#CrowdCymru: Diweddariad Prosiect

Helo bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol ar gyfer CrowdCymru.

Dyma ddiweddariad ar gynnydd ein prosiect gwirfoddoli gydag archifau digidol. Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n cael ei rhedeg ar y cyd gan Archifdy Gwent, Archifau Morgannwg, ac Archifau & Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd. Dyma’r pedwerydd blog yn y gyfres; i ddarllen y rhai blaenorol, defnyddiwch y blwch chwilio uchod i chwilio am ‘CrowdCymru’.

Wel nawr, am gyfnod prysur rydyn ni wedi’i gael yn ddiweddar!

Yn gyntaf, mae’r prosiect wedi cael ei hymestyn. Roedd 12 mis y prosiect i fod i ddod i ben yn ganol mis Gorffennaf, ond gwnaethom gais llwyddiannus am estyniad a byddwn nawr yn parhau i weithio ar y prosiect tan ddiwedd mis Tachwedd. Rydym i gyd wrth ein bodd gyda’r newyddion hyn, ac mae gyda ni cynlluniau mawr am y misoedd nesaf.

Mae’r gwaith ar Archif Lenyddol Edward Thomas wedi’i gwblhau yn barod, gyda’r gwirfoddolwyr yn trawsgrifio bron i 500 o’i lythyrau mewn ychydig o fisoedd! Ar hyn o bryd maent yn trawsgrifio naw dyddiadur o gyfnod y rhyfel a ysgrifennwyd gan Priscilla Scott-Ellis. Yn ferch i’r 8fed Arglwydd Howard de Walden, magwyd Priscilla ym moethusrwydd Belgrave Square, Llundain a Chastell y Waun, Wrecsam. Fel y soniwyd yn ein blog ddiwethaf, yr hyn sy’n ei gwneud yn eithriadol yw iddi wirfoddoli fel nyrs yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen a’r Ail Ryfel Byd. Ar ben hynny, tra cyhoeddwyd ei dyddiaduron Rhyfel Cartref Sbaen ar ôl ei marwolaeth ym 1995 (‘The Chances of Death: Diary of the Spanish Civil War’), ni chyhoeddwyd ei dyddiaduron yr Ail Ryfel Byd, felly mae’r prosiect trawsgrifio yma yn bwysig iawn.

Delwedd du a gwyn o cofnod dyddiadur, gyda'r geiriau 'We are at War!'
Dyddiadur of Priscilla Scott-Ellis, “we are at war!” [Archifau & Casgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd]

Mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio trwy ddau gasgliad ffotograffig, i dagio a disgrifio’r delweddau. Mae Casgliad Cymunedol Dociau Caerdydd yn cynnwys portreadau o unigolion a grwpiau gan gynnwys menywod a phlant, o gymuned dociau Caerdydd, a dynnwyd rhwng 1900-1920. Roedd yr ardal hon yn cael ei hadnabod yn gyffredin fel “Tiger Bay” a daeth yn un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y DU gyda phobl o dros 50 o wledydd, gan gynnwys Somalia, Yemen a Gwlad Groeg. Ymgartrefasant nhw yma erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan weithio yn y dociau a diwydiannau cysylltiedig.

Mae Archif Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd yn cofnodi hanes y clwb ac yn cynnwys delweddau o grwpiau a thimau, aelodau’r pwyllgor, diwrnodau chwaraeon, a delweddau o’r 1900au cynnar o bobl yn sglefrio ar lynnoedd wedi’u rhewi, a phlymio i Gamlas y 14 Loc!

Delwedd du a gwyn o pobl yn sglefrio ar yr iâ tua dechrau'r 1900au.
Sglefrio ar yr iâ tua dechrau’r 1900au, Archif Rygbi ac Athletau Casnewydd [Archifau Gwent]

Mae cymuned #CrowdCymru yn tyfu ac mae gennym bellach 90 o wirfoddolwyr. Ym mis Mehefin fe wnaethom ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr gyda chyfres o ddigwyddiadau gymdeithasu ar-lein. Cyflwynais ar y prosiect yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Hynafiaethol Sir Fynwy a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Steffan a St. Tathan yng Nghaerwent, lleoliad hardd iawn.

