CYNNAL AROLWG O BELL AR GOFNODION: CANLLAWIAU I WASANAETHAU ARCHIFAU
Yn y ddogfen hon ceir amlinelliad o’r broses achub cofnodion busnes, a hynny o’r cam ymchwil a monitro hyd at gaffael cofnodion cwmni ansolfent. Mae’n cynnwys canllawiau ar derminoleg ansolfedd gorfforaethol, gan gynnwys y termau pwysicaf ar gyfer archifyddion, a chyngor ar sut i gysylltu ag ymarferwyr ansolfedd. Mae ein gwaith yn datblygu’r canllawiau yn seiliedig ar y profiad o gynnal arolwg o bell ar gadw cofnodion ymhlith busnesau ac elusennau ledled Cymru fel rhan o brosiect Cofnodion mewn Perygl CACC.
Mae’r ddogfen yn amlinellu methodoleg ar gyfer cynllunio a chynnal arolwg, gan gynnwys sut i ddatblygu meini prawf dethol er mwyn adnabod amrywiaeth o sefydliadau i fod yn rhan. Ceir canllawiau ar ddefnyddio ffynonellau data cyhoeddus agored megis cofrestri Tŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau i ymchwilio a chanfod sefydliadau targed. Mae’n cynnwys enghreifftiau o sut i dargedu sefydliadau drwy feini prawf dethol yn ôl rhanbarth a sector ac felly dylai fod o ddiddordeb i wasanaethau archifau sydd â chylch gwaith penodol i gasglu yn ôl daearyddiaeth, megis gwasanaethau archifau awdurdodau lleol, yn ogystal ag archifau pynciau arbenigol.
Gan ddefnyddio enghreifftiau o arolwg CACC ar fusnesau ac elusennau yng Nghymru, mae hefyd yn manylu ar opsiynau amrywiol ar gyfer cynllunio a chynnal arolwg o bell, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer y mathau o gwestiynau y gellir eu cynnwys ar ffurflen holiadur arolwg o bell.
Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho’r canllawiau.
Mae tiwtorial fideo ategol ar gael yma.
ADNODDAU YCHWANEGOL
Mae adnoddau pellach ar gael yma.