Site icon Archifau Cymru

Gwarchod Mapiau Ystâd Plymouth o’r 18ed Ganrif

Rwy’n fyfyriwr gradd meistr mewn Ymarfer Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yn Archifau Morgannwg, gan helpu i warchod mapiau Ystâd Plymouth. Dyma gasgliad o fapiau ac arolygon o 1766 sy’n cwmpasu llawer o sir hanesyddol Morgannwg.  Maent yn cynnig cofnod pwysig o dirwedd a aeth drwy newidiadau topograffig enfawr yn ystod y chwyldro diwydiannol, a chafwyd grant gan yr Archifau i’w gwarchod.

Roedd rhan gyntaf y broses yr oeddwn yn ymwneud â hi yn ymwneud ag un o’r llyfrau a ddifrodwyd fwyaf.  Roedd y llyfr hwn eisoes wedi cael y driniaeth olchi a ddisgrifir isod, a bellach roedd angen tynnu’r hen atgyweiriadau. Ystyriwyd bod y rhain yn amhriodol, yn rhy drwm mewn mannau ac yn rhy ysgafn mewn mannau eraill, ac nid oeddent yn delio â’r holl rannau a ddifrodwyd. Mewn mannau roeddent hefyd yn rhy fawr ac yn cuddio gwybodaeth.

Atgyfnerthwyd y rhannau a ddifrodwyd drwy frwsio gyda thoddiant o 2% o’r atgyfnerthwr Klucel G mewn ethanol. Gosodwyd meinwe lens ar ben hyn, a rhoddwyd mwy o doddiant Klucel G i lynu meinwe’r lens yn ysgafn i frig y dudalen.

Y cam nesaf oedd cael gwared ar yr hen waith atgyweirio i’r cefnynnau. Gosodwyd tudalen wyneb i lawr ar ddalen o Bondina, polyester heb ei wehyddu, ar fwrdd sugno. Cymaint oedd y llwydni fel bod angen i’r bwrdd sugno ddal y rhannau o ddifrod i lawr wrth gael gwared ar yr hen atgyweiriadau. Gyda phapur a llai o ddifrod, gellid fod wedi codi’r hen atgyweiriadau mewn dŵr; fodd bynnag, yn yr achos hwn, byddai’r rhannau a ddifrodwyd yn ddifrifol wedi chwalu. Rhoddwyd cymysgedd dŵr ac alcohol ar rannau bach o’r cefnynnau, a’u caniatáu i socian am gyfnod byr, ac yna tynnwyd y cefnynnau i ffwrdd yn ofalus o’r papur gwreiddiol yn fecanyddol gydag offer deintydd metel a sbatwlâu bach.

Ar ôl i hyn gael ei gwblhau, trowyd y dudalen drosodd wedyn a thynnu’r feinwe lens o’r tu blaen. Gosodwyd papur hynod denau wedi’i wneud â llaw o Japan i’r rhannau a ddifrodwyd a’r rhannau coll gyda phast startsh gwenith. Roedd priodweddau’r papur hwn yn golygu y gellid cymryd yr atgyweiriadau hyd at ymylon y rhannau a ddifrodwyd heb reswm i orgyffwrdd fel yn achos yr atgyweiriadau blaenorol, a thrwy hynny beidio â chuddio unrhyw rannau o’r deunydd gwreiddiol.

Y cam nesaf i mi oedd ymuno i olchi un o’r llyfrau eraill nad oedd wedi eu trin eto. Y cam cyntaf yma yw diogelu’r inc coch a ddefnyddid yn y cyfriflyfr sy’n cyd-fynd â phob map yn ystod y cam golchi, gan fod profion wedi cadarnhau y byddai’r inc hwn yn rhedeg. Mae Cyclododecaine yn gwyr a ddefnyddir mewn triniaethau cadwraeth i orchuddio rhannau o wrthrychau dros dro gan ei fod yn sychdarthu’n naturiol dros ychydig ddyddiau gan adael dim ôl. Rhoddwyd hwn ar hyd y llinellau hyn gydag erfyn arbennig sy’n toddi’r cwyr ac yn caniatáu iddo gael ei osod yn daclus a chywir (ar ôl rhywfaint o ymarfer!).

Unwaith y bydd y rhannau hyn wedi’u diogelu, roedd y mapiau’n cael eu gwlychu â chymysgedd alcohol-dŵr isopropanol a’u rhoi rhwng dalenni mawr o Reemay, dalen bolyester wedi ei wehyddu a fyddai’n eu dal ynghyd ac yn eu hatal rhag rhwygo o dan eu pwysau eu hunain wrth gael eu symud rhwng baddonau.

Defnyddiwyd dau faddon mawr: roedd y cyntaf yn faddon dŵr pum munud, a dynnai y staeniau a achoswyd gan yr inc cyffredin a ddefnyddiwyd yn y lluniadau. Gallech weld yn glir y newid lliw graddol yn y dŵr yn profi ei effaith.  Y cynllun gwreiddiol oedd trin y papurau gyda chalsiwm ffytig ar y cam hwn, sy’n mynd ati’n weithredol i gael gwared ar rannau niweidiol yr inc cyffredin ei hun; fodd bynnag, canfu profion fod hyn yn effeithio’n negyddol ar liw’r inciau copr ac felly roedd yn rhaid hepgor y cam hwn.

Wedi hyn, symudwyd y mapiau i faddon yn cynnwys toddiant o galsiwm carbonad am bum munud arall. Mae’r toddiant hwn yn gweithredu fel clustog alcali, yn y gobaith y bydd yn diogelu’r tudalennau rhag unrhyw ddifrod pellach y gallasai cynhyrchion cyrydu asidig inc cyffredin ei achosi.

Ar ôl golchi, caiff y Reemay ei ddisodli ar ddwy ochr pob map â dalenni Bondina, gan gymryd gofal i osgoi unrhyw rychau gan y bydd y rhain yn sychu i’r mapiau. Yna fe’u gadawyd ar raciau i sychu.

Y broses derfynol yw seisio. Unwaith y bydd y cyclododecaine wedi sychdarthu yn llawn, bydd y papurau’n cael eu gwlychu unwaith eto a’u brwsio â thoddiant o 2% gelatin. Mae hyn yn amgáu cydrannau niweidiol yr inc cyffredin a’r inciau copr, gan eu hatal rhag dirywio ymhellach a pheri mwy o ddifrod i’r dogfennau.

Y cynllun yn dilyn triniaeth yw digideiddio’r dogfennau ac yna ail-rwymo’r cyfrolau yn eu rhwymiadau gwreiddiol a’u storio mewn blychau pwrpasol. Bydd y cyflwr llawer gwell a rhwyddineb trin y dogfennau yn cynyddu eu hygyrchedd yn aruthrol, gan ganiatáu iddynt gael eu defnyddio gan ymwelwyr, ymchwilwyr a grwpiau ysgol.  Rwy’n falch o’m rhan yn y prosiect ac yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau terfynol!

Cal James, Myfyriwr Ymarfer Cadwraeth Prifysgol Caerdydd

Gallwch ddilyn Blog Archifau Morgannwg yma: https://glamarchives.gov.uk/newyddion

Exit mobile version