Cynhaliwyd gweithdai gwych yng Nghaerdydd a threfnwyd gan Wythnos Gweithredu Dementia. Treuliais y diwrnod gyda chynrychiolwyr o Gymdeithas Alzheimers Cymru, Tŷ Hapus, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Dewis Cymru ac Age Cymru, yn dysgu am y gwaith y maent yn ei wneud. Roeddwn hefyd yn gallu rhyngweithio â rhai grwpiau o gartrefi gofal trwy ddangos ffotograffau iddynt a gofyn cwestiynau. Siaradais ag un ddynes oedrannus iawn; roedd gyda hi golwg gwael ac roedd rhaid i mi ddisgrifio un o ffotograffau Cymuned Dociau Caerdydd iddi. Disgleiriodd ei hwyneb yn syth, a dechreuodd siarad am sut roedd hi’n cofio’r mewnfudwyr a gyrhaeddodd Tiger Bay, a sut y cawsant eu hystyried yn wahanol yn y ffordd yr oeddent yn gwisgo a siarad. Roedd hi’n cofio am elyniaeth ac amheuaeth, ond bod ei mam wedi mynd allan o’i ffordd i fod yn gyfeillgar ac yn garedig iddyn nhw, gan ddweud wrthi am wneud yr un peth ym maes chwarae’r ysgol. Roedd hynny’n uchafbwynt y dydd mewn gwirionedd.

Swyddog Prosiect Jen Evans yn sefyll tu ol i bwrdd gyda ffotograffiau a delweddau o'r prosiect
Arddangosfa wybodaeth yn Niwrnod Gwybodaeth Dementia, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Mai

Mynychais Ddiwrnod Treftadaeth Insole Court ym mis Gorffennaf. Roedd llawer o chwilfrydedd yn yr holl ffotograffau ar fy mwrdd, a chofrestrodd ambell wirfoddolwr newydd hefyd. Cerddais o gwmpas y plasty a’r gerddi hyfryd a dysgais hanes hynod o ddiddorol y teulu Insole.

Recordiais fy podledaid cyntaf! Mae’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion wedi recordio llawer o gyfweliadau diddorol gan bobl sy’n gweithio gydag archifau ar gyfer eu cyfres Out the Box. Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, fe wnaethon nhw recordio sawl pennod am wirfoddoli, ac roedd Crowd Cymru yn un ohonynt. Gallwch wrando ar y bennod yma.

Ac yn olaf, ydych chi’n cofio fi’n sôn wrthych chi am Liz Davis yn fy blog ddiwethaf? Mae Liz yn un o’n gwirfoddolwyr a gafodd ei hysbrydoli gymaint gan gasgliadau Edward Thomas a Priscilla Scott-Ellis nes iddi eu cynnwys yn ei gwaith ar gyfer MA mewn Celf Gain yng Ngholeg Celf Henffordd [HCA]. Mae gwirfoddoli i Crowd Cymru wedi bod yn rhan o’i harchwiliad o’r archif a’r cof, a’r ffordd y mae bywydau’r gorffennol yn cael eu cadw a’u cofnodi. Gwahoddodd Liz fi i ymuno â hi i gyflwyno ei gwaith yn gyfarfod lleol Sefydliad y Merched [Grŵp Llandenny a’r Cylch]. Ar ôl i mi egluro am y prosiect i’r grŵp, cyflwynodd Liz ei phrosiect celf fel un a daeth yn fyw drwy weithio ar brosiect Crowd Cymru, a trwy edrych yn ôl ar ei harchif deuluol bersonol. Gan gyfuno’r profiad gwirfoddoli hwn a cheisio adrodd straeon ei theulu ei hun trwy greu archif personol, penderfynodd greu cyfres o gylchgronau ‘zines’. Roedd zines yn ffordd o hunan-gyhoeddi a ddefnyddiwyd drwy’r ganrif ddiwethaf gan gefnogwyr ac anarchwyr, ffeministiaid, ac eraill i gyfathrebu diddordebau tebyg.

