Templed holiadur ar gyfer cynnal arolwg o bell
Fel rhan o’r prosiect Cofnodion mewn Perygl, lluniwyd holiadur i’w ddosbarthu i sefydliadau yn eu gwahodd i ymuno yn ein harolwg ar gadw cofnodion hanesyddol. Mae’r holiadur yn addas i’w ddefnyddio gyda phob math o sefydliadau, gan gynnwys busnesau ac elusennau. Mae’n gofyn i ymatebwyr am:
- Yr amodau y cedwir cofnodion nad ydynt yn gyfredol
- Mathau a fformatau’r cofnodion a gedwir
- Diddordeb y sefydliad mewn cael arweiniad ar sut i gadw cofnodion, neu drosglwyddo eu cofnodion hanesyddol i wasanaeth archifau allanol.
Gallwch lawrlwytho copi o dempled yr holiadur yn Microsoft Word isod. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch defnyddio’r templed, gweler: ‘Cynnal Arolwg o Bell ar Gofnodion: Canllawiau i wasanaethau archifau’.
Llythyr enghreifftiol i wahodd sefydliadau i gymryd rhan mewn arolwg
Cliciwch isod i lawrlwytho llythyr sampl a thestun e-bost y gellir eu defnyddio i wahodd darpar ymatebwyr i gymryd rhan mewn arolwg o bell ynghylch cadw cofnodion.
Adnoddau a chymorth allanol
Sylwer y caiff yr adnoddau canlynol eu cyhoeddi gan gyrff allanol sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru ac felly yn Saesneg yn unig y maent ar gael.
- Ymddiriedolaeth Ballast (2021) FIELDWORK: Mapping Scotland’s Business Archives
- Cymdeithas Rheoli Cofnodion Prydain / British Records Association (2012) A Report on the BRA Survey of Risks to Historical Records in the East of England and London Regions
- Swyddog Arolygon Archifau Busnes / Business Archives Surveying Officer: Case Studies.
- Clare Cowling (2019) Undeposited Records in Oxfordshire: a methodology for the identification and preservation of private sector records. Llundain: Institute of Advanced Legal Studies.
- Clare Cowling Legal Records at Risk: Questionnaire for Law Firms. Llundain: Institute of Advanced Legal Studies.
- Lesley Richmond a Bridget Stockford (1986) Company Archives: The Survey of the Records of 1000 of the First Registered Companies in England and Wales. Aldershot: Gower.
- Yr Archifau Gwladol / The National Archives Research Guides: How to Look for Records of Companies and Businesses.
- Richard Wiltshire (2017) ‘Acquisition, appraisal, arrangement and description’ yn A. Turnton (gol.) (2017) The International Business Archives Handbook: Understanding and Managing the Historical Records of Businesses, tt. 174-252. (Gweler yn arbennig ‘Surveying business archives’ ar dudalennau 180-187).