Wales_at_War_bilingual_logoBydd “Cymru mewn Rhyfel” yn datblygu gweithgaredd i blant er coffáu’r Rhyfel Mawr gan eu cefnogi i lunio bywgraffiadau o’r enwau sydd ar Gofgolofnau Cymru.

Bydd y prosiect yn creu adnoddau i gynorthwyo plant i ddefnyddio adnoddau print ac ar lein sydd mewn bod am fywydau aelodau’r lluoedd arfog o Gymru a gwympodd yn yr ymladd rhwng 1914 a 1918.

Gwefan Cymru Yn Y Rhyfel