiadau iddo gan bod llawer o’i wyneb yn anweladwy, ond rhestrwyd “llym”, “pefriol” a “difrifol” yn eu plith.  Gallai lyfnu ei farf mewn ffordd fyfyriol wrth edrych fel pe bai’n meddwl;  gallai ei frwsio allan ar achlysur arbennig, fel ei fod yn ymdebygu i dylluan fach, gan sicrhau effaith gomig.  Hwn oedd y gorchudd wyneb perffaith ar ei gyfer fel un a oedd yn dymuno bod yn fardd;  roedd hyd yn oed yn farf da ar gyfer ei wleidyddiaeth, ac roedd yn llawer tebycach i William Morris na Vladimir Lenin.  Cadwodd ei farf trwy gydol ei yrfa, ac yn ddiweddarach, fe’i galwyd yn Hen Ewythr Bwlgaria, ar ôl y Womble, ond roedd yn eithaf hoff o’r teitl.  Cafodd ei ddiffinio gan ei olwg farfog.

Mae barfau wedi cyfleu negeseuon am statws, proffesiynau a chysylltiad gwleidyddol eu perchnogion;  fe’u hystyriwyd yn wladgarol, yn chwyldroadol, yn arwydd o wrywdod, ac yn arwydd o dlodi.  Mae brenhinoedd a chardotwyr wedi tyfu barfau.  Beth mae hyn oll yn ei olygu?  A yw’r “Barf yn creu’r dyn?”.  Yn yr un modd â chymaint o gwestiynau mawr bywyd, dylem droi at y cofnod archifol am y persbectif hanesyddol.

Y Barf Canoloesol

Mae adroddiadau Cymraeg a Saesneg canoloesol yn rhoi statws uchel i’r barf, oherwydd yr arferai barf gael ei ystyried yn symbol o wrywdod a hunan-hunaniaeth ymhlith dynion.  Yn Syr Gawain a’r Marchog Gwyrdd, mae’r Marchog Gwyrdd yn sarhau dynion Llys Arthur ac yn eu galw yn “berdlez chylder” (plant di-farf).  Roedd barf, fel mwng llew, yn arwydd o wrywdod aeddfed.  Yn aml, roedd barddoniaeth Gymraeg ganoloesol yn bygwth “cywilydd ar fy marf” pe na bai gweithred ddewr yn cael ei chyflawni mewn ffordd amserol, ac mae triad cyfreithiol yn bodoli lle y nodir mai un o blith tri rheswm pam y gallai dyn guro ei wraig yw pe byddai hi’n dymuno cywilydd ar ei farf.  Roedd dweud ‘Meuyl ar dy farf’ (cywilydd ar dy farf) yn golygu bwrw sen ar statws cyhoeddus rhywun, ac efallai ar ei wrywdod.

Llun o barnwr gyda barf. O llawysgrifau Peniarth
Barnwr. O gopi Lladin o Gyfreithiau Hywel Dda,
Llawysgrifau Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru © LLGCymru

Materion Barf Bayeux

A yw Tapestri Bayeux yn gollfarnol o flew ar wyneb rhywun?  Mae’r ffigurau bychain iawn yn y campwaith hwn yn dangos y Saeson Eingl-Sacsonaidd gyda barfau a mwstashis;  mae gan Frenin Edward y Cyffeswr farf llawn hyfryd.  Ond roedd y Saeson yn colli’r frwydr hon, ac rydym i fod i edmygu’r Peiriant Glân a Diwastraff Normanaidd gyda’i filwyr wedi’u hyfforddi yn dda a’u hwynebau heb flew.

Barf Oes Elisabeth

Mae barfau yn ymddangos yng ngwaith Shakespeare i ddynodi gwrywdod.  Efallai y bydd cystadleuwyr yn hwynebu ei gilydd “barf at farf”, mae dynion ifanc yn protestio na allant actio rhan y fenyw mewn drama gan bod ganddynt “farf sy’n dechrau tyfu”.  Mae gan hen ddynion nodedig farfau arian neu wyn.  Mae gan yr Ynad Heddwch “farf toriad ffurfiol” sy’n addas i’w statws.  Yn As You Like It, mae Rosalind yn nodi y gallai dyn y mae ei sylw yn cael ei dynnu gan gariad, adael i’w farf dyfu yn anniben – sefyllfa anfoddhaol iawn gan bod y barf yn ystod Oes Elisabeth yn cael ei dorri yn dwt ac yn cael ei bwyntio, ac yn aml, roedd mwstash bywiog ac wedi’i dyfu yn dda yn cyd-fynd â hwn.

