Yn gynharach eleni, cafodd Gwasanaeth Archifau Conwy a’n cydweithwyr yn yr adran Diwylliant a Gwybodaeth drafodaeth am sut yr oeddem yn mynd i gyfrannu at goffáu Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Cawsom y syniad o greu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol lle byddem yn postio/trydar ar gyfryngau cymdeithasol bob dydd yn ystod y 70 diwrnod yn arwain at benwythnos gŵyl banc y Jiwbilî, gyda phob diwrnod yn cynrychioli blwyddyn yn nheyrnasiad y Frenhines. Y diwrnod cyntaf fyddai delwedd o’r Archifau o 1953, y flwyddyn goroni, yr ail o 1954 ac yn y blaen nes y byddem yn cyrraedd 2022 ddydd Sul 6ed o Fehefin.

Roeddem i gyd yn gytûn y dylai’r 70 o ddelweddau adlewyrchu hanes pobl Sir Conwy o bob un o’r blynyddoedd hyn ac nid cynnwys “frenhinol”, oni bai bod digwyddiad/ymweliad sylweddol â’r ardal ar gyfer y flwyddyn honno. Gyda’r cynllun hwn mewn golwg, dechreuon ni ddewis delweddau a chyfansoddi testun ar gyfer pob blwyddyn o 1953-2022.

Llifogydd Towyn, (Conwy) 1990
CP359/51 Llifogydd Towyn, (Conwy) 1990

Roedd yn dasg ragorol i osod y ddau weithiwr ifanc newydd a oedd wedi dechrau gyda ni; Ottie, hyfforddai o’r Prosiect Uchelgais Diwylliannol, a phrentis modern, Elyssia. Penderfynwyd y byddai Elyssia yn dechrau ei hymchwil yn 1953 ac yn gweithio ymlaen, a byddai Ottie yn dechrau yn 2022 ac yn gweithio’n ôl, nes iddynt gwrdd yn y canol. Roedd hwn yn brosiect hyfforddi defnyddiol, gan ei fod yn cynnwys gweithio gyda chydweithwyr, ymchwil hanes lleol, defnyddio’r gronfa ddata CALM ar gyfer ymchwil catalog a gwybodaeth am leoliadau, adalw cofnodion, digideiddio lle bo angen, cyfansoddi testun deongliadol, ei gyfieithu ac yn olaf amserlennu cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Datguddio Palas Llywelyn Fawr, 1984
CP395/7/164 Datguddio Palas Llywelyn Fawr, 1984

Mae’r ymgyrch wedi cynyddu cynulleidfaoedd ar gyfer ein proffiliau cyfryngau cymdeithasol, ac rydym wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol iawn gydag ein dilynwyr. Mae peth o’r cynnwys wedi ysgogi pobl i rannu atgofion. Ein post fwyaf poblogaidd hyd yma yw ffotograff 1982 o fusnes lleol adnabyddus ‘Red Garages’ o Landudno ar eu pen-blwydd yn 75 oed, a gyrhaeddodd dros 8.5 mil o ddefnyddwyr ar Facebook.

Elusendai Llanrwst, 1976
CP395/17/45 Preswylydd olaf yn gadael Elusendai Llanrwst, 1976

Cyhoeddwyd y post cyntaf ar 28ain o Fawrth gyda’r tag #JiwbilîPlatinwmConwy / #PlatinumJubileeConwy, ac ar hyn o bryd rydym wedi cyrraedd post rhif 40 (1992, Marina Conwy yn agor). Mae’r prosiect wedi bod yn un cadarnhaol, gan adeiladu cynulleidfaoedd cyfryngau cymdeithasol, darparu cyfle i ddatblygu sgiliau staff, a chaniatáu i ni ddod o hyd i ffordd briodol o nodi’r Jiwbilî sydd yn canolbwyntio ar hanes pobl leol.

Gallwch ddilyn Gwasanaeth Archifau Conwy ar y cyfryngau cymdeithasol drwy’r cyfrifon canlynol:
Trydar @DiwylliantConwy
Facebook @diwylliantconwyculture

Kate Hallett, Uwch Archifydd, Gwasanaeth Archifau Conwy

Leave a Reply