“Dyma swllt, a dyma ddarn tair ceiniog a dyma….”

Roedd yn brofiad hyfryd gwylio menyw oedrannus iawn yn esbonio system arian Prydain cyn arian degol mewn ffordd amyneddgar i fenyw iau, yr oedd ganddi ddiddordeb mawr yn y mater.  Mae hyn yn hyfrytach fyth ar ôl deall bod gan y fenyw hŷn ddementia, a bod yr un iau yn aelod o dîm o ofalwyr.

Nid ydw i’n arbenigwr o gwbl am glinigau cof, na dementia na “therapi hel atgofion”.  Ond rydw i wedi arsylwi a rhannu’r pleser y gall archifau eu cynnig wrth siarad gyda phobl sydd â dementia a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

I bobl sydd â dementia, mae’r gorffennol yn aml yn fwy gwych – yn fwy byw, yn fwy cyffrous ac yn fwy cyson – na’r presennol.  Yma, hoffwn ddisgrifio fy ngwaith mewn caffi atgofion ac mewn cartref preswyl sy’n arbenigo mewn gofal dementia.

Bu cael cyswllt gyda fy nghymydog, Barbara, yn gatalydd pwysig yn y broses hon.  Ar ôl colli ei gŵr ffyddlon, darganfûm raddau llawn dementia Barbara, ac aethom ni, ei chymdogion, ati i’w helpu i aros yn ei chartref tra hoff am ddeunaw mis.  Bu digon o gyfleoedd i Barbara a minnau fwynhau perthynas swrrealaidd a hwyliog yn rhyfedd iawn.

Nid oedd ei diet, a oedd yn cynnwys sieri melys a chacennau fondant fancy yn bennaf, a’r ffaith ei bod yn ysmygu’n drwm, yn gwella ei chyflwr o gwbl.  Ond roedd Barbara yn gwmni llawen ac anarchaidd.  Dysgais nad yw dementia yn ofnadwy drwy’r amser o bell ffordd.  Roedd Barbara yn dwli ar y sinema pan oedd yn ifanc, gan fynd i’r “pictiwrs” gyda’i ffrindiau yn aml, ac rydw i’n cofio fy mhartner llawn ewyllys da yn dawnsio i lawr ein ffordd dawel gyda Barbara, y ddau ohonynt yn canu caneuon o ffilmiau o’r pedwardegau er mawr syndod i ambell yrrwr a oedd yn pasio.  Arferai losgi pecynnau cyfan o bethau cynnau tân yn y stôf bren gan eu bod yn creu tanllwyth hyfryd, ac arferai gerdded tair milltir i siop y pentref yn rheolaidd i brynu sieri a sigaréts.  Efallai ei fod yn swnio’n drasig, fel pe bai hi’n boddi ei gofidiau, ond mewn gwirionedd, roedd Barbara wedi anghofio ei gofidiau, roedd hi wrth ei bodd yn cael diod yn y prynhawn, ac nid oedd hi’n gweld unrhyw reswm dros beidio gwneud hynny.  Gall pobl sydd â dementia fod yn hapus iawn ac weithiau, gall archifau helpu.

Mynychwyd y sesiynau yng nghaffi’r cof ac yn y cartref gofal gan gynulleidfa a oedd wedi dewis mynychu.  Efallai y bu gofalwyr a staff yn gyfrifol am ddod â nhw at y bwrdd ond roedden nhw yno oherwydd eu bod yn dymuno bod yno.

Roedd sesiynau caffi’r cof yn fersiwn o “te a sgwrs” ac roedd y prociau i’r cof yn cynnwys effemera a dogfennau.  O ystyried pa mor agos oedd y te a’r cacennau, roedd hi’n hanfodol defnyddio ffacsimilïau a dirprwyon!  Arferai’r sesiynau yn y cartref gofal bara tua awr, gan gynnwys grŵp craidd o tua chwech neu wyth o breswylwyr ac aelod o staff.  Roedd aelodau eraill o staff ar eu hegwyl de yn ymuno gyda ni hefyd, gan eu bod yn mwynhau’r dogfennau a’r hel atgofion hefyd.  Roedd yn grŵp hwyliog.

