Cymerodd ‘Archwilio Coetir Hynafol Gŵyr’ fapiau degwm fel man cychwyn ar gyfer cyfres o arolygon coetiroedd hynafol ar benrhyn Gŵyr. Cynhaliodd gwirfoddolwyr o wahanol sefydliadau amgylcheddol arolygon o rywogaethau dangosyddion coetiroedd hynafol mewn ardaloedd o goetir a oedd wedi’u nodi ar y map degwm, gan gadarnhau drwy gofnodi’r fflora, statws hynafol y coetiroedd a mesur eu bioamrywiaeth gymharol.

O ganlyniad i’r prosiect, yn ogystal â data’r arolygon, cynhyrchwyd taflen yn disgrifio chwe thaith gerdded yng nghoetiroedd hynafol Gŵyr a beth i chwilio amdano, a phecyn athrawon gydag adnoddau ar-lein cysylltiedig i helpu athrawon ysgolion cynradd i drefnu gweithgareddau mewn coetir. Lansiwyd y daflen a’r pecyn athrawon yn ystafell ddosbarth y goedwig yng ngwarchodfa natur Coed yr Esgob ar ddiwrnod mwdlyd a gwlyb iawn o wanwyn gyda phlant o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Abertawe.