Yn dilyn ailagor Archifau Sir Gaerfyrddin y llynedd, rhoddwyd map Degwm godidog a dosraniad ysgrifenedig cysylltiedig (gwobr) ar gyfer plwyf Talyllychau i’r gwasanaeth archifau. Yn dyddio o 1839, mae’r dogfennau hyn yn ffynonellau gwybodaeth hynod werthfawr am blwyf Talyllychau yn y 19eg ganrif.
Yn anffodus, roedd y dogfennau mewn cyflwr gwael iawn pan gawsant eu hildio i staff ac roedd angen eu trwsio ar frys. Diolch i grant hael o £3,450 gan Lywodraeth Cymru, llwyddodd staff yr archifau nid yn unig i anfon y dogfennau i ffwrdd ar gyfer triniaeth gadwraeth broffesiynol, ond hefyd greu profiad dysgu pleserus i blant Ysgol Gynradd Talyllychau.
Dros gyfnod o 5 sesiwn ddwyieithog, wnaeth 29 o blant Ysgol Talyllychau gymryd rhan mewn profiad creadigol cyffrous yn yr archifau ac yn yr ysgol. Cafodd y sesiynau hyn eu datblygu a’u harwain gan yr artist lleol, Seren Stacey a staff Archifau Sir Gaerfyrddin. Nod y fenter oedd hybu gwell dealltwriaeth o Gynefin y plant, a rôl a pherthnasedd Llyfrgell ac Archifau Sir Gaerfyrddin.
Arweiniodd y profiad difyr hwn at greu 2 waith celf bendigedig a ddadorchuddiwyd yn ystafell chwilio’r archif gan y Cyng. Gareth John, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth. Yn ystod y dadorchuddio canmolodd y Cyng. John waith y plant a phwysleisiodd bwysigrwydd addysgu Cynefin ac ychwanegodd: “Mae’r prosiect gwych hwn nid yn unig wedi galluogi disgyblion Ysgol Gynradd Talyllychau i ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach o’u hardal leol ond hefyd wedi eu galluogi i ddysgu mwy am y berthynas ehangach rhwng cymuned a diwylliant yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r gweithiau celf yn cael eu harddangos yn barhaol yn Archifau Sir Gaerfyrddin.