Bydd y rhan fwyaf o’r archifau sydd ar gadw yn yr ystorfa wedi eu rhestru’n fanwl mewn catalogau. Mae’r rhain fel arfer yn rhoi gwybodaeth am gefndir yr archif – pwy greodd yr archif a pham – ac yn disgrifio pob eitem unigol sy’n rhan ohoni. Bydd gan bob eitem yn y catalogau, neu bob grŵp o eitemau, gyfeirnod neu god. Bydd angen i chi wneud nodyn o’r cyfeirnod hwn er mwyn gofyn am yr eitemau rydych am eu gweld.

Byddwch yn defnyddio’r archifau mewn ystafell ddarllen neu, fel y’i gelwir yn aml, mewn ystafell chwilio. Pan fyddwch yn gofyn am eitem, bydd staff yn dod ag ef allan atoch er mwyn i chi ei ddefnyddio yn yr ystafell chwilio. Bydd yn cael ei roi i ffwrdd yn saff ar ôl i chi orffen gydag ef nes y bydd ei angen eto.

Bydd staff ar gael i’ch helpu o hyd – gofynnwch am gymorth os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os nad ydych yn gwybod sut i ddefnyddio’r catalogau.

Nesaf: Catalogau Ar-lein