Mae gan archifau Cymru gasgliad helaeth o ddogfennau, llythyrau, dyddiaduron, mapiau a ffotograffau o’r Rhyfel Byd Cyntaf a gallwch ddod o hyd i lawer o’r rhain trwy chwilio’r catalog ar-lein.

Mae yna hefyd rai adnoddau allanol defnyddiol ar gael:

Cymru’n Cofio – Safle sy’n darparu newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth ar goffâd y canmlwyddiant yng Nghymru

Cymru yn y Rhyfel – Archif ddigidol sy’n cynnwys ffynonellau am y Rhyfel Byd Cyntaf a’r modd yr effeithiodd ar Gymru.

Cymru 1914 – Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig – Prosiect i gasglu hanesion y 40,000 o bobol o Gymru – milwyr, morwyr, awyrenwyr, nyrsys a phobol gyffredin – a gollodd eu bywydau fel rhan o’r ymdrech ryfel yng Nghymru