Mae archifau’n helpu i adrodd stori ein gorffennol a diogelu ein cof ar y cyd a’n hunaniaeth ddiwylliannol. Maen nhw’n casglu ac yn gofalu am gofnodion o’ch bywyd, eich cymuned, eich busnes, eich cenedl a’ch byd, gan eu gwneud yn hygyrch. Mae archifau yn cynnig gwybodaeth neu dystiolaeth o lygad y ffynnon am ddigwyddiadau neu ffigurau hanesyddol, a gallant gynnwys eitemau megis llythyrau, adroddiadau, cofrestrau, mapiau, ffotograffau a ffilmiau, ffeiliau digidol a recordiadau sain. Mae gwasanaethau archifau yng Nghymru yn agos atoch chi, ac mae’r llyfryn hwn yn sôn mwy wrthych chi amdanynt, ac am eu gwaith a’u llwyddiannau diweddar.