Barfau yn erbyn Wigiau

Bu barfau mewn ffasiwn ac allan o ffasiwn yn ystod y canrifoedd dilynol.  Yn ystod y ddeunawfed ganrif, wrth i wigiau cywrain ddod yn ffasiynol, aeth barfau allan o ffasiwn.  Roedd cymysgedd o wallt artiffisial ar y pen a gwallt naturiol ar y wyneb yn ymddangos fel rhywbeth amhriodol a rhyfedd.  Cyfyngwyd ar y barf i’r dosbarth gweithiol i raddau helaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif, yr oedd eu hincymau, eu galwedigaethau, ac efallai eu hawydd wedi peri iddynt wrthod y wig a gwisgo eu gwallt eu hunain.  Roedd syniadau ynghylch boneddigeiddrwydd yn ystod y ddeunawfed ganrif yn cynnwys glendid ymhlith ei rinweddau, ac nid oedd lle i farfau, a oedd yn cynnwys briwsion, grefi a chwain o bosibl, mewn cymdeithas wâr

Y Barf Milwrol

Mae agweddau tuag at farfau yn y lluoedd wedi newid dros y blynyddoedd, ond wrth bennu cyfyngiadau penodol ynghylch blew’r wyneb yn y fyddin, y Llynges ac yn ddiweddarach, yn yr awyrlu, gwnaethant ymddangosiad corfforol yn rhan o ddisgyblaeth filwrol.

Mae’r Llynges Brydeinig wastad wedi caniatáu barfau ond ers canol y 1850au, roedd yn rhaid i’r barfau fod yn rhai llawn ac roedd yn rhaid bod mwstash yn cyd-fynd â nhw hefyd.  Ni ddaeth blew’r wyneb yn gyffredin yn y Fyddin tan canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg;  mae’n ymddangos mai dylanwadau diwylliannol y rhyfeloedd yn Asia ac India, ac ymarferoldeb y gaeaf oer yn Y Crimea oedd wedi caniatáu i’r barf ffynnu ar fochau milwrol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Effaith Barf Byddin Y Crimea oedd cychwyn ffasiwn am gael barfau trwchus mawr ymhlith dynion Prydain;  yn sydyn, roedd tyfu blew wyneb trwchus yn rhywbeth gwladgarol a deniadol.  Yn nes ymlaen, mynnodd Erthygl 1695 rheoliadau’r Fyddin y dylid eillio pob rhan o’r wyneb ac eithrio’r wefus uchaf, er na welwyd cydymffurfiaeth gyffredinol â’r gofyniad hwn.  Fodd bynnag, arweiniodd at ystod eang o fwstashis milwrol, yr oedd nifer o’r rhain yn cael eu copïo gan y boblogaeth sifil.  Roedd blew’r wyneb a oedd yn cael ei ffafrio gan yr awyrenwyr yn canolbwyntio ar y wefus uchaf hefyd, gan arwain at fwstashis corniog peilotiaid awyrennau ymladd yr Ail Rhyfel Byd.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau mewn Ffasiwn

Yn dilyn cyfnod yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd maint y barf yn cynrychioli’r peth amlycaf mewn ffasiwn barfau, daeth trefniant cynnal a chadw yn bwysicach, a’r nod oedd dangos rheolaeth o’ch barf.  Dylai’r barf Fictoraidd awgrymu gwrywdod hoenus wedi’i drimio (yn llythrennol) i gyd-fynd â galwadau cymdeithas.  Ni ddylai’r barf fod yn wyllt oni bai bod y perchennog yn dymuno cyfleu gwylltineb yn benodol – efallai y byddai beirdd ac arlunwyr yn dymuno cael barf gwyllt;  ond y prif arddull o ran barfau oedd un a oedd yn adlewyrchu’r ffaith bod ei berchennog yn wrywaidd, ond yn wâr.

Nifer o luniau du a gwyn o dynion gyda barfau.
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Gwaith Cynnal a Chadw !

Er hyn, roedd hwn yn cynnwys dyluniadau y gallai cenhedlaeth heddiw eu gweld yn ecsentrig.