Llun o Liz Davis a Jen Evans
Liz Davis a finnau’n mynychu cyfarfod Sefydliad Merched Llandenny a’r Cylch 9 Mehefin 2023

Daeth ei gwaith celf, ei diddordeb mewn archifau, a chyfranogiad gyda Crowd Cymru at ei gilydd i greu ei zine cyntaf, wedi’i ysbrydoli gan ddeunydd o fywyd Edward Thomas [a’i wraig, Helen] a Priscilla Scott-Ellis. Thema’r noson oedd ‘O Archif i Zine’ ac roedd yn ymdrin â’r hyn yr oedd Liz wedi’i ddysgu o wirfoddoli; yn benodol am awduron y gwaith a gynhwysir yn y casgliadau yr oedd hi wedi’u trawsgrifio, ac arferion yr archifyddion sy’n dewis, cadw a diogelu’r gwrthrychau ffisegol hyn. Gwahoddodd y grŵp i ystyried y broses benderfynu ynghylch pa ddeunydd sy’n gwneud archif delfrydol, a buom yn archwilio creu zine fel dull amgen o rhannu ein hatgofion, ein casgliadau personol ein hunain, ein ffotograffau ac ephemera teuluol. ​​

Ffotograff o 3 Zine
Zines a grëwyd gan Liz Davis [delwedd gyda chaniatâd Liz Davies]

Roedd Liz wedi creu tri zine hardd maint A4 ac mae un ohonyn nhw’n adrodd hanes ei neiniau a theidiau mamol a thadol. Er i ni edrych trwy dudalennau’r, fe ddywedodd hi eu straeon wrthym ni.  Wedyn, roedd gweithdy lle rhoddwyd taflen bapur i bob person gydag wyth cwestiwn i’w hateb ynghylch un o’n neiniau. Ar ôl i ni ateb y cwestiwn cyntaf, cafodd y dudalen yna ei phlygu fel bod yr ateb I’r cwestiwn hwnnw wedi’i guddio, ac fe wnaethon ni basio’r ddalen i’r person ar ein chwith. Yna fe wnaethom ateb yr ail gwestiwn [o’r ddalen o bapur a roddwyd i ni gan y person hwnnw ar y dde] plygu’r dudalen fel bod yr ateb hwnnw wedi’i guddio a’i basio ymlaen, a pharhaodd hyn nes bod yr holl gwestiynau wedi’u hateb. Ar ôl ei gwblhau, roedd 27 dalen yr un yn cynnwys wyth ateb o sawl ffynhonnell. Eglurodd Liz mai nod yr ymarfer hwn oedd creu deunydd archifol newydd ar gyfer ei zine nesaf a fydd yn seiliedig ar y syniad o “nain gyffredinol”. Cafodd gwaith Liz ei arddangos hefyd fel rhan o Arddangosfa Futures Unknown [i ddathlu’r MA mewn Celfyddyd Gain HCA] yn Oriel Canwood ym mis Gorffennaf 2023.

Mae’n anodd rhoi mewn geiriau pa mor gyffrous, balch ac emosiynol roeddwn i’n teimlo ar y noson. Roedd Liz a minnau wedi bod yn trafod ei gwaith am wythnosau dros ebost, ond dim ond drwy wrando arni yn siarad a’i gwylio hi’n rhyngweithio â’r grŵp y llwyddais i werthfawrogi cwmpas a dyfnder ei phrosiect yn llawn. Fe’m hysbrydolodd i feddwl am fy archif deuluol fy hun, a rhai prosiectau creadigol y gallwn eu gweithredu yn y dyfodol.

Jennifer Evans
Digital Volunteering Project Officer / Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Trydar/X: CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450
Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn gan Jennifer Evans dan drwydded Creative Commons Attribution 4.0 International License.

