Site icon Archifau Cymru

Diwrnod Etifeddiaeth Glyweledol y Byd

Mae heddiw’n nodi Diwrnod Etifeddiaeth Glyweledol y Byd, sef diwrnod i gydnabod arwyddocâd cadwraeth dogfennau clyweledol, gan gynnwys darllediadau radio a theledu, yn ogystal â recordiadau sain a fideo. Mae nifer fawr o eitemau o ddeunydd clyweledol yn cael ei greu bob dydd, gan gynnwys recordiadau rhaglenni ffilm a theledu, heb anghofio’r miliynau o fideos sy’n cael eu lanlwytho ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis YouTube, Instagram, a TikTok. 

Mae’r cofnodion clyweledol hyn yn adlewyrchu ein byd, y pynciau y mae gennym ddiddordeb ynddynt, â’r diwylliannau a’r ieithoedd amrywiol yr ydym yn cyfathrebu ynddynt. 

Mae cerddoriaeth, er enghraifft, yn caniatáu i bobl gysylltu â diwylliant yr amser y cafodd ei greu. Rydym yn aml yn gwrando ar ganeuon i atgoffa ein hunain o rai adegau, nid yn unig yn ein bywydau ein hunain, ond drwy hanes. Enghraifft dda fyddai gweithiau Dylan Thomas (ei ben-blwydd heddiw gyda llaw), a’r recordiadau ohono yn darllen ei gerddi. Byddai colli’r recordiadau hyn yn golled enfawr i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Yn yr un modd, mae rhaglenni teledu fel “Bake-off” yn dal arwyddocâd diwylliannol, ochr yn ochr â llawer o rai eraill sy’n dod yn ddiwylliannol bwysig dros amser, gan gyfiawnhau eu cadwraeth. 

Mae sicrhau cadwraeth y deunyddiau hyn yn hanfodol er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddeall ein byd. 

Mae ceisio gwarchod yr holl gynnwys yn dasg enfawr, ac mae hyn yn tynnu sylw at y fath o heriau y mae archifwyr yn eu hwynebu. Rhaid iddynt wneud dewisiadau ynghylch beth i’w gadw, gan godi arian ar gyfer costau cynnal a chadw gweinydd, mynd i’r afael â diraddio ffeiliau digidol, yn ogystal â delio â materion  darfod fformatau ffeil a chaledwedd. Mae cydbwyso hygyrchedd i’r gynulleidfa ehangaf tra hefyd yn diogelu’r cofnodion gwerthfawr hyn yn cyflwyno cyfres o gyfyng-gyngor. Mae mynd i’r afael â’r pryderon hyn yn rhan o genhadaeth gwasanaethau archifau i ddiogelu a rhannu ein treftadaeth glyweledol ar gyfer y dyfodol. 

James Southerby
Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru

Exit mobile version