Hail! genial season of the year
To faithful lovers ever dear
Devoted be this day to praise
My Anna’s charms in rustic lays
Now billing sparrows, cooing doves
Remind each youth of her he loves
My heart and head are both on flame
Whene’er I breath my Anna’s name
Ysgrifennwyd y llinellau hyn gan ŵr o’r enw y Capten Bennett mewn cerdd Sant Ffolant a ysgrifennwyd yn 1818 i Mrs Wyndham, a enwir hefyd yn ‘Anna’. Beth am edrych yn fanylach ar y stori y tu ôl i’r gerdd hon, a chasgliadau eraill sy’n cynnwys cariad a rhamant yn Archifau Morgannwg.
Gellir gweld y gerdd ymhlith casgliad Castell Ffwl-y-mwn Archifau Morgannwg (cyf. DF/V/133) a cheir cyfanswm o 78 o linellau o gwpledau sy’n odli, sef cryn dipyn yn fwy na’r negeseuon Sant Ffolant bachog a geir mewn cardiau modern. Yn y gerdd mae’r Capten Bennett yn rhoi mynegiant llawn i’w ochr ramantus, gan ddisgrifio delweddau o Cinderella a’i Thywysog, yn clodfori Anna, yn cynnwys ei thraed tylwyth teg, yn ogystal â chodi amheuon ynghylch addasrwydd y dynion eraill sy’n ei chanlyn, yn cynnwys un a enwir ganddo yn Arglwydd Tredegar. Mae’r bardd hefyd yn disgrifio llunio blaenlythrennau neu ‘cypher’ Anna yn y tywod gyda ffon gerdded, ac er gall y tonnau olchi i ffwrdd enw ei anwylyd, ni all y tonnau ‘blot that cypher from my heart!’
Felly pwy oedd y Capten Bennett ac Anna, ac a fu diweddglo hapus i’w stori? Er bod y gerdd yn rhan o gasgliad Castell Ffwl-y-mwn mae hefyd yn cyfeirio at Dwn-rhefn, sef ystâd ger Southerndown a fu’n eiddo i deulu Wyndham. Mae gwaith ymchwil wedi datgelu fod Anna yn ferch Thomas Ashby o Isleworth, Llundain a Charlotte, merch Robert Jones o Ffwl-y-mwn (sy’n egluro’r cysylltiad â Ffwl-y-mwn).
Gŵr cyntaf Anna oedd Thomas Wyndham o Dwn-rhefn a Llys Clearwell yn Fforest y Ddena (Aelod Seneddol Morgannwg) ond bu farw yntau yn 1814. Fodd bynnag, ailbriododd Anna ym mis Gorffennaf 1818, ychydig fisoedd ar ôl i’r gerdd gael ei chyfansoddi. Ei gŵr newydd oedd John Wick Bennett o Drelales, a gellir tybio mai hwn yw’r un ‘Capten Bennett’ a anfonodd y gerdd Sant Ffolant. Ymddengys nad oedd ei ymdrechion barddol yn ofer ac efallai i’r gerdd helpu i ddarbwyllo ei gariad i dderbyn ei gynnig!
Gall fod yn anodd dod o hyd i gyfeiriadau at ‘gariad’ a ‘rhamant’ yn yr archifau, gan nad ydynt yn dermau a geir fel arfer mewn disgrifiadau catalog! Fodd bynnag, gellir dod o hyd i lawer o straeon rhamantus, p’un ai mewn dyddiaduron neu lythyrau preifat, yn enwedig y rheini a ysgrifennwyd pan roedd y cariadon ar wahân a dyna oedd yr unig ffordd iddynt gadw mewn cysylltiad. Gwahanwyd llawer o gariadon gan ryfeloedd, ac mae gennym sawl stori am gariad yn blodeuo o dan amgylchiadau anodd.
Daeth y Prif Nyrs Isabel Robinson o hyd i gariad pan oedd yn gweithio yn Ysbyty’r Groes Goch yng Nghaerdydd yn 1916.
Tra roedd yn nyrsio yno, cyfarfu â Daniel James Dwyer o fyddin Awstralia, a phriododd y ddau. Roedd ef yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben yn y ffosydd yn Ffrainc.
Ymgartrefodd y ddau yn Awstralia yn ddiweddarach yn St. Kilda, Victoria, ond dychwelodd y ddau i’r ynys hon a bu Isabel farw yn Lloegr yn 1965. Cedwir albwm ffotograffau Isabel yn yr Archifau, ac mae’n cynnwys ffotograffau o staff a chleifion mewn ysbytai milwrol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd (cyf. D501).
Un o’n casgliadau pwysicaf sy’n ymwneud â’r Ail Ryfel Byd yn Archifau Morgannwg yw’r llythyrau niferus a ysgrifennwyd gan Pat Cox o Gaerdydd i’w darpar ŵr, Jack Leversuch, a oedd yn gwasanaethu tramor yn y lluoedd arfog (cyf. DXGC263/2-32). Anfonodd Pat lythyrau rheolaidd at Jack drwy gydol y rhyfel yn adrodd ei newyddion. Cadwodd Jack bob un o’r llythyrau a gafodd gan Pat, a daeth â hwy adref gydag ef pan ddaeth ei wasanaeth tramor i ben.
Mae’r llythyrau yn cynnwys manylion personol carwriaeth y ddau yn ogystal â disgrifio sut roedd Caerdydd yn ymdopi â chyrchoedd awyr y gelyn, diffodd y goleuadau oherwydd y ‘black out’, mudo a dogni.
Ceir hefyd cardiau Sant Ffolant ymhlith y casgliadau. Roedd llawer o gardiau o’r 19eg ganrif wedi’u gwneud â llaw a’u lliwio’n brydferth, weithiau wedi’u haddurno â lluniau torri cywrain. Ymddangosodd cardiau a argraffwyd yn fasnachol tua diwedd y ganrif honno, ac mae’r cardiau hyn wedi’u haddurno’n brydferth i’n golwg modern ni. Dyma ddwy enghraifft o gardiau Sant Ffolant o Oes Fictoria (cyf. DX554D/18/3,9), ill dwy ag ymylau pluog.
A oes gennych unrhyw hen ddogfennau, ffotograffau neu gardiau Sant Ffolant? Os felly rhowch wybod i ni oherwydd hoffem eu hychwanegu at ein casgliad.
Archifau Morgannwg
Wefan: https://glamarchives.gov.uk/?lang=cy
Ebost: glamro@caerdydd.gov.uk