Prosiect Map Degwm Talyllychau

Yn dilyn ailagor Archifau Sir Gaerfyrddin y llynedd, rhoddwyd map Degwm godidog a dosraniad ysgrifenedig cysylltiedig (gwobr) ar gyfer plwyf Talyllychau i’r gwasanaeth archifau. Yn dyddio o 1839, mae’r dogfennau hyn yn ffynonellau gwybodaeth hynod werthfawr am blwyf Talyllychau yn y 19eg ganrif.

Yn anffodus, roedd y dogfennau mewn cyflwr gwael iawn pan gawsant eu hildio i staff ac roedd angen eu trwsio ar frys. Diolch i grant hael o £3,450 gan Lywodraeth Cymru, llwyddodd staff yr archifau nid yn unig i anfon y dogfennau i ffwrdd ar gyfer triniaeth gadwraeth broffesiynol, ond hefyd greu profiad dysgu pleserus i blant Ysgol Gynradd Talyllychau.

Plant ysgol gynradd yn torri a gludio papur lliwgar wedii paentio er mwyn creu collage.
© Archifau Sir Gaerfyrddin

Dros gyfnod o 5 sesiwn ddwyieithog, wnaeth 29 o blant Ysgol Talyllychau gymryd rhan mewn profiad creadigol cyffrous yn yr archifau ac yn yr ysgol. Cafodd y sesiynau hyn eu datblygu a’u harwain gan yr artist lleol, Seren Stacey a staff Archifau Sir Gaerfyrddin. Nod y fenter oedd hybu gwell dealltwriaeth o Gynefin y plant, a rôl a pherthnasedd Llyfrgell ac Archifau Sir Gaerfyrddin.

Plant yn sefyll mewn rhes o flaen ei waith celf lliwgar, sydd wedi'i fframio a'i rhoi ar y wal.
© Archifau Sir Gaerfyrddin

Arweiniodd y profiad difyr hwn at greu 2 waith celf bendigedig a ddadorchuddiwyd yn ystafell chwilio’r archif gan y Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth. Yn ystod y dadorchuddio canmolodd y Cyng. John waith y plant a phwysleisiodd bwysigrwydd addysgu Cynefin ac ychwanegodd: “Mae’r prosiect gwych hwn nid yn unig wedi galluogi disgyblion Ysgol Gynradd Talyllychau i ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o’u hardal leol ond hefyd wedi eu galluogi i ddysgu mwy am y berthynas ehangach rhwng cymuned a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r gweithiau celf yn cael eu harddangos yn barhaol yn Archifau Sir Gaerfyrddin.

Diwrnod Archifau Rhyngwladol: Dathlu Gwaith Gwasanaethau Archifau yng Nghymru.

Diwrnod Rhyngwladol Archifau Hapus! Heddiw rydym yn dathlu cyfoeth casgliadau archifol, a phwysigrwydd gwaith archifwyr a sefydliadau archifol ledled y byd.

Mae’n bleser gennyf eich cyflwyno i ail rifyn “Agor yr Archifau,” llyfryn dathlu a gynhyrchir gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CACC) sy’n tynnu sylw at y gwaith gwych a wneir gan wasanaethau archifau yng Nghymru.

Ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf yn 2016, mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn greiddiol i  bopeth yr ydym yn ei wneud, meithrin cysylltiadau ar draws ffiniau sefydliadol er mwyn i’n partneriaid allu cydweithio i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o dreftadaeth archifol unigryw Cymru.

Amlinella’r llyfryn hwn sut y mae CACC wedi cefnogi gwaith gwasanaethau archif ar draws Cymru wrth gaffael, diogelu, a sicrhau bod dogfennau gwerthfawr ar gael sy’n cynrychioli ein hanes ni, a hanes ein cenedl ar y cyd. Mewn cyfnod wedi’i ddominyddu gan heriau niferus, gan gynnwys cyfyngiadau COVID-19, a chyfnodau clo, rydym yn hynod falch o bopeth y mae ein cydweithwyr ar draws Cymru wedi’i gyflawni.

