Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith rydym ni’n ei wneud.
Pam gwirfoddoli?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr o bob cefndir ac oed. Efallai bod arnoch chi eisiau dysgu sgiliau newydd neu wella eich CV, derbyn rhywfaint o brofiad gwaith neu ddysgu am hanes eich ardal.
Dyma rhai o fanteision gwirfoddoli:
◦gwella sgiliau TG a sgiliau eraill sy’n gysylltiedig â gwaith
◦darparu gwell ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned
◦gwella hyder wrth chwilio am waith
Mae gwirfoddoli yn cefnogi unigolion sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o ddiweithdra, drwy ddarparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a chael profiad mewn sectorau gwahanol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, edrychwch ar eich archif lleol i weld pa gyfleoedd y gallant eu cynnig.
Darllenwch mwy am wirfoddoli yn y sector archifau: Gwirfoddoli mewn Archifau