Bydd pobl mewn cartref preswyl yn dod o bob cefndir.  Yn ystod fy ymweliad cyntaf, deuthum ar draws hen ffrind a oedd wedi cael lle yno yn ddiweddar, rhywun a arferai gyflawni swydd bwysig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Y tro nesaf, cyfarfûm ag awdur llyfr prydferth ac ysgolheigaidd am hanes naturiol Ceredigion.  Roedd dyn yno a arferai fod yn heddwas ym Motswana cyn i’r wlad honno sicrhau annibyniaeth.  Cefais gyswllt unwaith eto gyda gŵr yr arferwn ei weld yn y dorf mewn gemau pêl-droed lleol;  cymeriad swil, doniol a rhyfeddol a oedd wedi byw bywyd unig ar fferm fynydd ac yr arferai fentro i’r dref unwaith yr wythnos i siopa a mynd i wylio gemau pêl-droed.  Yna roedd y fenyw a arferai redeg y swyddfa post sirol, gwraig weddw swyddog o’r Awyrlu Brenhinol, perchennog siop – grŵp mor amrywiol.

O ganlyniad, roedd dewis thema ar gyfer sesiwn rhannu atgofion yn rhywbeth yr oedd yn rhaid ei ystyried yn eithaf gofalus, ac arferem chwilio am themâu cyffredinol y byddai modd eu hystyried yn eang.  Roedd hyn i gyd i fod yn ysgafn hefyd.  Ychydig iawn o bobl sy’n llwyddo i fyw eu bywyd heb unrhyw dristwch a thrasiedi, a cheir rhai atgofion y mae’n well peidio eu trafod os oes modd.

Felly cawsom sesiynau am gemau plentyndod, am hobïau a chwaraeon, ac adloniant, am atgofion o fynd i lan y môr, siopa, dillad a bwyd (mae cymaint o bethau yn Archifau Ceredigion yn cysylltu gyda bwyd!).  Cynhaliom sesiwn am yr Ail Rhyfel Byd – roeddwn yn teimlo’n nerfus am honno rhag ofn y byddai hi’n dwyn atgofion gwael i gof, ond roedd y staff yn y cartref gofal yn dymuno rhoi cynnig arni.  Arweiniodd at rai atgofion rhyfeddol o Ynys Manaw yn ystod y rhyfel, pleserau hyfforddiant y fyddin, a chyfarfod â swyddogion ifanc trwsiadus yn Llundain yn ystod y rhyfel.

Bu dewis y dogfennau yn broses hwyliog.  Dyma’r adeg i anwybyddu’r gweithredoedd eiddo o’r bymthegfed ganrif a throi at y deunydd o’r ugeinfed ganrif.  Dyma gyfle effemera i serennu.  Roedd ffurf y sesiynau’n cynnwys cymryd dogfennau wedi’u diogelu’n dda a/neu ddirprwyon, ac weithiau, rhai arteffactau yr oeddent yn berthnasol i’r thema ar gyfer y diwrnod.

Un o’r prif rhai ymhlith y rhain oedd y bocs o arian a ddefnyddiwyd cyn arian degol.  Dylai fod gan bawb dros 55 oed (wrth i mi ysgrifennu hwn!) ryw atgof o ryw fath o’r ‘hen arian’, sy’n cynnwys “copors” trymion : ceiniogau, dimeiau, “darnau tair ceiniog”, chwecheiniogau, sylltau, darnau deuswllt a darnau hanner coron.  Byddai pobl hŷn yn cofio ffyrlingod hefyd (a oedd yn werth chwarter ceiniog, ac yr oeddent yn cynnwys llun dryw), coronau a’r darn tair ceiniog hynach lliw arian.  Roedd yr arian papur yn wahanol hefyd, ac yn fwy o faint – y papur deg swllt brown, y papur punt gwyrdd, a’r papur £5 glas ; dim ond yr un olaf o’r rhain sy’n bodoli o hyd, fel fersiwn bychan.

Yn yr un modd ag y mae cof cyhyrau yn bwerus, mae cof cyffwrdd yn bwerus hefyd, ac yn aml, arsylwais lawenydd wrth i bobl deimlo siapiau a phwysau darnau arian a fu mor gyfarwydd iddynt yn y gorffennol.

Gan bod amrediad y profiad ac amrediad y cyflwr rhwng y preswylwyr yn sylweddol, roeddwn yn ceisio diwallu amrediad o gymwyseddau deallusol.  Un peth sy’n gyffredin ymhlith pawb mewn cartrefi gofal, i ryw raddau, yw eu hoedran, felly defnyddiais ddogfennau y gallent ddeffro atgofion ymhlith pobl rhwng tua 75 a 95 oed.

