Gallant fod o unrhyw oed – bydd cofnodion cyfarfod pwyllgor a ysgrifennwyd ddoe gymaint yn rhan o archif y cyngor lleol ag y bydd gweithredoedd teitl canoloesol yn rhan o archif ystâd â thir. Gallant fod ar unrhyw ffurf. Gallant fod ar femrwn, neu mewn llawysgrifen ar bapur, ond gallant fod yn bapurau a deipiwyd ar deipiadur, neu’n ffeiliau o ddogfennau, yn ffeiliau modrwy neu’n gyfrolau; efallai mai ffotograffau fyddant, neu fapiau, recordiadau sain, ffilmiau, disgiau hyblyg cyfrifiadurol, cryno ddisgiau, cronfeydd data electronig, delweddau digidol…

Archifau – diffiniad ffurfiol
Mae yna sawl diffiniad ffurfiol o archifau, ond mae hwn yn grynodeb da:

‘Dogfennau, ar unrhyw ffurf, a grëir gan unigolyn neu gan sefydliad wrth iddynt fynd o gwmpas eu pethau, yw cofnodion. Dewisir cofnodion sydd â gwerth tymor hir, ac a fydd yn ddefnyddiol yn dymor hir, er mwyn eu cadw’n barhaol. Daw’r rhain i fod yn archifau, gan weithredu fel cof cyfunol sefydliadau a busnesau ac, i rai, fel testament o’u profiadau unigol.’

Mae archifau’n ein cynorthwyo wrth adrodd stori ein gorffennol ac yn gymorth inni gadw ein cof cyfunol a chadw ein hunaniaeth ddiwylliannol.

Defnyddio Archifau