Locsys clust (neu Locsys Picadilly) oedd locsys clustiau gormodol, y byddent efallai yn cyrraedd yr ysgwyddau.  Roedd locsys mutton-chop yn golygu tyfu mwstash a oedd yn cysylltu â locsys clustiau moethus, ond gan gadw’r gên heb farf.

Yng nghefn gwlad Sir Aberteifi, roedd barf a oedd yn ymestyn o un glust i’r llall, a than y gên, yn ffasiynol, ond lle’r oedd rhan flaen y wyneb a safle y mwstash yn cael ei eillio.  Roedd yn dangos gallu i dyfu barf ond eto, rheoli ei baramedrau.

Yn ystod cyfnod mwy modern, rydym wedi gweld y barf gwrthsefydliadol, barf yr hipi a barf yr hipster – y mae pob un ohonynt yn cyfleu neges wahanol ac yn cael ei chymeradwyo yn frwdfrydig gan ei perchennog, gan beri syndod neu syfrdandod mewn cymdeithas ehangach.

Llun du a gwyn o dyn gyda barf
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Y Barf Sefydliadol

Yn ystod y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd sefydliadau fel carchardai a thlotai yn aml wedi dewis eillio pennau a barfau dynion.  Efallai yr oedd sawl rheswm dros hyn : pan oedd hi’n bwysig gallu adnabod yr unigolyn, efallai y byddai wyneb wedi’i eillio yn cynorthwyo wrth eu hadnabod (ond gweler isod) ;  efallai y byddai chwain a llau yn byw mewn gwallt ar y pen ac ar y wyneb, felly roedd ei waredu yn gwella’r hylendid yn y sefydliad;  efallai y byddai eillio yn gwella’r morâl trwy gadw carcharorion yn lân ac yn drwsiadus ; i’r gwrthwyneb, gallai gael ei ddefnyddio i danseilio’r ymdeimlad o’r hunan, gan erydu syniadau ynghylch unigolrwydd mewn sefydliad lle’r oedd rhywfaint o’r gosb yn ymwneud â dad-bersonoli.

Mae tystiolaeth yn awgrymu mai’r carchardai oedd wedi gorfodi eillio fwyaf – er bod cwestiynau yn codi ynghylch diogelwch caniatáu i garcharorion ddefnyddio raser at ddefnydd personol!  Mewn sefydliadau eraill, megis y Wyrcws, efallai y byddai barfau yn cael eu caniatáu pa baent yn cael eu cadw yn “hynod lân a thaclus”  roedd hyn yn caniatáu rhywfaint o hunan-fynegiant ac unigoliaeth i’r carcharor a oedd wedi cael ei wrthod iddo fel arall.

Y Barf Twyllodrus

Nododd papur newydd The Times 2 Medi 1873 bod barfau a locsys rhai carcharorion wedi cael eu heillio pan y’u trosglwyddwyd i Garchar Newgate a “dywedir na fyddai unrhyw un wedi gallu eu hadnabod ar ôl gwneud y newid hwn i’w hymddangosiad”.

Sylweddolodd y troseddwyr fanteision posibl y sefyllfa hon.  Gallai barf – neu eillio barf – fod yn ffordd hawdd o guddio pwy oeddent, gan drawsnewid a chuddio wyneb cyfarwydd.  Mewn system a oedd yn cosbi y sawl a oedd yn troseddu eto yn fwy na’r rhai a oedd yn troseddu am y tro cyntaf, roedd delwedd newydd o gymorth mawr, ac efallai y byddai barf newydd yn argyhoeddi’r awdurdodau eich bod yn rhywun gwahanol.

Roedd Charles Williams yn ffelwn barfog a anfonwyd i garchar Caerfyrddin ym 1865 a chofnodwyd ei ymddangosiad.  Ond ai Charles ydoedd mewn gwirionedd?  Pan oedd wedi treulio cyfnod yng Ngharchardai Caerfyrddin ac Aberteifi yn flaenorol, ei enw oedd Owen Pritchard, ac nid oedd barf ganddo.  Roedd wedi ymddangos yng Ngharchar Stafford hefyd, heb farf, gan alw ei hun yn William Davies.

