Mae’r archif ddigidol hon yn allbwn prosiect digido ar raddfa eang. Yma ceir casgliad o ffynonellau cynradd sy’n hanu o Lyfrgelloedd, Adrannau Casgliadau Arbennig ac Archifdai Cymru. Mae’r prosiect yn darparu casgliad digidol sy’n datgelu hanes cudd y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn dangos sut y bu’r hanes yn effeithio ar fywyd, iaith a diwylliant yng Nghymru.

Mae’r prosiect wedi casglu deunydd a fu ar wasgar ac yn aml yn anghyraeddadwy ac wedi’u gosod mewn un lle i greu archif ddigidol unigryw a fydd o ddiddordeb i ymchwilwyr, myfyrwyr a’r cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Gwefan Cymru 1914