RHYBUDD: Wrth ddisgrifio gwaith am dermau sarhaus mewn catalogau archif, mae angen cynnwys rhai o’r termau sy’n cael eu hystyried yn sarhaus. Y bwriad yw peidio â syfrdanu ond cyfrannu at y ddadl barhaus am y gwaith hwn.
Yn rhan 1 gwnaethom ddisgrifio methodoleg y prosiect gan ddefnyddio meddalwedd ieithyddol AntConc i chwilio trwy nifer fawr o gymhorthion chwilio archifau am derminoleg a allai fod yn sarhaus ac i allforio’r canlyniadau i’w hadolygu yn MS Excel. Cododd y cyfle i gydweithio gyda’r Archives Hub a arweiniodd at swm sylweddol o ddata ychwanegol gan wasanaethau archifau Cymru.
Adolygu’r cyfatebiadau
Gall AntConc chwilio’r catalogau archif i ddod o hyd i gyfatebiadau yn erbyn y rhestr termau. Wrth arbed y cyfatebiadau mae AntConc hefyd yn cofnodi’r deg gair sy’n rhagflaenu a’r deg gair sy’n dilyn y term. Mae proses adolygu â llaw yn ystyried y cyd-destun penodol y defnyddiwyd y term ynddo, ac wrth wneud hynny’n gwahaniaethu rhwng:
- termau nad ydynt yn sarhaus ac sy’n ymddangos oherwydd craidd cyffredin gyda therm ar y rhestr; mae ‘association’ ac ‘assignment’ ill dau yn cyfateb i’r chwiliad am ‘ass*’
- termau sy’n ymddangos yn y rhestr ond sy’n ymddangos mewn cyd-destun gwahanol; mae ‘Cissy’ a ‘Gay’ ill dau yn ymddangos ar y rhestr termau ond maent hefyd yn ymddangos mewn cymhorthion chwilio fel rhagenw unigolyn
- termau a ddefnyddiwyd yn hanesyddol, ond nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn briodol neu’n dderbyniol; mae ‘cripple’, ‘dumb’, ‘lunatic’ a ‘mental’ yn aml yn ymddangos mewn enwau sefydliadol
- termau sy’n sarhaus, er enghraifft ‘coon’, ‘negro’, ‘midget’ a ‘slave’
Ystyrir bod termau sy’n dod o fewn y ddwy senario gyntaf yn ‘gyfatebiadau ffug’, mae’r ddau olaf wedi’u marcio fel ‘gwir gyfatebiadau’. Mae’r broses hon yn ymwneud â darganfod y ‘gwir’ gyfatebiadau a ddychwelir i’r gwasanaeth archifau ac awgrym iddo adolygu’r defnydd o’r term hwnnw.
Y prif ganlyniadau
Drwy gydweithio â chydweithwyr mewn 12 o wasanaethau archif ledled Cymru a’r Archives Hub rydym wedi llwyddo i gymhwyso’r fethodoleg i dros 29,000 o gymhorthion chwilio archifau sy’n dod i gyfanswm o dros 58 miliwn o eiriau. O’r corff hwn o ddata cofrestrodd AntConc 195,000 o gyfatebiadau a mireiniodd y broses adolygu â llaw hyn i ychydig dros 5000 o enghreifftiau o wir gyfatebiadau yn deillio o 71 o eiriau gwahanol.
Gyda chymaint o ddata daeth rhai patrymau a thueddiadau i’r amlwg;
- dim ond unwaith yn erbyn y 12 gwasanaeth y cafwyd hyd i 26 o’r gwir dermau (36.6%) [ond nid bob amser yr un gwasanaeth]
- canfuwyd bod 4 term (‘lunatic’, ‘mental’, ‘mentally’ a ‘slaves’) yn bresennol mewn deg neu fwy o’r 12 gwasanaeth archif
- gwahaniaeth clir rhwng cymhorthion chwilio lefel casgliad a manwl gyda’r blaenorol yn llawer llai tebygol o gynnwys cyfatebiadau ffug neu wir gyfatebiadau
Cyd-destun yw popeth gan fod yr un gair yn gallu bod yn gyfatebiad ‘ffug’ ac yn ‘wir’ gyfatebiad yn yr un frawddeg. Mae rhai gwasanaethau wedi dechrau disodli cyfeiriadau at ‘slave’ gyda ‘enslaved’ ond ni fyddai cymhwyso’r newid hwn i bob achos yn briodol. Mae angen defnyddio dull ystyriol i fynd i’r afael â’r mater hwn.
Mae partneriaid y prosiect hefyd wedi edrych ar gymhwyso rhybuddion cynnwys mewn cymhorthion chwilio archifau ac yn gobeithio gweithredu hyn yn y dyfodol agos.
Y camau nesaf?
Mae Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru yn gobeithio cydweithio, gyda gwaith tebyg yn cael ei wneud yn y sector amgueddfeydd. Y gobaith yw y gall cam nesaf y gwaith hwn ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid o gymunedau penodol a chydag ymchwilwyr academaidd ynghylch y termau. Mae angen creu rhestr termau Cymraeg hefyd.
Mae’n hanfodol ein bod yn ceisio lleihau’r potensial i’n catalogau syfrdanu neu sarhau ein defnyddwyr heb amharu ar y broses o ddarganfod a defnyddio ein casgliadau. Gellir dod o hyd i adroddiad llawn y prosiect sy’n disgrifio’r fethodoleg a’r dadansoddiad o’r canlyniadau yn:
Simon Wilson, Ymgynghorydd Archifau
E-bost: simon@simonpwilson.com