I’r un perwyl, bu cyn garcharor yn rhannu atgofion ym 1928 gan nodi “ar yr adeg pan dynnwyd llun yr heddlu, roeddwn wedi bod yn tyfu barf am ychydig fisoedd.  Ar y ffordd i weld y ffotograffydd hefyd, cydiais mewn ychydig gerrig mân, eu rhoi yn fy ngheg a chrychu fy wyneb fel na fyddai fy mam fy hun wedi fy adnabod i hyd yn oed.”

Llun Charles Williams o Gofrestr y Felon Sir Gâr
© Welsh Legal History Society ( drwy ganiatâd Archifau Sir Gaerfyrddin)

Y Dyn Teuluol Barfog

Yn yr un modd ag yr oedd Duw y Tad yn aml yn cael ei bortreadu fel ffigwr barfog aeddfed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y penteuluoedd Fictoraidd yn aml yn gwisgo barf, gan ddangos eu haeddfedrwydd, eu gwrywdod a difrifoldeb eu sefyllfa fel y penteulu.  Mae’n siŵr mai cynnydd y rasel ddiogelwch a wynebau di-flew yr actorion ffilm newydd tua dechrau’r ugeinfed ganrif a oedd wedi peri i’r tad barfog fynd allan o ffasiwn.

Llun o deulu oes Fictoriaidd
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau Gwaith

Mewn rhai proffesiynau, gallai blew wyneb gormodol fod yn berygl i’w berchennog (meddyliwch am beiriannau sy’n troi, amgylcheddau lle y gallai gwreichion hedfan, mannau lle’r oedd hi’n hanfodol eich bod yn gwisgo mwgwd tynn), ond mewn eraill, efallai y byddai’n cynnig haen inswleiddio, ffordd o ddiogelu rhag dwst a baw, neu’n syml, fel ffordd o arbed arian ac amser wrth eillio.  Yn aml, byddai dynion hŷn yn gadael i’w barfau dyfu, roedd hi’n fuddiol i’r rhai a oedd yn teithio ar y môr gadw eu barfau (mae’n amlwg bod gan ddefnyddio rasel hir yn ystod storm ei hanfanteision) ac yn aml, arferai offeiriaid ddefnyddio barfau i ychwanegu at eu difrifoldeb.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives
O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Barfau ym myd Chwaraeon

Un maes ym myd chwaraeon ym Mhrydain lle y gwelwyd y barf yn cael ei ffafrio oedd criced – a ymgnawdolwyd yn y ffordd fwyaf nodedig yn hwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan W.G. Grace.  Ond ble mae wynebau barfog pêl-droedwyr cynnar?  Yn amlwg yn eu habsenoldeb;  blew’r wyneb a oedd yn cael ei ffafrio gan bêl-droedwyr oedd mwstash.

O gasgliadau yn Archifdy Ceredigion © Archifdy Ceredigion Archives

Y Barf Yfory

Beth yw dyfodol y barf?  Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain ym Mhrydain, mae llawer mwy o amrywiaeth ddiwylliannol nag erioed o’r blaen, ac mae barfau yn rhan o’r stori, a gwelir toreth o farfau a ddylanwadir gan ddiwylliant, crefydd a ffasiwn.  Mae’n ymddangos y bydd y barf gyda ni am sawl blynedd i ddod, gan fod yn amlygiad allanol o’r unigolyn o fewn, ac yn ddatganiad i gymdeithas gyfan.  Ond rhaid cadw rhyw gofnod o’r barfau hyn yn yr archif er mwyn i’r oesoedd i ddod wybod sut yr oeddem yn teimlo am farfau yr unfed ganrif ar hugain – beth fyddai’r ffordd orau i’r proffesiwn bortreadu barfau heddiw?  Penderfynwch chi.

Helen Palmer, Archifydd y Sir
Archifdy Ceredigion Archives

Ffynonellau

ed. Larissa Tracey Flaying in the Pre-modern World Michael Livingston “Flayed Beards and Gendered Power in Arthurian Literature”

Alun Withey Concerning Beards. Facial hair, Health and Practice in England 1650-1900

John Bollard  ‘Meuyl ar uy Maryf : Shame and Honour in the Mabinogi’ Studia Celtica 2013

Daryl Green https://brewminate.com/beards-of-belonging/

https://www.riflemantours.co.uk/facial-hair-and-the-british-soldier/

https://thebeardedbrit.com/a-history-of-beards-part-five/

ed. L. Knaffla Policing and War in Europe. Richard Ireland “The felon and the angel copier”