Site icon Archifau Cymru

Prif Weinidog Cymru yn dathlu’r dyfarniad o statws Cof y Byd UNESCO i gasgliadau hanesyddol nodedig.

Heno yn y Senedd yng Nghaerdydd, bydd Prif Weinidog Cymru yn llywyddu dyfarniadau Cof y Byd y Deyrnas Unedig sy’n cydnabod casgliadau dogfennol treftadaeth o ‘Arwyddocâd neilltuol i’r Deyrnas Unedig’. Dyma’r tro cyntaf i’r dyfarniadau nodedig Cof y Byd gael eu cynnal yng Nghymru.

Sefydlodd UNESCO Raglen Cof y Byd yn 1992. Gweledigaeth y rhaglen yw fod treftadaeth dogfennol y byd yn perthyn i bawb, yn cael eu diogelu a’u gwarchod i’r eithaf i bawb a bod ar gael i bawb yn barhaol heb rwystr. Mae Cofrestr y Deyrnas Unedig yn cydnabod etifeddiaeth ddogfennol a ystyrir gan banel o arbenigwyr i fod o arwyddocâd neilltuol i’r Deyrnas Unedig.

Bydd saith o gyflwyniadau newydd yn ymuno â’r 50 sydd wedi’u rhestru eisoes ar gofrestr y Deyrnas Unedig (un o nifer o raglenni ar lefel gwlad o sawl rhan o’r byd). Bydd y derbyniad heno hefyd yn dathlu dau gyflwyniad y Deyrnas Unedig i’r Gofrestr Genedlaethol, sy’n cydnabod etifeddiaeth ddogfennol o safon fyd-eang.

Mae etifeddiaeth ddogfennol gyfoethog y Deyrnas Unedig yn gyforiog o straeon am bobl, lleoedd a digwyddiadau – nhw yw cof y ddynoliaeth mewn dogfennau. Mae llawer ohono ar gael i’r cyhoedd mewn archifau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.

Mae amrywiaeth eang o ddogfennau hanesyddol hynod o sawl rhan o’r Deyrnas Unedig wedi’u cynnwys yng ngwobrau 2016. Maent wedi’u dyddio o’r nawfed i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae eu cynnwys yn amrywio o archifau canoloesol Cadeirlan Caergaint i lyfrau nodiadau labordy’r gwyddonydd Michael Faraday, o lyfr barddoniaeth Caerwysg mewn Hen Saesneg i lythyrau’r arloeswr sosialaidd Robert Owen.

O Gymru, mae Cofrestr y Deyrnas Unedig yn cydnabod yr Arolwg o Faenorau Crucywel a Thretŵr, a luniwyd gan Robert Johnson yn 1587 ac sydd bellach yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn wahanol i’r mwyafrif o arolygon stadau’r cyfnod hwn, a oedd yn anad dim yn ddisgrifiadau testunol, cynhyrchodd yr arolwg hwn set o fapiau yn ogystal. Ni wnaeth llunio mapiau fel rhan annatod o arolwg stad ddod yn arferiad cyffredin am ddwy ganrif arall, ac o’r herwydd mae’r arolwg hwn yn torri tir newydd yn ei driniaeth. Mae’r arolwg cyflawn i’w weld yn https://www.llgc.org.uk/discover/digital-gallery/maps/estate-maps/badminton-estate/.


Meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus yn y Llyfrgell Genedlaethol: “Y Llyfrgell Genedlaethol yw prif lyfrgell ac archifdy Cymru. Mae’n ffynhonnell wybodaeth enfawr a thrysordy i bob pwnc, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn ystorfa fyw o ddiwylliannau cofnodedig Cymru. Rydym yn hynod falch fod yr Arolwg – sy’n ffurfio rhan o’r casgliad cenedlaethol – yn awr yn cael ei gynnwys yng Nghofrestr y Deyrnas Unedig. Mae ansawdd, manylder a helaethrwydd y mapiau’n drawiadol. Mae’r chwe map a deugain llawn a hanner llawn bendigedig sydd wedi’u lliwio yn dangos tiroedd ym maenorau a bwrdeistrefi Crucywel a Thretŵr gyda thirlun yr ardal yn gefndir iddynt. Mae’r Arolwg hwn yn drysor cenedlaethol”.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae archifau cyfoethog Cymru yn cofnodi ein diwylliannau hanesyddol a llenyddol, gan roi cymorth i fwy o bobl nag erioed o’r blaen ddysgu am ein hetifeddiaeth genedlaethol. Yn ogystal, mae ein harchifau yn cynnig cofnod unigryw fel tystiolaeth i’r cenedlaethau sydd i ddod – gan roi i’n plant a phlant ein plant lun lliwgar, craff ac awdurdodol o’n traddodiadau a’n diwylliannau, ac am ein datblygiad fel cenedl.

