Nid yw’r archifau fel llyfrgelloedd…fedrwch chi ddim pori’r silffoedd er mwyn dod o hyd i’r archifau rydych am eu defnyddio. Mae archifau’n unigryw, ac ni ellir cael rhai newydd os y’u collir neu os y’u difrodir. Felly, fe’u cedwir mewn ystafelloedd diogel o dan yr amgylchiadau cywir. Gallwch chwilio am archifau a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymchwil chi naill ai yn ystorfa’r archifdy ei hun neu ar-lein.

Chwilio’r catalog
Yn wahanol i lyfrau mewn llyfrgell, bydd yn gymorth cofio, wrth ddefnyddio’r catalogau, na threfnir archifau yn ôl pwnc. Fe’u trefnir yn ôl ‘creawdwr’ – cedwir yr holl gofnodion a grëwyd gan un unigolyn neu sefydliad gyda’i gilydd, fel archif yr unigolyn neu’r sefydliad hwnnw. Gall un archif gynnwys deunyddiau sy’n ymwneud ag ystod o bynciau ac, ar y llaw arall, efallai y gwelwch bod deunyddiau sy’n ymwneud ag un pwnc arbennig wedi eu lledu ar draws nifer o wahanol archifau.

Bydd staff ar gael i’ch helpu o hyd – gofynnwch am gymorth os na fedrwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, neu os nad ydych yn gwybod sut i ddefnyddio’r catalogau.

Nesaf: Ymweld ag Archifdy