Mae Archwiliwch Eich Archif yn ymgyrch Genedlaethol sy’n anelu at arddangos potensial unigryw archifau i gyffroi pobl, dwyn cymunedau ynghyd, ac adrodd storïau anhygoel.
Mae’n cyfle da i arddangos y casgliadau archifol rhyfeddol sy’n cael eu dal gan sefydliadau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, beth bynnag fo’u maint a’u graddfa, a ble bynnag maen nhw.
Mae’r ymgyrch hefyd yn annog pawb i ddarganfod y storïau, y ffeithiau, y lleoedd a’r bobl sydd wrth galon ein cymunedau gyda llawer o archifau yn agor eu drysau a gwahodd y cyhoedd i brofi, deall ac ymfalchïo yng nghyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau sydd ganddynt.
Bydd defnyddwyr yn cael eu hannog i ymuno yn yr ymgyrch Archwiliwch eich Archif ar Twitter gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu eu storïau a’u lluniau gan ddefnyddio’r hashtag #ArchwilioArchifau.
Bydd amryw o ddigwyddiadau am ddim yn cael eu cynnal mewn archifau ledled Cymru. Gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau lleol yma: Digwyddiadau
Neu, dilynwch ni ar Trydar neu Facebook i gael y newyddion diweddaraf.