“Mae ychwanegu Arolwg Robert Johnson o’r Maenorau i Gofrestr y Deyrnas Unedig yn rhoi’r gydnabyddiaeth iawn y mae’n ei haeddu iddo. Rwy’n llongyfarch y Llyfrgell Genedlaethol a diolch i UNESCO am eu rôl barhaol yn amlygu pwysigrwydd ein hetifeddiaeth ddogfennol.”

Bydd y dyfarniadau yn clodfori dau gasgliad o’r Deyrnas Unedig sydd wedi’u hychwanegu at y Gofrestr Ryngwladol, papurau Winston Churchill a dyddiadur Cadlywydd Syr Douglas Haig 1914 – 1919.
Dywedodd Elizabeth Oxborrow-Cowan, Cadeirydd Pwyllgor Cof y Byd y Deyrnas Unedig: “Mae’r dogfennau hynod hyn yn arddangos etifeddiaeth ddogfennol arbennig o gyfoethog y Deyrnas Unedig, llawer ohonynt ar gael yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd drwy gyfrwng archifau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd. Rwy’n annog pobl i ddarganfod yr etifeddiaeth hon drostynt eu hunain.”

Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig UNESCO yw’r canolbwynt ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â UNESCO yn y Deyrnas Unedig. Dywedodd Karen Merkel, Cyfarwyddwr Anweithredol UKNC am Gyfathrebu a Gwybodaeth: “Hoffwn ddiolch i aelodau Comisiwn Cof Byd-eang y Deyrnas Unedig, dan gadeiryddiaeth Elizabeth Oxborrow-Cowan, am eu hasesiad gofalus o’r casgliadau newydd i’w hychwanegu at Gofrestr Cof Byd-eang y Deyrnas Unedig. Mae eu harbenigrwydd yn tywys ymgeiswyr drwy’r broses ymgeisio drwyadl ac yn sicrhau fod casgliadau ag arwyddocâd gwirioneddol byd-eang ac argraff genedlaethol yn ymuno â chymdeithas glodfawr ar y Cofrestr Byd-eang y Deyrnas Unedig.”

Mae Cymru yn gartref i gyfoeth o amgylcheddau o ansawdd byd-eang a gafodd eu cydnabod yn ffurfiol gan UNESCO, yn ogystal â’i Chasgliadau Cof Byd-eang.
Mae’r rhain yn cynnwys:
– tri Safle Treftadaeth y Byd (Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn Nhrefor, Wrecsam , Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Nhorfaen a Chestyll a Muriau Trefi Edward y Cyntaf yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn),
– un Warchodfa Biosffer (Biosffer Dyfi Biosphere)
– dau Geoparc Byd-eang (Geoparc Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog a Geoparc Geo Môn yn Amlwch, Ynys Môn)

– pedwar arysgrif Cof y Byd arall (Cyfweliadau Sinema Hepworth, Archif Cenedlaethol Sain a Sgrin Cymru Aberystwyth, Gweithiau Dur Cadeirlan Castell-nedd, Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg, Abertawe, Casgliad Llawysgrifau Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Hanes Bywyd David Lloyd George, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Sain a Sgrin, Aberystwyth).

Mae UKNC yn archwilio’r gwerth y mae achrediad UNESCO yn dod i Gymru a’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd yn ei adroddiad newydd am Werth Ehangach UNESCO i’r Deyrnas Unedig.

Exit mobile version