Site icon Archifau Cymru

Digwyddiadau

Gweler y rhestr isod o digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan gwasanaethau archifau yng Nghymru:

Archifau Morgannwg: Arddangosfa Gwaed Morgannwg ar Daith
Nawr bod prosiect Gwaed Morgannwg i gatalogio a gwarchod y casgliadau glo yn Archifau Morgannwg wedi’i gwblhau, ymwelwch â’n harddangosfa yn Cwrt Insole a darganfod mwy am gofnodion diwydiant glo de Cymru a’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym am fywyd yn y maes glo.
01/03/2023 – 31/03/2023 Llyfrgell Pyle Library
02/05/2023 – 31/05/2023 Llyfrgell Canolog Merthyr
12/06/2023 – 30/06/2023 Archifdy Gwent

Archifau Gwent Dydd Llun 27 Mawrth 2023 1pm-2pm
Welcome to #CrowdCymru – Jennifer Evans (Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg)

Mae #Crowd Cymru yn brosiect gwirfoddoli digidol, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Archifau Gwent, Archifau Morgannwg a Chasgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd.
Gellir ei gyrchu trwy blatfform cyfrannu torfol, dwyieithog, sy’n galluogi gwirfoddolwyr i dagio, anodi a disgrifio casgliadau treftadaeth ddigidol ar eu cyflymder eu hunain a hynny o gartref [gyda mynediad i gyswllt diwifr (Wi-Fi)]! Mae’r Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol yn esbonio sut mae’r prosiect yn dod yn ei flaen ac yn dod ag archifau digidol i fyw mewn modd bywiog! O ddiddordeb i unrhyw un sy’n mwynhau hanes lleol a chymdeithasol.

Exit mobile version