Gallwch lawr-lwytho a darllen y fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r llyfryn isod.

Laura Cotton, Cadeirydd ARCW, 2022-24

Peryglon Clipiau Papur!

Mae’n #NationalPaperclipDay heddiw. Dyma Mark Allen, cadwraethwr yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWA), yn ystyried y difrod y gall yr eitemau bach diniwed hyn ei wneud i ddogfennau bregus, unigryw. 

Clip papur enfawr yn dal Catalog Gwerthu Darluniadol o Neuadd Gloddaeth, Llandudno
Clip papur enfawr yn dal Catalog Gwerthu Darluniadol o Neuadd Gloddaeth, Llandudno, 1935 o NEWA, Penarlâg (Cyf: D/M/6431)

Defnyddiwyd clipiau papur i ddal dogfennau papur gyda’i gilydd ers dros ganrif, a gallwch ddod o hyd iddynt yn y rhan fwyaf o gasgliadau yn yr archifau. Mae amrywiaeth o ffyrdd o ddal dalenni rhydd sengl wedi’i ddatblygu dros amser, o sêl cwyr i rubanau a rhwymau. Er hynny, mae llawer o broblemau cadwraeth yn cael eu hachosi gan y darnau bach troellog yma o wifren. Gall clipiau papur dur rhydu ac achosi staenio a mudiad asid sydd yn arwain at frau (embrittlement) yn y papur. Mae tynnu’r clipiau hyn yn hanfodol er mwyn atal difrod y gellir ei osgoi.

Mae rhai papurau yn rhy fregus i pwysau clipiau papur, ac ni ddylid eu defnyddio ar gofnodion o werth. Ni ddylid rhoi clipiau na chaewyr ar ffotograffau, posteri, neu waith celf gwreiddiol, oherwydd gallant niweidio’r haen ddelwedd yn barhaol. Gall tensiwn clipiau metel achosi rhwyg neu grychiau dros ardal fach o papur.

Dim ond ar y gwrthrychau metel eu hunain y bydd modd gweld afliwiad i ddechrau, ond wedyn bydd clip papur haearn yn troi’n frown oherwydd rhwd. Yn ddiweddarach bydd y gwrthrych archifol hefyd yn cael ei afliwio.

Bydd y difrod yn tebygol o waethygu gyda ymdriniaeth garw. Mae ocsidau metel a halwynau yn hydawdd, a gallant dreiddio’r papur. Unwaith y byddant yn bresennol, gallant sbarduno adwaith, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gallant datgyfansoddi’r papur. Gall gronynnau haearn gyflymu’r proses dadelfennu papur.

Gall clipiau aflunio cofnodion papur, a’u cadw rhag gorwedd yn wastad. Gall papur gwan dorri pan fydd yn cael ei symud yn erbyn ymyl wifren y clip papur. Mae angen storio taflenni a dogfennau rhydd mewn grwpiau er mwyn cadw trefn ar bethau a chynnal strwythur o fewn casgliad. Arfer gorau yw defnyddio ffolderi ansawdd archifol sy’n fwy na’r ddogfen, ac sy’n rhoi amddiffyniad digonol i gadw a sicrhau hirhoedledd unrhyw wybodaeth bwysig i’r dyfodol.

Os hoffech unrhyw gyngor ar gadw eich cofnodion, cysylltwch â Mark Allen, cadwraethwr yn NEWA – archives@newa.wales

Gweithio ar bapurau Dr. David Leslie Baker-Jones 

Fy enw i yw Gareth Hugh Davies ac ymunais â thîm yr Archifau ym mis Medi 2022. Fy mhrif rôl yw cynorthwyo gyda rheoli casgliadau. Un o’r gyfres gyntaf o gofnodion y bûm yn helpu i’w rhestru oedd yr hyn a ddaeth i feddiant ystad Dr Leslie Baker-Jones yn ddiweddar. 

Brodor o Felindre ger Castell Newydd Emlyn. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Coleg Iesu Rhydychen ac Inner Temple. Etholwyd yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1977. O 1979 bu’n gweithio yn yr Adran Archifau yng Nghaerfyrddin, a bu’n ddarllenydd ac yn organydd yn Neoniaeth Emlyn am hanner can mlynedd. 

Llun du a gwyn o Traeth Llansteffan o'r castell 
CDX/899/3/3/92  Traeth Llansteffan o’r castell 
Llun du a gwyn o Eglwys Sant Barnabas, y golygfa o Felindre
CDX/899/3/3/75  Eglwys Sant Barnabas, golygfa o Felindre 

Mae’r casgliad yn drawiadol ei gwmpas ac yn ogystal â llawer o ffotograffau, cardiau post, sleidiau llusern gwydr, rhaglenni a chatalogau, mae’n cynnwys cryn dipyn o nodiadau ymchwil ar gyfer ei gyhoeddiadau. Mae’r sleidiau llusernau gwydr o bwys arbennig ac yn cynnwys golygfeydd o rai o fy hoff lefydd yng Nghymru, sef Eglwys Gadeiriol Tyddewi, y Porth Mawr, ac Ynys Gwales wedi’i gorchuddio â huganod. 

Llun du a gwyn o Castell Caeriw 
CDX/899/3/3/12  Castell Caeriw 
Llun du a gwyn o llyfr yn cynnwys sgoriau cerdd mewn llawysgrifen
CDX/899/2/3   LLYFR: Yn cynnwys sgoriau cerdd mewn llawysgrifen eiddo David Parry, Gilvach Isav, Llangeler 1856 Gorff. 9 

Yn ddyn o gefndir diymhongar, daeth yn un o brif oleuadau academaidd ei gymuned. Mae ffeiliau’r llawysgrifau yn dangos deallusrwydd dadansoddol, chwilfrydig a thrylwyr yn y gwaith. 

Ymhlith y cyhoeddiadau mae ‘Princelings, Priviledge and Power’ – The Tivyside Gentry in their Community (1999), The Glaspant Diary 1896 – A chronicle of Carmarthenshire Country Life, (2002) a The Wolfe and the Boar (2005), sef hanes y Teulu Lloyds, Plas y Bronwydd ger Aberbank, sef hanes y teulu o 1562 hyd farwolaeth Syr Martine Lloyd yn 1933, ( Quatrefoil Books, Dangibyn House, Felindre). 

O ddiddordeb arbennig yn bersonol oedd y cysylltiadau rhwng parc lleol, Gelli Aur, ym mhlwyf Llanfihangel Aberbythych, a thestun ei lyfr yn 2018, ‘Jeremy Taylor (1613 – 1667) – A Presbendary of St. David’s Cathedral’. Roedd Taylor yn glerig Seisnig o’r enw ‘Shakespeare of the Divines’ am ei arddull ysgrifennu, a syrthiodd dan amheuaeth y Senedd Biwritanaidd. Ysgrifennodd rai o’i weithiau mwyaf cofiadwy tra’n alltud yn y Gelli Aur, hyd at ei adferiad personol yn 1660, gan ddod yn Is-ganghellor Prifysgol Dulyn maes o law. 

Llun du a gwyn o Teras Gelli Aur
CDX/899/3/3/72  Teras Gelli Aur 

 Er bod Baker -Jones yn cael ei ystyried yn ŵr preifat iawn roedd yn amlwg o’r llythyrau niferus o ddiolch am ei letygarwch a’i garedigrwydd a gynhwyswyd yn y casgliad, fod yma hefyd ddyn yn barod i rannu gyda’r rhai o’i gwmpas a’u goleuo fel yr awgrymir gan y dyfyniad ar ei wasanaeth angladdol ‘Lux Perpetua Luceat Eis’  ‘Bydded i Oleuni Tragywyddol. 

Gareth H. Davies, 
Cynorthwyydd Archifau 
Archifdy Sir Gâr