Mae llawer o’r cofnodion yr ydyn ni’n gofalu amdanyn nhw wedi eu rhoi i ni neu wedi eu hadneuo gan aelodau’r cyhoedd, busnesau, sefydliadau a chymdeithasau. Os oes gennych chi gofnodion sy’n ymwneud â phobl neu leoedd yng Nghymru a’r cylch ac fe hoffech eu diogelu a’u rhoi ar gael i’r cyhoedd, yna gallwch ychwanegu at ein casgliadau. Gallwch un ai roi eich cofnodion i ni’n rhodd, neu eu hadneuo â ni ar fenthyg.

Sut fyddwn i’n adneuo fy nghofnodion?

Os hoffech chi adneuo cofnodion cysylltwch â ni i drafod hynny.