Thema Diwrnod Rhyngwladol Archifau eleni yw Grymuso’r Archifau (Empowering Archives). Dyma Sally McInnes, Cadeirydd Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol ARCW a Phennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn egluro sut mae gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi ei gilydd i wthio’r agenda cadwraeth ddigidol yn ei blaen.
Un o’r pethau cadarnhaol sydd wedi codi o’r amser heriol hyn yw’r gallu i gysylltu a rhwydweithio â chydweithwyr o bell. O fy nghartref yng Nghanolbarth Cymru rwy’n gallu ymgysylltu ag arbenigwyr, dysgu o’u profiadau, a chyfrannu at drafodaethau ar sail fyd-eang. Er ein bod wedi bod yn adeiladu capasiti cadwedigaeth ddigidol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, mae’r cysylltiadau hyn wedi ein hysbrydoli i ymestyn y gwaith sy’n cael ei wneud i hyrwyddo cynaliadwyedd digidol.
Nid menter newydd yw cefnogi’r sector yng Nghymru: mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW), gyda chymorth LLGC â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio i gynyddu galluedd cadwedigaeth ddigidol yng Nghymru ers blynyddoedd. Carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith yma oedd cyhoeddi’r ‘Polisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru’ yn 2017. Yn ogystal â hyn, datblygwyd isadeiledd technegol, wedi’i seilio ar Archivematica, Fedora, a system storio. Trwy’r system hon gall partneriaid ARCW adneuo cynnwys digidol o bell, ei gadw’n ddiogel yn systemau LLGC, a darparu mynediad at y cynnwys trwy eu catalogau eu hunain.
Mae’r cyfleoedd a gyflwynir trwy ddefnyddio rhaglenni megis Microsoft Teams a Zoom yn golygu bod modd ymgysylltu â defnyddwyr y system mewn modd mwy rhagweithiol nag a fu’n bosibl o’r blaen. Maent hefyd yn rhoi cyfle i gynyddu sgiliau a gwybodaeth am gadwraeth ddigidol yn fwy cyffredinol. Trwy gynyddu gwybodaeth, sgiliau a thrwy godi ymwybyddiaeth o faterion cadwedigaeth ddigidol, bydd cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori ledled y sector.
Mis yma byddwn yn cychwyn ein rhaglen hyfforddiant ‘Diogelu’r Didau’. Bydd sesiynau’n trafod materion damcaniaethol ac ymarferol, gan gyfeirio at fodelau, offer a llifoedd gwaith sy’n bodoli eisoes, y gall sefydliadau eu defnyddio. Gan fanteisio ar dechnolegau newydd, gall y sesiynau hyn bellach fod yn hygyrch ac yn rhyngweithiol, gan ddefnyddio cyflwyniadau, arddangosiadau byw a thrafodaethau. Bydd y pynciau’n cynnwys paratoi gweithfan, dewis offer, dulliau trosglwyddo, opsiynau storio, IIIF a Torfoli. Bydd y sesiynau’n anffurfiol, gyda materion yn cael eu codi a’u datrys gyda’n gilydd.
Ni fyddai’r sesiynau hyn yn bosib heb yr adnoddau a’r deunyddiau hyfforddi sydd bellach ar gael; ond mae cyfarfodydd rhithiol yn golygu bod modd cydlynu’r defnydd o’r adnoddau hyn a rhwydweithio i drafod sut i roi technegau newydd ar waith yn fwy effeithiol. Y gobaith yw y bydd y sesiynau hyn yn cyfrannu at adeiladu’r gymuned sy’n ymroddedig i ddiogelu ein treftadaeth ddigidol.
Sally McInnes
Cadeirydd Grŵp Cadwedigaeth Ddigidol ARCW
Pennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru