Adolygu Disgrifiadau Archifol: rhan 2 – y canlyniadau

RHYBUDD: Wrth ddisgrifio gwaith am dermau sarhaus mewn catalogau archif, mae angen cynnwys rhai o’r termau sy’n cael eu hystyried yn sarhaus. Y bwriad yw peidio â syfrdanu ond cyfrannu at y ddadl barhaus am y gwaith hwn.

Yn rhan 1 gwnaethom ddisgrifio methodoleg y prosiect gan ddefnyddio meddalwedd ieithyddol AntConc i chwilio trwy nifer fawr o gymhorthion chwilio archifau am derminoleg a allai fod yn sarhaus ac i allforio’r canlyniadau i’w hadolygu yn MS Excel. Cododd y cyfle i gydweithio gyda’r Archives Hub a arweiniodd at swm sylweddol o ddata ychwanegol gan wasanaethau archifau Cymru.

Adolygu’r cyfatebiadau

Gall AntConc chwilio’r catalogau archif i ddod o hyd i gyfatebiadau yn erbyn y rhestr termau. Wrth arbed y cyfatebiadau mae AntConc hefyd yn cofnodi’r deg gair sy’n rhagflaenu a’r deg gair sy’n dilyn y term. Mae proses adolygu â llaw yn ystyried y cyd-destun penodol y defnyddiwyd y term ynddo, ac wrth wneud hynny’n gwahaniaethu rhwng:

  1. termau nad ydynt yn sarhaus ac sy’n ymddangos oherwydd craidd cyffredin gyda therm ar y rhestr; mae ‘association’ ac ‘assignment’ ill dau yn cyfateb i’r chwiliad am ‘ass*’
  2. termau sy’n ymddangos yn y rhestr ond sy’n ymddangos mewn cyd-destun gwahanol; mae ‘Cissy’ a ‘Gay’ ill dau yn ymddangos ar y rhestr termau ond maent hefyd yn ymddangos mewn cymhorthion chwilio fel rhagenw unigolyn 
  3. termau a ddefnyddiwyd yn hanesyddol, ond nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn briodol neu’n dderbyniol; mae ‘cripple’, ‘dumb’, ‘lunatic’ a ‘mental’ yn aml yn ymddangos mewn enwau sefydliadol
  4. termau sy’n sarhaus, er enghraifft ‘coon’, ‘negro’, ‘midget’ a ‘slave’

Ystyrir bod termau sy’n dod o fewn y ddwy senario gyntaf yn ‘gyfatebiadau ffug’, mae’r ddau olaf wedi’u marcio fel ‘gwir gyfatebiadau’. Mae’r broses hon yn ymwneud â darganfod y ‘gwir’ gyfatebiadau a ddychwelir i’r gwasanaeth archifau ac awgrym iddo adolygu’r defnydd o’r term hwnnw.

Y prif ganlyniadau

Drwy gydweithio â chydweithwyr mewn 12 o wasanaethau archif ledled Cymru a’r Archives Hub rydym wedi llwyddo i gymhwyso’r fethodoleg i dros 29,000 o gymhorthion chwilio archifau sy’n dod i gyfanswm o dros 58 miliwn o eiriau. O’r corff hwn o ddata cofrestrodd AntConc 195,000 o gyfatebiadau a mireiniodd y broses adolygu â llaw hyn i ychydig dros 5000 o enghreifftiau o wir gyfatebiadau yn deillio o 71 o eiriau gwahanol.

Gyda chymaint o ddata daeth rhai patrymau a thueddiadau i’r amlwg;

  • dim ond unwaith yn erbyn y 12 gwasanaeth y cafwyd hyd i 26 o’r gwir dermau (36.6%) [ond nid bob amser yr un gwasanaeth]
  • canfuwyd bod 4 term (‘lunatic’, ‘mental’, ‘mentally’ a ‘slaves’) yn bresennol mewn deg neu fwy o’r 12 gwasanaeth archif
  • gwahaniaeth clir rhwng cymhorthion chwilio lefel casgliad a manwl gyda’r blaenorol yn llawer llai tebygol o gynnwys cyfatebiadau ffug neu wir gyfatebiadau

Cyd-destun yw popeth gan fod yr un gair yn gallu bod yn gyfatebiad ‘ffug’ ac yn ‘wir’ gyfatebiad yn yr un frawddeg. Mae rhai gwasanaethau wedi dechrau disodli cyfeiriadau at ‘slave’ gyda ‘enslaved’ ond ni fyddai cymhwyso’r newid hwn i bob achos yn briodol. Mae angen defnyddio dull ystyriol i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Mae partneriaid y prosiect hefyd wedi edrych ar gymhwyso rhybuddion cynnwys mewn cymhorthion chwilio archifau ac yn gobeithio gweithredu hyn yn y dyfodol agos.

Y camau nesaf?

Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru yn gobeithio cydweithio, gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud yn y sector amgueddfeydd. Y gobaith yw y gall cam nesaf y gwaith hwn ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid o gymunedau penodol a chydag ymchwilwyr academaidd ynghylch y termau. Mae angen creu rhestr termau Cymraeg hefyd.

Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio lleihau’r potensial i’n catalogau syfrdanu neu sarhau ein defnyddwyr heb amharu ar y broses o ddarganfod a defnyddio ein casgliadau. Gellir dod o hyd i adroddiad llawn y prosiect sy’n disgrifio’r fethodoleg a’r dadansoddiad o’r canlyniadau yn:

Adolygu Disgrifiadau Archifol

Simon Wilson, Ymgynghorydd Archifau

E-bost: simon@simonpwilson.com

Trafod Hanes yn y Cartref 

Mae hanes llafar yn chwarae rhan bwysig mewn ymchwil i hanes modern, a gall ein helpu i ddeall yn well y gorffennol diweddar a’r bobl a fu’n byw drwyddo. 

Nod y prosiect History Begins at Home yw meithrin cysylltiad personol trwy sgyrsiau ac atgofion am brofiadau personol. Mae cael a dogfennu’r sgyrsiau hyn yn ein helpu i atal yr hanes hwn rhag cael ei anghofio. 

Ar wefan History Begins at Home fe welwch awgrymiadau ac offer i’ch helpu i archwilio mwy am hanes eich teulu a’ch ffrindiau, gan gynnwys nifer enfawr o daflenni gwaith gyda chwestiynau sy’n ysgogi’r meddwl i sbarduno sgwrs. Dyma ychydig o gwestiynau i’ch rhoi ar ben ffordd, ac mae ambell gwestiwn penodol i Gymru hefyd (Archifau yng Nghymru ydym ni wedi’r cyfan!): 

- Faint glywsoch chi bobl yn siarad yn Saesneg pan oeddech chi'n iau?  
- Sut mae eich tref wedi newid yn ystod eich bywyd?  
- Beth oedd eich swydd gyntaf? 
- Oeddech chi'n aelod o'r Urdd? 
- Fuoch chi erioed i Eisteddfod? 
- Lle oeddech chi'n cymdeithasu pan oeddech chi'n iau? 
- Ydych chi erioed wedi mynd ar protestio? 
- Aethoch chi i lan y môr a gefn gwlad  pan oeddech chi'n blentyn? 
- A oedd gennych arwr yn tyfu i fyny? Ydyn nhw'n ffeithiol neu'n ffuglennol? 
- Sut oeddech chi'n arfer treulio'ch gwyliau haf?
- Pa eiriau neu ymadroddion rhanbarthol/tafodiaith oeddech chi'n arfer eu clywed? 
- Sut oedd bywyd cartref pan oeddech chi'n iau? Gyda phwy oeddech chi'n byw?

Mae cael y sgyrsiau hyn yn galluogi pobl i ddeall ei gilydd yn well. Er enghraifft, mae ein swyddog marchnata, James, yn cofio prosiect ysgol ym mlwyddyn 5 lle cofnododd sgwrs gyda’i daid am fywyd ar fferm yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1940au/50au. Mae’n dweud ar ôl y prosiect ei fod yn teimlo cysylltiad dyfnach a dealltwriaeth o’i daid. 

Am fwy o syniadau am gwestiynau i ddechrau’r sgwrs, ewch i wefan History Begins at Home: https://www.historybeginsathome.org/ 

#CrowdCymru: Diweddariad Prosiect

Helo bawb, Jen sydd yma, Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol CrowdCymru.

Dyma ddiweddariad a crynodeb o’r cyfnod a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol o’n prosiect gwirfoddoli archifau digidol. Dyma’r pumed erthygl mewn cyfres; i ddarllen y pedwar blaenorol, ewch i wefan Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru a chwiliwch am ‘CrowdCymru’.

Wel, mae rhaid i bob peth da ddod i ben, a bydd yr erthygl hon yn crynhoi 16 mis o uchafbwyntiau prosiect, allbynnau, a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Sefydlwyd y prosiect hwn i dreialu cymuned dorfol fyd-eang i Gymru drwy gydweithrediad rhwng Archifau Gwent, Archifau Morgannwg, Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y nod oedd adeiladu llwyfan torfol a chymuned ar gyfer archifau yng Nghymru, trwy ddull cenedlaethol cydlynol na welwyd ei debyg o’r blaen yn y DU er mwyn harneisio gwybodaeth ac amser dinasyddion byd-eang i gyfoethogi meta data sylfaenol presennol, ehangu gwelededd y casgliadau archif sylfaenol hyn, a thanio ymchwil newydd.

Sgrin lun o’r llwyfan torfol yn dangos casgliad Cymuned Dociau Caerdydd
©Archifau Morgannwg

Mae ein huchafbwyntiau’n dechrau, wrth gwrs, gyda’r dinasyddion byd-eang hynny, grŵp gwirioneddol ryngwladol o wirfoddolwyr hynod o weithgar. Rwyf wedi dod i adnabod llawer ohonynt drwy sesiynau gohebiaeth a hyfforddiant ac mae eu cyfeillgarwch a’u brwdfrydedd i gefnogi gwaith gwasanaethau archifau wedi bod yn llawenydd. Maent wedi gweithio’n ddiwyd trwy’r holl gasgliadau a gyflwynwyd gan bartneriaid y prosiect. Maent wedi trawsgrifio llythyrau bardd rhyfel a dyddiaduron nyrs wirfoddol adeg y rhyfel, tagio ffotograffau o fewnfudwyr o ddechrau’r 20fed ganrif, lluniau o glwb rygbi ac athletau Cymreig, a chasgliad pwysig o effemera o grŵp lesbiaidd a hoyw o ddechrau’r 1980au.

Poster Grŵp Lesbiaid a Hoywon Gwent ©Archifdy Gwent

 

I nodi eu gwaith caled, rhoddwyd tystysgrif ddiolch electronig iddynt, a’u gwahodd i fynychu parti diwedd prosiect ar-lein ar 27 Tachwedd. Ymunodd cynrychiolwyr o’r sefydliadau partner hefyd i ddiolch yn bersonol a siarad am yr effaith ryfeddol y bydd eu gwaith yn ei chael ynghylch gwella mynediad a defnyddioldeb y casgliadau hyn yn y dyfodol.

Uchafbwynt arall fu ymddangos mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys dau gofnod cylchgrawn Who Do You Think You Are a Chylchgrawn Aelodau’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion [ARC]. Fe wnaethon ni hefyd recordio podlediad ar gyfer The Archives & Records Association, fel rhan o Out the Box; cyfres o gyfweliadau diddorol gan bobl sy’n gweithio gydag archifau. I ddathlu Wythnos Gwirfoddolwyr, fe wnaethon nhw recordio rhai penodau arbennig am wirfoddolwyr mewn gwasanaethau archifau, ac roedd #Crowd Cymru yn un ohonyn nhw. Gallwch wrando ar ein podlediad yma.

Cafodd wybodaeth am y brosiect ei gynnwys yn Adroddiad Agor yr Archifau 2023 Archifau Cymru, ac A Year in Archives 2023.

Agor yr Archifau [2023]

Canlyniad cyntaf y prosiect yw tudalen ar wefan Archifau Gwent: #CrowdCymru | Archifau Gwent sy’n cynnwys dolenni i’n holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, erthyglau, delweddau, yr holl erthyglau blog sydd ar archifau.cymru, a gweithgaredd hyfryd i ddathlu diwedd y prosiect. Gofynnon ni i’n gwirfoddolwyr ddewis hoff ddogfen, delwedd neu gasgliad roedden nhw wedi gweithio arnyn nhw yn ystod y prosiect ond heb ddefnyddio mwy na 150 o eiriau. Daeth y syniad o brosiect gan Amgueddfeydd Brighton & Hove yn ystod 2022/2023. Cymerodd grŵp bach o’n gwirfoddolwyr ran yn yr ymarfer creadigol hwn a throwyd y canlyniadau yn gyflwyniad powerpoint a ddangosir yn y dathliad ar ddiwedd y prosiect. Gallwch ei weld yma:

Ein hail ganlyniad yw llawlyfr prosiect, sydd ar gael i’w weld fel PDF ar y dudalen we. Mae’r llawlyfr hwn wedi’i rannu’n ddwy ran; y cyntaf yw canllaw cam wrth gam i ddefnyddio’r llwyfan torfoli, gan gynnwys cofrestru cyfrif, trawsgrifio a chanllawiau tagio. Mae’r ail ran yn cynnwys nodiadau rheoli prosiect ar recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr, hyrwyddo a marchnata, a phrofiad o weithio ar brosiect a ariennir gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn yr adran hon hefyd mae canlyniadau arolwg adborth gwirfoddolwyr a gwersi a ddysgwyd. Pwrpas y llawlyfr hwn yw rhannu arfer da a hwyluso ehangu’r cynllun peilot i gynnwys mwy o gadwrfeydd a phartneriaid ledled Cymru yn y dyfodol.

Gweithdy #CrowdCymru yn Llyfrgell yr Eglwys Newydd Medi 2023

Mae hyn yn arwain at yr hyn yr ydym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a newyddion cyffrous am estyniad!

Fel y soniwyd uchod, daeth cam y prosiect hwn a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ben ar 30 Tachwedd. Fodd bynnag, gallwn barhau tan ddiwedd mis Mai 2024 gyda chyllid newydd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Daw hyn fel rhan o waith y llyfrgell ar brosiect Ein Treftadaeth, Ein Straeon sy’n cysylltu ag yn chwilio cynnwys digidol a gynhyrchir gan y gymuned i ddatblygu casgliad cenedlaethol y bobl. Felly, gall ein gwirfoddolwyr barhau i weithio ar wella mynediad i’r casgliadau hyn, a’n symud tuag at y camau nesaf yn ein gweledigaeth ar gyfer rhagolwg democrataidd, cysylltiedig byd-eang ar gyfer archifau cudd ac ymchwil newydd yng Nghymru.

Dyma ein post olaf i Archifau.Cymru; bydd erthyglau sy’n cofnodi cynnydd ail gam y prosiect #CrowdCymru yn ymddangos ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://blog.llyfrgell.cymru/

Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Heb ei chyllid a’i chefnogaeth, ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl. Diolch hefyd i’r sefydliadau hynny yn y sector archifau a threftadaeth sydd wedi ein cefnogi gyda’u hamser, eu hegni a’u cefnogaeth ymarferol

Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’n grŵp gwych o wirfoddolwyr eithriadol o weithgar a brwdfrydig, mae wedi bod yn fraint gweithio gyda chi, ac edrychwn ymlaen at rannu cam nesaf #CrowdCymru gyda chi i gyd.  

Jennifer Evans
Swyddog Prosiect Gwirfoddoli Digidol
Trydar: CrowdCymru
Ffôn: 01495 742450 
Ebost: jennifer.evans@gwentarchives.gov.uk

Mae’r blog hwn o’r enw #CrowdCymru: Diweddariad Prosiect gan Jennifer Evans wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution 4.0 

Adolygu Disgrifiadau Archifol: Rhan 1 – y fethodoleg

Mae cynyddu hygyrchedd gwybodaeth am y casgliadau yn ein gofal yn flaenoriaeth i bob gwasanaeth archif. Er mwyn cyflawni hyn, mae’n rhaid i ni ystyried yr iaith a ddefnyddiwn fel rhan annatod a sylfaenol o’n gwaith rheoli casgliadau.

Mae’r Gweithgor Catalogio Cynhwysol o’r Cynghreiriaid Amrywiaeth a Chynhwysiant (ARA) wedi tynnu sylw at rai agweddau a rhai materion, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu at y trafodaethau parhaus. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r effaith y mae’r iaith a ddefnyddir yn ein catalogau ar-lein yn ei chael ar ein defnyddwyr, a bod gan newidiadau hefyd y potensial i effeithio’n uniongyrchol ar ddarganfod a defnyddio’r deunydd.

Prosiect Adolygu Disgrifiadau archifol

Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (CAChC) wedi derbyn cyllid gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi iaith ragfarnllyd a sarhaus mewn catalogau archifol. Mae’r prosiect Adolygu Disgrifiadau Archifol wedi mabwysiadu’r fethodoleg a amlygwyd yn Brosiect Testbed Archif Brifysgol Leeds a ddyfarnwyd gan yr Archifau Cenedlaethol ym mis Ebrill 2021. Ar gyfer y prosiect hwn, bu Llyfrgell y Brifysgol yn cydweithio â Sefydliad Ymchwil Celfyddydau a’r Dyniaethau Leeds i edrych ar yr hyn a ddisgrifiwyd ganddynt fel ‘iaith broblematig’, y rhwystrau a gynrychiolodd i ymgysylltu, a sut y gellid cefnogi hyn trwy ddefnyddio meddalwedd ieithyddol ffynhonnell agored AntConc.

Methodoleg

Nod prosiect Adolygu Disgrifiadau Archifol yw gweithredu’r fethodoleg i sampl sylweddol o gasgliadau o ystod o wasanaethau archif. Po fwyaf yw’r sampl, y cryfaf yw’r dystiolaeth ar gyfer unrhyw gasgliadau ac argymhellion.

Mae AntConc yn gweithio gyda ffeiliau testun plaen. Rydym wedi bod yn defnyddio cymhorthion canfod EAD yn bennaf gan wasanaethau neu drwy’r ArchivesHub, gyda chatalogau MS Word yn cael eu cadw fel XML a’u prosesu heb unrhyw broblemau.

Mae’r catalogau wedi cael eu chwilio yn erbyn rhestr termau, yn ein hachos ni ‘Rhestr Lawn Brotherton’ sy’n cynnwys dros 1000 o dermau sy’n hiliol, rhywiaethol a misogynaidd, gwrth-anabledd, homoffobig, trawsffobig, traws-waharddol, gwahaniaethu crefyddol, a’r rhai sy’n sarhaus ar y cyfan. Mae’r defnydd o * wildcard yn ymestyn ehangder a chwmpas y canlyniadau a ddychwelwyd yn sylweddol y gellir eu gweld o fewn AntConc neu eu cadw fel ffeil .csv ac yn cael eu gweld yn MS Excel.

Y sgrin canlyniadau AntConc yn dangos pob ‘ymweliad’ yn ei gyd-destun penodol

Mae’r gwaith ar y gweill yn datblygu ac mae disgwyl iddo ddod i ben erbyn ddiwedd mis Chwefror. Bydd ail erthygl blog yn manylu ar y broses o adolygu’r darganfyddiadau o AntConc, canlyniadau’r prif brosiect, a’r camau nesaf.

Am fwy o fanylion am y prosiect hwn, cysylltwch â Vicky Jones: vicky.jones@llgc.org.uk

Archwiliwch eich Archifau: Chymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Bydd arddangosfa Archwilio Eich Archifau Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch yn agor yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman ddechrau Ionawr 2024, lleoliad lle mae’r côr wedi perfformio sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fel rhan o weithgaredd ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archif, derbyniodd Archifau Sir Gaerfyrddin grant i gynhyrchu arddangosfa deithio i ddathlu cyflawniadau’r côr a’u hanes cyfoethog.

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, wedi'u trefnu mewn trefn dyddiad yn arddull arddangosfa
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Ffurfiwyd y côr ym 1917 a mwynhaodd yrfa hynod lwyddiannus am dros 100 mlynedd. Yn anffodus, daeth y côr i ben ym mis Medi 2022.  Chwaraeodd niferoedd sy’n lleihau, pandemig COVID ac oedran aelodau’r côr i gyd ran yn niwedd y côr nodedig hwn a oedd wedi bodoli ers dros ganrif. Fodd bynnag, dymuniad yr aelodau sy’n weddill oedd bod y cyflawniadau, yr hanes a’r bobl a oedd yn rhan o’r côr yn cael eu coffáu a’u dathlu un tro olaf.

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, gan gynnwys llun du a gwyn o aelodau'r côr o 1920, a ffotograffau o'r arweinwyr drwy'r blynyddoedd
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Mae gan Sian Thomas gysylltiad hoffus gyda’r côr ar ôl bod yn aelod am ran helaeth o’i bywyd, fel yr oedd ei mam o’i blaen. Mae Sian wedi casglu a chadw nifer fawr o ffotograffau, toriadau papur newydd a memorabilia eraill sy’n adrodd hanes y côr ers ei ffurfio yn 1917. Yr eitemau hyn sydd wedi ffurfio sylfaen yr arddangosfa. Mae llawer o’r dogfennau hyn bellach wedi’u digideiddio gan staff yn Archifdy Sir Gaerfyrddin, ac mae’r copïau hyn wedi cael eu defnyddio i greu’r baneri gwybodaeth sy’n ffurfio’r arddangosfa symudol. 

“Bydd y noson arddangos yn ffordd o ddweud DIOLCH YN FAWR i’r genhedlaeth o’n blaenau ni a ddechreuodd y côr, yn yr amseroedd a fu’n anoddaf, ac i ddyfalbarhau gyda’u hymrwymiad i’r Côr ac i’w gilydd; o gyfeillgarwch gwerthfawr a wnaed ar hyd y ffordd ac i’r rhai a ddaeth ar ôl iddynt brofi’r llawenydd pur o ganu. Dyna pam roeddwn i ac eraill eisiau cadw’r casgliad hanesyddol rhyfeddol hwn, ac mae cymeradwyaeth y grant Archwilio eich Archifau wedi ein galluogi i gyflawni ein nod.  Diolch yn fawr.”

Sian Thomas, Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch

Dogfennau archifol amrywiol o'r Casgliad, gan gynnwys lluniau du a gwyn o aelodau'r côr gyda'r teitl '1960 Ennill Coron Driphlyg'
©Archifau Sir Gaerfyrddin

Bydd arddangosfa ‘Archwilio Eich Archif: Cymdeithas Gorawl Rhydaman a’r Cylch’ yn agor yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman ym mis Ionawr 2024. Yna bydd yn symud i Lyfrgell Rhydaman i ganiatáu cyfle arall i’r gymuned leol gael mwynhau’r arddangosfa. Unwaith y bydd taith yr arddangosfa wedi’i chwblhau, bydd y memorabilia a’r deunyddiau arddangos yn cael eu hadneuo gydag Archifau Sir Gaerfyrddin gyda’r Arddangosfa i’w gweld yn Llyfrgell Caerfyrddin.

Archifau Sir Gaerfyrddin