Cofnodion o gwmni pantomeim lleol sydd i’w ‘gweld yn awr’ yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru! Darllenwch yr hanes yn ein blog diweddaraf…
Yn ddiweddar rydym wedi bod yn hynod ffodus o dderbyn cofnodion Cwmni Pantomeim Amatur Jack Evans ar fenthyg gan Mr Colin Baines, nai Jack Evans. Dros y blynyddoedd, mae wedi cofnodi hanes manwl y Cwmni a chyfraniad ei deulu i’r cwmni, gan greu archif hynod gyfoethog. Mae’n cynnwys sgriptiau gwreiddiol, lluniau’r cynyrchiadau, erthyglau papur newydd, hysbysebion ac eitemau hanesyddol o’r cwmni theatr lleol dynamig a oedd yn weithredol rhwng 1929 a 1942. Bu i’r Cwmni berfformio’n helaeth ar draws ardal Gogledd Ddwyrain Cymru, gan gynnwys Cei Connah, Shotton, yr Wyddgrug, Treffynnon, Bagillt, Prestatyn a’r Rhyl.
Fe ffurfiwyd y Cwmni gan Jack Evans o Shotton (a aned yn Rhiwabon, 1909, ei enw llawn oedd William J.M. Evans), ac roedd ganddo ddiddordeb mewn pantomeim yn gynnar iawn gan wneud sioeau ar gyfer ei gyfeillion yn y Sgowtiaid yn Rhuddlan; gan fynd ymlaen i ddysgu tafleisio a theithio gyda theatr bypedau deithiol.
Yn ei ieuenctid, ffurfiodd Jack Evans ei Gwmni Pantomeim ei hun yn cynnwys pobl leol o Ogledd Cymru gan gydweithio gyda’r teulu Noakes, a oedd â phrofiad sylweddol ym myd y theatr. Bu i’r teulu uno pan fu i Jack briodi Winifred Noakes yn Eglwys Sant Marc, Cei Connah, ym mis Medi 1933.
Roedd Jack Evans yn asiant yswiriant yn ystod y dydd, ond yn ei amser hamdden, roedd yn awdur, cynhyrchydd, cyfarwyddwr ac actor rhan amser yn y Cwmni Pantomeim gyda Winifred yn derbyn prif rôl yn y rhan fwyaf o’r cynyrchiadau. Roedd Jack yn sgriptiwr o fri ac yn ysgrifennu neu’n addasu’r holl sgriptiau gwreiddiol ar gyfer y pantomeimiau, mae’r teipysgrifau wedi’u cyflwyno i’r Archifau i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau. Roedd bron pob aelod o deulu Noakes yn cyfranogi mewn rhyw fodd neu’i gilydd: Mam Winifred, Elizabeth, oedd yn gyfrifol am y gwisgoedd; roedd Ena Noakes, chwaer Winifred, yn ddawnswraig hyfforddedig a daeth yn feistres bale y Cwmni; ac roedd ei brodyr yn creu’r effeithiau arbennig, gwaith coed, goleuadau a cholur. Roedd Gwilym Roberts, comedïwr poblogaidd o Lannau Dyfrdwy, yn rhan o’r cwmni hefyd. Roedd aelodau eraill y cast yn cynnwys pobl leol, rhai a oedd yn byw ar Fron Road a’r strydoedd cyfagos yng Nghei Connah. Roedd nifer o aelodau’r cast yn weithwyr yng Ngwaith Dur Shotton a ffatrïoedd tecstilau Courtaulds (Liverpool Weekly Post, 3 Medi 1938). Roedd ‘arbenigeddau’r cast yn cynnwys acrobateg, tafleisio a pherfformiadau cerddorol unigol a oedd yn ychwanegu at y perfformiadau anhygoel.