Adeg ysgrifennu hwn, byddwn yn canolbwyntio ar ddogfennau a luniwyd rhwng 1930 a 1955 er mwyn atgoffa pobl o’u plentyndod, a rhai o tua 1945 – 1980 wrth drafod gwaith, carwriaeth a phriodas, teuluoedd, a materion eraill sy’n rhan o fywyd oedolion.

Defnyddiom fapiau mawr yr Arolwg Ordnans i olrhain y ffyrdd mewn trefi lleol a chofio siopau a busnesau penodol.  Roedd hynny wedi gweithio’n dda iawn.

Defnyddiom restrau prisiau busnes groser o’r 1950au, ynghyd â hysbysebion o hen bapurau newydd a chylchgronau.  Defnyddiom ffotograffau (wedi’u sganio a’u chwyddo), llyfrau lloffion, cardiau post, cylchgronau a phapurau newydd – mae copïau yn fwy ymarferol a gwydn na rhai gwreiddiol, er bod cofio cyffyrddiad a ‘theimlad’ yn gallu bod yn bwysig er mwyn dwyn atgofion i gof.

Roedd arteffactau eraill ar wahân i’r arian a ddefnyddiwyd cyn arian degol yn cynnwys set drenau Hornby, melin wynt ar lan y môr a gêm dominos.  Gall hen declynnau cegin fod yn hwyl, ond dylech ystyried iechyd a diogelwch!

Ni allwch fyth ddarogan sut y bydd y sgwrs yn mynd, felly mae’r rhain yn wahanol iawn i ddigwyddiadau allgymorth eraill y mae’r gwasanaeth archifau yn rhoi cynnig arnynt.  Mae’r gallu i ganolbwyntio yn amrywio’n fawr o un person i’r llall – ac yn wir rhwng un ymweliad a’r llall – felly os na fydd rhywbeth yn gweithio, mae’n beth da cael cynllun wrth gefn yn barod.  Mae mynd gyda’r llif yn dda, ond mae sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddweud eu dweud yn gallu bod yn heriol – ac mae’n rhaid cydnabod ac anrhydeddu pob cyfraniad yn y ffordd gywir.  Weithiau, ni fydd rhywun yn dymuno cyfrannu, ond maent yn gwrando – cefais adborth gan aelod o staff am un dyn yr oeddwn yn credu ei fod yn pendwmpian trwy gydol y sesiwn, ond mewn gwirionedd, roedd yn gwrando ac roedd yn dymuno i mi glywed ei stori ef ar ôl i’r sesiwn ffurfiol orffen.  Roedd preswylwyr yn tueddu i fod yn gefnogol ac yn garedig i’w gilydd : rydw i’n trysori’r atgof pan oedd un gŵr oedrannus iawn wedi patio pen-glin un arall mewn ffordd a oedd yn llawn cydymdeimlad, ar ôl iddo ddatgelu ei fod wastad wedi teimlo’n rhy swil i ofyn i ferch ddawnsio yn Neuadd y Brenin eiconig Aberystwyth drigain mlynedd yn ôl, ac yr arferai syllu arni yn serchus o ddiogelwch y bar.

I bobl yn y grŵp, roedd yn ymddangos bod cael yr hyder i fod ar y llwyfan yn brofiad calonogol iddynt.  Daw’r hyder o sicrwydd eu gorffennol, a’i gofio o flaen cynulleidfa y mae ganddi ddiddordeb.  Rydym oll yn gwybod bod colli hunanhyder yn gallu bod yn brofiad mor wanychol a thorcalonnus, ac mae hyn yn gallu bod yn ffactor mawr gyda dementia.  Roedd y sesiynau wedi helpu i adfer hyder a hunan-barch, gan bod y bobl oedrannus iawn hyn wedi cael cyfle i serennu ac esbonio hanesion rhyfeddol y gorffennol i ni y “bobl ifanc”.

Roedd hi’n braf i’r staff hefyd.  Mae gweithio mewn cartref preswyl yn swydd anodd iawn.  Mae cryn dipyn o waith corfforol, a gall y gwaith fod yn rhwystredig, gall fod yn flinderus iawn, yn gorfforol ac yn emosiynol, ac mae’r cyfrifoldebau yn sylweddol.  Yn aml, ni fydd y tâl yn wych.  Efallai y bydd aelodau o staff iau yn ei chael hi’n anodd dychmygu bod eu cleientiaid fyth wedi bod yn ifanc fel nhw.  Yn ystod y sesiynau hyn, ni fydd yn rhaid i’r staff weithio, ni fydd yn rhaid iddynt fod wrth y llyw, ac mae’n ymddangos eu bod yn wirioneddol fwynhau gwrando a chymryd rhan.  Yr adegau mwyaf hwyliog yw pan fydd y preswylwyr yn arwain y sgwrs, fel y gwelwyd yn yr enghraifft a ddyfynnwyd ar ddechrau’r blog hwn.

