Mae defnyddio archifau’n brofiad gwych – mae pob eitem yn werthfawr ac yn unigryw; yn gysylltiad uniongyrchol â’r gorffennol.

Mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod yn para heb niwed er mwyn i bobl eraill eu defnyddio, felly mae gan y rhan fwyaf o archifdai reolau yn eu hystafelloedd chwilio, fel y rheolau canlynol:

  • Sicrhewch bod eich dwylo’n lân
  • Defnyddiwch bensiliau yn unig
  • Dim bwyta nac yfed (dim hyd yn oed felysion neu ddŵr)
  • Byddwch yn ofalus wrth drin y dogfennau – defnyddiwch y pwysau a’r cynhalwyr llyfrau a ddarperir os oes angen
  • Gadewch eich bagiau a’ch cotiau y tu allan i’r ystafell chwilio – mae gan y rhan fwyaf o archifdai gypyrddau clo.

Bydd staff yn barod i’ch helpu a rhoi cyngor ar y ffordd orau i drin y dogfennau bob tro.