(Cyf: D/DM/1936/2/2)
Nododd adolygiad o ‘Robinson Crusoe’ yn Shotton (1933) bod y Cwmni o’r radd flaenaf, gan ddatgan nad oedd modd iddynt wella bron. Roedd yn canmol y ffrogiau hardd yr oedd y prif gymeriadau a’r corws yn eu gwisgo. Roedd rhai o’r golygfeydd yn anhygoel,…. yn enwedig y dawnsio. (‘Robinson Crusoe at Shotton, A Fine Spectacle’, papur newydd anhysbys). Yn y cyfamser, nodwyd bod y cynhyrchiad o’r Sleeping Beauty yn 1937 yn un heb ei ail, cystal â’r perfformiadau proffesiynol hyd yn oed. (Papur newydd anhysbys, D/DM/1936/2/3).
gyda Winifred Noakes yn y brif rôl
(Cyf: D/DM/1936/3/2)
Ynghyd â darparu adloniant gwych yn yr ardal leol, yn ystod ei gyfnod gweithredu bu i’r Cwmni gasglu dros £3,500 ar gyfer elusennau lleol. Roedd hefyd yn cynnig cyfle prin i actorion amatur lleol serennu yn y cynyrchiadau lled-broffesiynol a phoblogaidd, ochr yn ochr â’r cyfle i deithio, cwrdd â phobl newydd a dysgu ystod o sgiliau theatraidd.
Ond gwaethygu wnaeth ffawd y Cwmni yn 1940, pan fu sawl perfformiwr mewn damwain ffordd ddifrifol. Roeddent yn teithio mewn tacsi i berfformiad o’r pantomeim yn y Rhyl pan fuont mewn gwrthdrawiad ym Mhrestatyn, gan achosi anafiadau difrifol i rai ohonynt. Ena Noakes (Baines yn ddiweddarach), y Brif Ddawnswraig, a meistres bale y cwmni a gafodd yr anafiadau gwaethaf. Cafodd ei rhuthro i’r Ysbyty Brenhinol yng Nghaer i gael llawdriniaeth frys ar ei phen. Yn ffodus, bu iddi wella, ond roedd ei hanafiadau yn cyfyngu ei rôl mewn pantomeimiau wedi hynny.
(Cyf: D/DM/1936/2/2)
Gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd, cafodd nifer o aelodau’r cwmni eu galw i wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac ymgymryd â gwaith rhyfel. Bu i eraill ymuno â Chymdeithas Gwasanaeth Milwrol Adloniant (ENSA), a oedd yn darparu adloniant i luoedd arfog Prydain yn ystod y rhyfel. Roeddent yn teithio yn darparu adloniant i’r lluoedd, yn codi eu hysbryd ac yn rhoi anogaeth i’r ymdrech yn y rhyfel.
O bapur newydd anhysbys, 1940 (Cyf: D/DM/1936/2/2)
Bu Jack Evans ei hunan yn y lluoedd arfog fel saethwr ôl, oddeutu 1940-1942. Bu ei gyfnod yn y fyddin yn un byr gan iddo gael ei saethu yn ei wddf yn ystod ei wasanaeth milwrol mewn awyren fomio Lancaster, oddeutu 1942. Fe ddaeth yn ôl i Gei Connah, ond roedd mwyafrif o ddynion yr ardal yn parhau i fod yn y rhyfel. Roedd y cwmni wedi gwahanu a dyna ddiwedd cyfnod cwmni pantomeim amatur Jack Evans.
Mae’r cofnodion hyn yn darparu cronicl gweledol cyffrous o gwmni theatr llwyddiannus a oedd yn diddanu cynulleidfaoedd o bob cwr o Ogledd Ddwyrain Cymru am dros ddegawd. Mae modd gweld nifer o bobl leol a fu yn y perfformiadau yn y lluniau a’r erthyglau papur newydd sydd yn y llyfrau hyn.
Efallai y bydd ymchwilwyr yn ddigon ffodus i gael cipolwg o aelodau eu teulu eu hunain yn yr archifau! Mae modd gweld y cofnodion hyfryd hyn yn awr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, Penarlâg (apwyntiadau’n ofynnol), Cyf: D/DM/1936. Pob llun trwy garedigrwydd Mr Colin Baines © Jack Evans Amateur Pantomime Company