A pha fudd y bydd yr Archifau yn ei gael o hyn?  Bydd pobl yn dod i’n hadnabod yn well yn y gymuned fel gwasanaeth sy’n gallu cynnig rhywbeth rhyfeddol.  A byddwn yn cael y teimlad ein bod yn gwneud rhywbeth cadarnhaol a da, a’i fod yn cael ei werthfawrogi – er bod hyn mewn ffordd fyrhoedlog a dirfodol gan y prif fuddiolwyr.

Ond mae elfennau eraill hefyd.  Roedd nifer o’r bobl y bûm yn gweithio gyda nhw yn hen iawn iawn – yng nghanol eu nawdegau neu’n hŷn.  Weithiau, bu farw un neu ddau rhwng un sesiwn a’r un nesaf.  Roedd rhai wedi bod yn ffrindiau personol ers nifer o flynyddoedd.  Roedd rhai ohonynt yn ffrindiau mwy newydd y cefais y fraint o rannu eu gorffennol bendigedig.  Rhaid cyfaddef ei fod wedi peri i mi deimlo ychydig yn ddigalon.  Mae’n gwneud i chi sylweddoli o’r newydd pa mor rhyfeddol o hyfryd ac amrywiol a bregus yw bywyd.  Wrth gwrs, mae pobl hen iawn yn debygol o farw, ond mae’n memento mori go iawn ac yn eithaf hyfryd gweld sut y gall y bobl benodol hyn, yr ymddengys eu bod wedi cael eu pylu gymaint gan afiechyd creulon, fod mor fywiol a difyr wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hoes.

Mae’n peri i chi gofio’r un peth hwnnw am archifau hefyd : pa mor solet ac oesol yw papur a memrwn.  Rydw i o hyd yn synnu o weld bod cynnwys disglair pob ymennydd yn diflannu oni bai bod y straeon sydd ynddo yn cael eu hysgrifennu.  Mae’n gwneud i chi sylweddoli pa mor ddinod ar lefel ystadegol – ond hefyd, pa mor werthfawr yn ddiwylliannol – yw rôl ein harchifau wrth ddynodi meddyliau a gweithredoedd dynol yn y gorffennol.

Yn aml, byddwn yn defnyddio geiriau cof ac archifau gyda’i gilydd.  ‘Cof corfforaethol’ a ‘chof cymunedol’ yw archifau.  Yn wir, cysgod gwelw o atgofion go iawn yw archifau mewn gwirionedd, lle y mae’r dystiolaeth ynddynt yn goroesi cof byrhoedlog yr ymennydd dynol er mwyn darparu argraff lled-gydlynol o’r gorffennol.

Pethau rhannol, clytiog a thruenus ydynt mewn gwirionedd, gan roi awgrym o gywreinrwydd cyfoethog hanes dynol, ond dyna’r unig beth sydd gennym, felly dyna pam eu bod mor werthfawr.

Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi cael pleser gwrthnysig wrth geisio peidio casglu’r straeon, eiliadau llachar y gorffennol y clywais amdanynt yn y gwaith hwn, gan nad hynny oedd diben fy mhresenoldeb yma.  Roedd wedi peri iddo deimlo fel gwyliau i mi.

Mae defnyddio archifau yn yr ystyr arbennig hwn yn ymwneud â pethau ‘o fewn cof’.  Defnyddiais eitemau o’r ugeinfed ganrif o’r casgliadau er mwyn cymell naratif, procio’r cof a chynnig pleser.  Fel proffesiwn, mae disgwyl cynyddol arnom i gynhyrchu dadansoddiad ansoddol a meintiol o’n gwaith allgymorth a’i fanteision.  Mawr obeithiaf y gallwn gynnwys rhinweddau bywiogrwydd a hwyl yn falch, er na allwn eu mesur efallai.

Helen Palmer,
Archifydd y Sir a Rheolwraig Gwybodaeth a Chofnodion
Archifdy Ceredigion

Leave a Reply